Profiad dylunio dwys yw cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ sy'n herio myfyrwyr mewn prifysgolion gwahanol ledled y byd. Y dasg a roddir iddyn nhw yw datrys rhai o broblemau mwyaf dybryd y byd o fewn 48 awr yn unig.

Dan arweiniad ein partner, Prifysgol A&M Tecsas, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn timau lleol i ddatblygu datrysiadau i heriau megis diogelwch bwyd, rheoli gwastraff, defnyddio ynni a llifogydd. Bydd timau o fyfyrwyr yn datblygu cysyniadau, prototeipiau a chynigion llafar cryno a gyflwynir wedyn i banel o feirniaid arbenigol. Darllenwch am eu syniadau isod.

Yn 2018 roedd Abertawe yn un o 14 prifysgol yn unig ledled y byd a wahoddwyd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth agoriadol ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ a hyd yn hyn hi yw’r unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan.

Yn 2019 dewiswyd tîm o Abertawe i gymryd rhan yn Rownd Derfynol cystadleuaeth ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’ yn Nhecsas gan gyrraedd y 3ydd safle yn gyffredinol.

Tîm Abertawe yn y 3ydd safle

Rownd Derfynol Dyfeisiwch Dros y Blaned 2019

Tîm buddugol Myfyrwyr

Dod o Hyd i Ddatrysiadau ar gyfer Problemau Mwyaf Dybryd y Byd

Mae’r timau'n dewis her o blith set o Ddatganiadau  Anghenion megis:

  • Gwella ailgylchu
  • Lleihau gwastraff bwyd
  • Atal tanau mewn ardaloedd manwellt
  • Lleihau plastigau untro
  • Mynd i'r afael â newyddion ffug
  • Darparu mynediad i ddŵr glân

ENNILLYDD 2020: LifeLight

Ambiwlans

2020 YR AIL ORAU: OCEAN'S HEAVEN

Sbwriel yn y môr

2019 Enillydd: SuperSocials

Llun o sgrîn iPhone

2019 Yr Ail orau: Tech Connect

Tech connect

Tîm Buddugol 2020: LifeLight

Datganiad  Anghenion: Mae dinas graff yn defnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu i fynd i'r afael â materion cyhoeddus drwy gynnig datrysiadau sy'n defnyddio adnoddau'n fwy deallus ac yn fwy effeithlon. O ganlyniad, bydd dinasoedd craff yn gwneud arbedion o ran costau ac ynni, bydd ganddyn nhw well darpariaeth o ran gwasanaethau ac ansawdd bywyd yn ogystal ag ôl troed amgylcheddol is. Byddai datblygu, disodli neu uwchraddio proses neu dechnoleg sy'n bodoli eisoes yn gwneud dinas yn graffach.

Cynnyrch: LifeLight

Nod y datrysiad hwn yw gwella amseroedd ymateb cerbydau brys drwy ddefnyddio pensaernïaeth system Rhyngrwyd y Pethau (IoT) i rybuddio modurwyr ym mlaen llaw bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn agosáu fel y byddan nhw’n gallu symud o'r ffordd.

Aelodau'r tîm: Alexander Santo Ruiz (Peirianneg Fecanyddol), Patryk Adamiak (Peirianneg Fecanyddol), Olimpain Belu (Peirianneg Fecanyddol), Mahmoud Elshenawy (Gwyddor Ddeunyddiau a Pheirianneg)

Tîm Buddugol 2019: SuperSocials

Datganiad  Anghenion: Mae cyfran fawr o'r boblogaeth yn treulio cyfran o leiaf o'u bywydau yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Gall hyn ddigwydd yn ystod cyfnod glaslencyndod ac ymestyn i'w bywyd fel oedolyn. A allwn ni ddylunio system sy’n well na'r cyfryngau cymdeithasol cyfredol, sy'n cysylltu pobl â’i gilydd ac sy’n lleihau unigrwydd?

Cynnyrch: Ap SuperSocials

Mae'r datrysiad hwn yn defnyddio arloesiadau technolegol megis cyfathrebu maes agos, geo-leoli a’r cyfryngau cymdeithasol i annog defnyddwyr i fynd allan i gwrdd â phobl newydd a lleihau unigrwydd.

Gall defnyddwyr ennill pwyntiau drwy gwrdd â phobl newydd, creu digwyddiadau a chymryd rhan ynddyn nhw. Gellir defnyddio'r pwyntiau hyn yn nes ymlaen ar gyfer eitemau neu mewn busnesau lleol.

