Sefydlwyd Prifysgol Texas A&M ym 1876, a hi yw prifysgol fwyaf blaenllaw System Prifysgolion Texas A&M.

Mae'n cael ei hystyried yn un o'r 20 o brifysgolion ymchwil gorau yn yr UD a chyda thros 55,000 o fyfyrwyr, hon yw'r chweched brifysgol fwyaf yn yr UD.

Lleolir y brifysgol ar gampws 5,200 o erwau yn nhref College Station, sydd tuag awr a hanner o Houston, dwy awr o Austin a thair awr o Dallas.

Prifysgol Tecsas A&M

Mae gan A&M Texas ysbryd cymunedol cryf ac amgylchedd bywiog i fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1000 o gymdeithasau a arweinir gan fyfyrwyr a chyfleusterau chwaraeon helaeth.

Mae gan Stadiwm Pêl-droed Kyle Field seddau i dros 100,000 o wylwyr a hwn yw'r 4ydd stadiwm pêl-droed mwyaf yn yr UD.

Mae gan y Brifysgol ymdeimlad cryf o draddodiad sy'n gysylltiedig â'i chefndir milwrol a'i chariad at bêl-droed. Mae traddodiadau megis Bloedd Canol Nos, 12fed Dyn a Choelcerth Aggie yn gwneud profiad astudio dramor bythgofiadwy.

Myfyrwyr Tecsas A&M
Tŵr dŵr ym Mhrifysgol Tecsas A&M

ASTUDIAETHAU ACHOS ASTUDIO DRAMOR YM MHRIFYSGOL A&M TEXAS

Dominica Khoo
Llyfrgell George Bush Tecsas A&M