Partneriaeth Strategol Tecsas

Cyflwyno manteision i fyfyrwyr a staff ar draws pob un o’r Colegau Academaidd

Baner Tecsas

Gan gwmpasu wyth prifysgol a sefydliad iechyd blaenllaw, mae Partneriaeth Strategol Tecsas Prifysgol Abertawe yn enghraifft o bartneriaeth sy'n arwain y sector ac sydd wedi bod ar y rhestr fer ddwywaith ar gyfer Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Addysg Uwch papur newyddion y Times (THELMA).

 Mae'n unigryw oherwydd ehangder a dyfnder y gweithgareddau ymchwil, addysgu a symudedd sy'n cyrraedd pob un o Golegau academaidd y Brifysgol, gan gyflwyno manteision i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Lawrlwythwch ein cylchlythyr Texas Partnership Newsletter Spring 2019.

Sefydliadau sy’n bartneriaid yn Tecsas

Hanes Partneriaeth Strategol Tecsas

Mae’r berthynas rhwng Abertawe a Thecsas yn deillio o Brosiect Cydweithredol Tecsas-y DU, menter ledled y DU a sefydlwyd yn 2002 i ysgogi’r broses o gyfnewid syniadau ac ymchwil mewn biofeddygaeth, nanodechnoleg a gwybodeg er mwyn dod o hyd i feddyginiaethau ar gyfer rhai o heriau iechyd mwyaf dybryd yr 21ain ganrif megis canser a chlefyd y galon.

Roedd y Prosiect Cydweithredol yn cynnwys deg prifysgol a choleg meddygol yn Nhecsas, ac roedd Abertawe yn un o wyth prifysgol yn y DU a wahoddwyd i ymuno â nhw, gan ddod yn rhan o'r Prosiect Cydweithredol yn 2006.

Ar ôl sefydlu nifer o berthnasoedd llwyddiannus erbyn i Brosiect Cydweithredol Tecsas-y DU ddod i ben, parhâi Abertawe i fuddsoddi ynddyn nhw a’u meithrin, a hynny er mwyn datblygu partneriaeth strategol aml-ddimensiwn ac amlddisgyblaethol sydd bellach yn cael ei chydnabod yn un o brif Bartneriaethau Strategol Rhyngwladol y DU.