Aelodau’r tîm: Josephine Leong (Peirianneg Fecanyddol), Jekaterina Macilevic (Peirianneg Gemegol), Anna von der Bank (Peirianneg Awyrofod), Sajal Gurung (MSc), Tofazzal Rashid (MSc)

"Mae gan ein dyfais arloesol y gallu i achub bywydau dirifedi"

Mahmoud Elshenawy, Tîm Buddugol 2020

Mahmoud Elshenawy

"Dysgais i gymaint o gael y cyfle i weithio fel tîm rhyngddisgyblaethol"

Christine Entwisle, Peirianneg Gemegol, a gymerodd ran yn 2018

Myfyrwyr yn eistedd o gwmpas bwrdd

Tîm Ail Orau 2020: Ocean's Heaven

Datganiad  Anghenion: Mae pryder cynyddol ynghylch “Pentwr Sbwriel Enfawr y Môr Tawel” sy'n arnofio ar hyn o bryd yng ngogledd y Môr Tawel. Fodd bynnag, nid y gwastraff plastig gweladwy o reidrwydd sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r amgylchedd - y microronynnau bach sy’n gwneud hynny. Po hiraf y bydd y microblastigion hyn yn dod i gysylltiad â nifer o elfennau cefnforol, mwyaf gwenwynig yn y byd y gallan nhw fod. Sut rydyn ni'n casglu ac yn cael gwared ar blastigion cefnfor yn y ffordd gywir?

Datrysiad:

System casglu a didoli plastigion modiwlaidd sydd wedi'i haddasu i dynnu a didoli plastigion ar wyneb y dŵr.

Gan ddefnyddio system twndis sy’n sugno, mae'r ddyfais yn tynnu plastigion i mewn ac yn eu didoli’n blastigion caled (thermoblastigion), plastigion meddal (thermo-osod) a microblastigion.

Aelodau’r tîm: Abigail Crane (Peirianneg Gemegol), Michal Urbanski (Peirianneg Fecanyddol), Jessica Sarah Britton (Peirianneg Fecanyddol), Florence Mayo (Peirianneg Feddygol), Hamza Eren Gunaltay (Peirianneg Awyrofod), Roby Karan Singh (Peirianneg Electronig a Thrydanol)

Tîm Ail Orau 2019: Tech Connect

Datganiad  Anghenion: Rydyn ni’n derbyn addewidion bod byd ar gyrraedd lle y bydd popeth ym mhob man wedi'i gysylltu. Fodd bynnag, am y tro, mae “pethau” wedi'u cysylltu'n bennaf mewn cartrefi, mewn ffatrïoedd ac mewn cyd-destunau trefol. Cyn gynted ag y byddwch chi'n mentro i'r gwyllt, bydd cysylltedd y rhwydwaith yn dechrau pallu. Mae Airbus yn datblygu sglodyn electronig newydd y gellir ei ymgorffori’n rhan o unrhyw gynnyrch fel y gellir cysylltu ein “pethau” unrhyw le, unrhyw bryd. Dewch o hyd i gymhwysiad addawol ar gyfer y sglodyn hwn.

Datrysiad: Defnyddio sglodyn IoT Airbus i gyflwyno mynediad at rwydweithiau drwy loeren a chellog i’r ardaloedd hynny yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgîl trychinebau naturiol:

Byddai'r sglodyn yn cael ei leoli y tu mewn i gas caled sy'n gwrthsefyll dŵr ac yn cael ei anfon yno gan ddrôn, gan ganiatáu i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw yn sgîl methiant mewn cyfathrebu gael eu hailgysylltu'n gyflym â rhwydweithiau cellog a’r rhyngrwyd.

Aelodau’r tîm: Abigail Crane (Peirianneg Gemegol), Chalisa Ano (Peirianneg Ddeunyddiau), Henry Hoddinott (Peirianneg Gemegol), Michal Urbanski (Peirianneg Fecanyddol), Ryan Gallagher (Peirianneg Ddeunyddiau)

Panel Dyfarnu Dyfeisiwch dros y Blaned 2019

Yn cynnwys academyddion Prifysgol Abertawe a chyn-fyfyrwyr y Coleg Peirianneg

Panel Dyfarnu

Dyfeisiwch dros y Blaned 2019:

32 myfyriwr, 13 gwlad, 7 Disgyblaeth Peirianneg

Llun o'r grŵp