Deilliodd Partneriaeth Strategol Tecsas y Brifysgol o berthnasoedd ymchwil a ddatblygodd o'r Cydweithrediad rhwng Tecsas a'r DU a noddwyd gan y Llywodraeth ac mae cydweithrediadau ymchwil yn parhau wrth wraidd y bartneriaeth.

Wedi'u meithrin a'u cefnogi gan gronfa cyllid benodol a rhaglen ddwys o ryngweithiadau rhwng ymchwilwyr, mae'r cydweithrediadau hyn yn dod â rhai o academyddion mwyaf blaenllaw’r byd ynghyd a gyfunodd eu synergeddau ymchwil a'u harbenigedd ategol i gyflawni prosiectau ymchwil newydd, ceisiadau ar y cyd am grantiau, rhwydweithiau academaidd newydd, cynadleddau a phapurau cynhadledd ar y cyd ac i gyflwyno papurau i gyfnodolion ar y cyd ar ddwy ochr yr Iwerydd.

Gallwch ddarllen rhai o'n hastudiaethau achos isod neu lawrlwytho ein Llyfryn Partneriaeth Strategol Tecsas

Gwyddor Chwaraeon

dau berson yn chwarae mewn tîm

Peirianneg Drydanol

Mesurydd foltiau

Ailargraffu ac adfywio

Llun llyfrau ail law

Delweddu data

Llun digidol data

Prisiau Olew a Hylifedd Ariannol

Drymiau olew

Ieithoedd a etifeddir

Eitem mewn geiriadur

Nanodiwbiau Carbon

Simneiau yn erbyn machlud

Nanofeddygaeth

Llun chwistrell

Gwyddor Chwaraeon

Plant yn chwarae pêl-droed

Gwyddor Chwaraeon

Mae meta-ddadansoddiad gan Dr Kelly Mackintosh o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol A&M Tecsas a sefydliadau eraill ar fin cael ei gyhoeddi yn y Journal of Sport and Health Science.

Nod y cydweithrediad, a adolygodd 57 astudiaeth flaenorol, oedd asesu effeithiolrwydd ymyriadau yn yr ysgol wrth gynyddu gweithgarwch corfforol a/neu leihau amser eisteddog ymhlith plant. Ni welodd yr ymchwilwyr dystiolaeth bod ymyriadau wedi cael effaith ar yr amser roedd plant yn ei dreulio'n gwneud gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol - canfyddiadau y mae ganddynt oblygiadau pwysig ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Galluogodd grant teithio Erasmus+ Dr Grazia Todeschini o'r Coleg Peirianneg i ddatblygu cydweithrediad ym Mhrifysgol Tecsas yn Austin. Gan adeiladu ar ddiddordebau cyffredin mewn cyfyngiadau o ran lefelau pŵer ffotofoltäig ar gyflenwyddion dosbarthu, algorithmau rheoli ar gyfer systemau rheoli adnoddau ynni dosbarthedig ac algorithmau rheoleiddio foltedd, mae'r ymchwil yn archwilio dulliau gwahanol i leihau ymyriadau ag ansawdd pŵer mewn systemau trydanol.

Cyflwynwyd dau bapur yn seiliedig ar y gwaith hwn yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Pŵer ac Ynni Sefydliad y Peirianwyr Electronig a Thrydanol (IEEE), a chyhoeddwyd pedwar papur arall yn Nhrafodion yr IEEE a chyfnodolion yr IET.

Peirianneg drydanol

Mesurydd foltiau

Ailargraffu ac adyfwio

Llun llyfr ail law

Derbyniodd Dr Eoin Price o'r Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Ddyfarniad Cyllid Cydweithredu Tecsas i ddatblygu cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol A&M Tecsas. Roedd yn gallu ymgysylltu ag arbenigwyr hanes llyfrau, cymryd rhan mewn gweithdy hanes llyfrau a chyflwyno papur am ailargraffu ac adfywio a arweiniodd at wahoddiad i'w gyhoeddi mewn rhifyn arbennig o'r cyfnodolyn Shakespeare Bulletin.

Yn dilyn ei ymweliad, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil yng Nghanolfan Harry Ransom Prifysgol Tecsas yn Austin i Dr Price, gan ganiatáu iddo ymgymryd ag ymchwil yn ei harchif Celfyddydau Perfformio ar gyfer ei brosiect nesaf, Early Modern Drama and the Jacobean Aesthetic.

