Dominica Khoo

Dominica Khoo o Faleisia oedd un o'r myfyrwyr cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen gyfnewid Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol A&M Tecsas.

Ar ôl graddio yn 2015, dilynodd Dominica Mres mewn Nanodechnoleg yn Abertawe ac yna PhD ym Mhrifysgol Caerfaddon lle parhaodd i weithio gyda chyn-gydweithiwr o Calon Cardio Technology, cwmni sy’n arbenigo mewn pympiau ar gyfer y galon ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar fodelau 3D ac efelychiadau o bympiau calon masnachol mewn astudiaethau achos a'i nod yw helpu'r gymuned feddygol i ddeall achos haemolysis (difrod mewn celloedd gwaed coch) mewn cleifion sy’n dioddef o glefyd y galon.

Yn 2018 cafodd Dominica swydd fel Peiriannydd Dadansoddi Mecanyddol gyda Dyson yn Kuala Lumpur lle mae ei gwaith yn golygu dadansoddi cadernid strwythurol cynnyrch Dyson, rhoi diagnosis o fowldiau plastig, dadansoddi dirgryniadau modur a chynnig gwybodaeth dechnegol.

"Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am fy swydd yw cyflwyno ein technolegau newydd i academyddion, arbenigwyr, perchnogion busnes a newyddiadurwyr ledled de-ddwyrain Asia. Er fy mod wedi graddio mewn peirianneg feddygol, rhoddodd fy ngradd wybodaeth sylfaenol a chadarn imi ym maes priodweddau materol, prosesau gweithgynhyrchu a sgiliau cyfrifiadura ac oherwydd hynny rwy wedi datblygu i fod yn beiriannydd cyflawn, ac mae hyn yn caniatáu imi rannu fy ngwybodaeth ac arbenigedd helaeth o ran agweddau gwahanol ar beirianneg."

Dominica Khoo
Dominica Khoo

Yn bendant, rhoddodd y semester yn Nhecsas y gallu imi fod yn fwy hyblyg mewn cyd-destunau ‘tramor’. Waeth ble bydda i’n mynd, bydda i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith gan fy mod i’n teithio llawer yn fy ngwaith. Yn sgîl y semester, datblygwyd fy hyblygrwydd personol a fy ngallu i ddod i gyfaddawd, i ganolbwyntio ac i lwyddo yn ystod cyfnodau heriol. Roedd y profiad a gefais i’n fodd imi aeddfedu ac i fod yn gytbwys mewn cyd-destunau cymdeithasol, yn ogystal â mynd i'r afael â heriau y tu hwnt i’r rhwydwaith cyfarwydd a’r mannau cysur lle bydd cymorth a chydnabod.

Fyddwn i ddim wedi datblygu i fod y person ydw i heddiw heb arweiniad a chefnogaeth fy narlithwyr yn Abertawe a oedd bob amser yn galonogol iawn ac yn cefnogi fy ngyrfa academaidd. Maen nhw wedi fy ysbrydoli cymaint a gobeithio eu bod nhw'n falch ohono i. "