Dominica Khoo o Faleisia oedd un o'r myfyrwyr cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen gyfnewid Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol A&M Tecsas.

Ar ôl graddio yn 2015, aeth Dominica ymlaen at astudiaethau MRes a PhD, ac yn 2018 dechreuodd rôl fel Peiriannydd Dadansoddi Mecanyddol gyda Dyson yn Kuala Lumpur. 

Yn bendant, rhoddodd y semester yn Nhecsas y gallu imi fod yn fwy hyblyg mewn cyd-destunau ‘tramor’. Waeth ble bydda i’n mynd, bydda i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith gan fy mod i’n teithio llawer yn fy ngwaith. Yn sgîl y semester, datblygwyd fy hyblygrwydd personol a fy ngallu i ddod i gyfaddawd, i ganolbwyntio ac i lwyddo yn ystod cyfnodau heriol." Darllenwch fwy ...

Dominica Khoo

Dominica Khoo

Otteh Edubio

Otteh Edubio

Otteh Edubio oedd un o'r myfyrwyr cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen gyfnewid Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol A&M Tecsas.

Ar ôl graddio yn 2015 gyda gradd mewn Peirianneg Feddygol, cafodd swydd gyda Smith & Nephew. Yn 2019 symudodd i Gambodia lle mae bellach yn gweithio i OKRA Solar, menter gymdeithasol sy'n helpu i ddarparu pŵer dibynadwy i 900 miliwn o bobl sy'n byw oddi ar y grid yng Nghambodia, y Philipinau ac Indonesia.

"Yr hyn rwy’n ei garu fwyaf am y swydd hon yw'r effaith rwy’n uniongyrchol gyfrifol amdani: pan fyddwn ni’n gosod trydan 24/7 y gall cartref bellach ei ddefnyddio i bweru oergell neu offer pŵer neu ffyrnau, rwy’n cael boddhad parhaol sy'n rhagori’n sylweddol ar y codiadau cyflog yr oeddwn i’n arfer eu derbyn!". Darllenwch ragor ...

 

Graddiodd Alistair Barnes, sy'n hanu o East Sussex, ym 1990 ar ôl ennill gradd mewn Cemeg a Gwyddor Reoli.

Symudodd i Houston yn fuan wedi hynny i weithio yn y diwydiant yswiriant ac, ers 2009, mae'n gweithio i grŵp AmWINS, un o gyfanwerthwyr yswiriant mwyaf yr UD.

Yn Houston, sefydlodd Alistair Mission Squash, sef rhaglen ddwys i gyfoethogi bywydau ieuenctid y ddinas. Ei nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc o gartrefi difreintiedig greu dyfodol gwell iddynt eu hunain drwy arweiniad academaidd, hyfforddiant sboncen a gwasanaeth cymunedol.

Alistair Barnes

Alistair Barnes mewn helmed ac mewn siwt

Matt Ware

Matt Ware

Cwblhaodd Matthew Ware o Abertawe ei raddau Baglor a Meistr yn Abertawe cyn cofrestru ar ei rhaglen PhD gydweithredol ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston.

Ar ôl graddio, arhosodd Matthew yn Nhecsas gan ymchwilio i ffyrdd newydd o drin canserau pancreatig a hepatig yng Ngholeg Meddygaeth Baylor. O ganlyniad i'w ymchwil, cofrestrwyd dau batent newydd, gan gynnwys Dyfais CorleyWare - dyfais a ddefnyddir yn ystod llawdriniaeth i drin rhannau o diwmor canseraidd nad oes modd eu torri allan â chyllell llawfeddyg.

Yn ystod haf 2018, penodwyd Matthew i rôl newydd, gwyddonydd gyda Celgene, cwmni biotechnoleg sy'n darganfod, yn datblygu ac yn masnacheiddio meddyginiaethau i drin canser ac anhwylderau llidol.

Graddiodd Vijay Bhagi o Brifysgol Abertawe ym 1966 â gradd mewn Peirianneg Gemegol.

Ac yntau'n wreiddiol o Bombay (Mumbai bellach), bu Vijay yn un o sefydlwyr Cymdeithas Myfyrwyr o Dras Indiaidd Prifysgol Abertawe ac ef oedd ysgrifennydd y Gymdeithas.

Bu Vijay yn gweithio fel peiriannydd proses yn yr Alban, India a Thecsas i nifer o gwmnïau gan gynnwys BP Chemicals a Technip. Erbyn hyn, mae Vijay wedi ymddeol ac mae'n byw yn Sugarland, un o faestrefi Houston.

Vijay Bhagi

Vijay Bhagi image
Logo canmlwyddiant Prifysgol Abertawe

Yn 2020, bydd y Brifysgol yn dathlu ei chanmlwyddiant ac edrychwn ymlaen at ddathlu'r garreg filltir hanesyddol hon gyda'n cymuned o gyn-fyfyrwyr.

Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau, felly hoffem gadw mewn cysylltiad, ac mae Partneriaeth Strategol Tecsas yn arbennig o awyddus i gysylltu â chyn-fyfyrwyr yn Nhecsas.

I gadw mewn cysylltiad â ni, gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gywir neu cysylltwch â Dr Caroline Coleman-Davies.