Cyhoeddwyd canlyniadau'r ymchwil sydd ar y gweill rhwng cyfrifiadurwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Houston  yn y cyfnodolyn IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics. Mae'r papur, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Dr Bob Laramee o Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol Houston, yn canolbwyntio ar y gydberthynas linol a dibyniaeth aflinol priodweddau ffisegol gwahanol llifoedd ansefydlog er mwyn hwyluso eu hastudio o safbwynt newydd.

Sefydlwyd y cydweithrediad rhwng Dr Laramee a Dr Guoning Chen o Brifysgol Houston yn 2009 ac ar y cyd â chydweithwyr, maent wedi cyhoeddi 11 papur mewn cyfnodolion a dwy bennod llyfr ac wedi cyflwyno wyth papur ar y cyd mewn cynadleddau.

Delweddu data

Llun digidol data

Prisiau Olew a Hylifedd Ariannol

Drymiau olew

Y gydberthynas fyd-eang rhwng prisiau olew, hylifedd ariannol a risg geo-wleidyddol yw thema cydweithrediad ymchwil rhwng Dr Hany Abdel-Latif o'r Ysgol Reolaeth a'r Athro Mahmoud el-Gamal o Brifysgol Rice.

Eu gwaith ymchwil, a gyhoeddwyd yn Applied Economics Letters a'r Fforwm Ymchwil Economaidd, yw'r prosiect cyntaf i ystyried pob un o'r tri newidyn byd-eang ar yr un pryd, ac mae'n dod i'r casgliad y byddai gostyngiad sylweddol mewn prisiau olew yn cynyddu risg geo-wleidyddol ac yn lleihau hylifedd ariannol byd-eang, tra byddai cynnydd mewn risg geo-wleidyddol yn arwain at gynnydd mewn prisiau olew - cylch a welwyd yn ystod Rhyfel cyntaf Irac.

Yn rhan o rwydwaith diogelwch ynni byd-eang â chysylltiadau cryf â Thecsas, mae gan Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe (ESRI) nifer o gydweithrediadau ar y gweill â sefydliadau partner yn Nhecsas.

Mae'r rhain yn cynnwys prosiect sydd ar y gweill gyda Phrifysgol A&M Tecsas ar addasiad ffisegol i nanodiwbiau copr-carbon dargludol uwch, a chydweithrediad â Phrifysgol Rice a GE (Efrog Newydd) ar brosiect i greu ceblau dargludol iawn wedi'u gwneud o nanodiwbiau copr a charbon. Mae'r ail brosiect ymchwil, a ariennir gan Swyddfa Ymchwil y Llynges (ONR), wedi arwain at ddau gais am batent a saith cyhoeddiad a adolygwyd gan gymheiriaid hyd yn hyn.

Simneiau gyda mwg yn erbyn machlud

Ieithoedd a etifeddir

Eitem mewn geiriadur

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i'r Athro Tudur Hallam o Academi Hywel Teifi i'w alluogi i dreulio saith mis ym Mhrifysgol Houston yn gweithio ar brosiect i archwilio sut caiff ieithoedd, diwylliannau a llenyddiaethau lleiafrifol eu llethu a'u hadfywio.

Gan weithio gyda'r Athro Nicolas Kanellos o Brifysgol Houston, archwiliodd ei ymchwil y cyffelybiaethau rhwng y ddynameg Cymraeg/Saesneg a'r ddynameg Sbaeneg/Saesneg yn Nhecsas, a'r cyffelybiaethau rhwng gwaith yr Athro Kanellos ym maes adfer treftadaeth lenyddol Sbaeneg yr UD a gwaith ysgolheigion Cymraeg megis Saunders Lewis a fu’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae'r Athro Paul Rees a'r Athro Huw Summers o'r Ganolfan Nanodechnoleg Amlddisgyblaethol yn gweithio gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Feddygol Tecsas i ddatblygu technegau arloesol newydd i drin tiwmorau canser.

Mae eu rhwydwaith ymchwil helaeth yn cynnwys ymchwilwyr o fri rhyngwladol ym meysydd nanofeddygaeth a biobeirianneg o Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston (HMRI) a Choleg Meddygaeth Baylor, y maent wedi ysgrifennu dros 10 papur ymchwil ar y cyd â nhw.

Mae'r cydweithrediad hwn ag HMRI yn ymchwilio i ddefnyddio nanoronynnau at ddiben cludo cyffuriau therapiwtig i safleoedd tiwmor penodol, techneg a allai leihau sgil effeithiau cyffuriau'n sylweddol.

Nanofeddygaeth

Llun chwistrell