20+20 Jiangsu–DU

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn aelod ymrwymedig o’r Consortiwm Prifysgolion Blaenllaw 20+20 Jiangsu–DU unigryw ers ei sefydlu yn 2016.  Mae grŵp o fwy na 30 o brifysgolion blaenllaw o’r DU a rhanbarth Jiangsu yn Tsieina wedi ymrwymo i ddwyshau cydweithio ar ymchwil ac addysgu ar sail “llawer i lawer”. 

Mae Datganiad Jiangsu yn cryfhau cydweithio ymchwil academaidd, yn datblygu ymgysylltu strategol ac yn dyfnhau partneriaethau rhyngwladol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £40 miliwn mewn addysg uwch ryngwladol gan lywodraeth ranbarthol Jiangsu.

Wedi’i arwain ar y cyd gan y British Council, Universities UK ac Adran Addysg Ranbarthol Jiangsu, mae’r consortiwm wedi’i seilio ar fenter ