Mae Partneriaeth Strategol Tecsas yn caniatáu i fyfyrwyr yn Abertawe a Thecsas elwa ar brosiectau addysgu cydweithredol megis rhaglenni ar y cyd, rhannu arbenigedd, arferion gorau yn ogystal â mentrau cydweithredol gan y myfyrwyr.

Darllenwch am rai o'n prosiectau addysgu cydweithredol diweddaraf yng Nghylchlythyr Texas Partnership Newsletter Spring 2019.

Dyfeisiwch dros y blaned

Profiad dylunio dwys yw cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ sy'n herio myfyrwyr mewn mwy na 40 o brifysgolion ledled y byd. Y dasg a roddir iddyn nhw yw datrys rhai o broblemau mwyaf dybryd y byd o fewn 48 awr yn unig.

Dan arweiniad Prifysgol A&M Tecsas, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau lleol i ddatblygu a chyflwyno datrysiadau posibl i heriau megis diogelwch bwyd, rheoli gwastraff, defnyddio ynni a llifogydd.

Prifysgol Abertawe yw’r unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan ac yn 2019 cyrhaeddodd tîm o Abertawe'r 3ydd safle yn Rownd Derfynol cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ yn Nhecsas.

Myfyrwyr yn gweithio ar brototeip

Matthew Ware, Myfyriwr Graddedig

"Roedd y cyfle i gael fy lleoli yn Houston yn un na allwn i ei wrthod"

Matthew Ware

PhD Cydweithredol

Yn 2012 sefydlodd Prifysgol Abertawe raglen PhD Cydweithredol gyda Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston.

Yn deillio o brosiectau ymchwil cydweithredol mewn Nanotechnoleg, mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i dreulio ail a thrydedd flwyddyn eu PhD yn Houston.

Myfyriwr graddedig cyntaf y rhaglen oedd  a aeth ymlaen i weithio yng Ngholeg Meddygaeth Baylor. Helpodd Matthew hefyd i sefydlu Rhaglen Haf Tecsas Gwyddorau Meddygol Cymhwysol y Brifysgol.

Cyfraith ar y Strydoedd

Bu cydweithwyr o Ysgol y Gyfraith a Chanolfan y Gyfraith Prifysgol Houston yn cydweithio i ddatblygu modiwl newydd mewn Cyfraith ar y Strydoedd yn Abertawe.

A hithau’n rhaglen addysg gyfreithiol am ddim a gyflenwir i ysgolion neu grwpiau cymunedol, mae Cyfraith ar y Strydoedd yn grymuso pobl trwy roi gwybodaeth iddyn nhw am y gyfraith, y system gyfreithiol a hawliau dynol mewn cymdeithas ddemocrataidd.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu ac yn cyflwyno sesiwn y gyfraith ar bwnc dethol, gan ganiatáu iddyn nhw feithrin sgiliau a hyder wrth gyfathrebu meysydd cymhleth yn y gyfraith mewn ffyrdd sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Ers eu cyflwyno yn 2017, mae sesiynau Cyfraith ar y Strydoedd wedi cael eu cyflenwi i fwy na 300 o bobl ifanc mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid.

Tîm Y Gyfraith Ar y Strydoedd

Tîm Y Gyfraith Ar y Strydoedd

Tîm Y Gyfraith Ar y Strydoedd

Y Ddaear yn 2100

Brigyn sych

Y Ddaear yn 2100

Mae prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Geowyddorau Jackson a'r Adran Ddaearyddiaeth wedi caniatáu i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Tecsas yn Austin elwa ar arbenigedd academyddion Abertawe.

Cyfrannodd yr Athro Mary Gagen o Abertawe, sef gwyddonydd hinsawdd sy'n arbenigo mewn ymchwilio i’r ffordd mae’r hinsawdd wedi newid yn y gorffennol, a pha gliwiau mae hynny’n eu rhoi  inni am sut y gallai hyn newid yn y dyfodol - ddarlithoedd ar ystod o bynciau i fodiwl ar-lein newydd, sef "Y Ddaear yn 2100", sy'n datblygu gwybodaeth myfyrwyr am y wyddoniaeth sy’n gefndir i newidiadau yn yr hinsawdd, effaith bosibl y rhain yn ogystal â’r heriau sy'n wynebu'r diwydiant ynni.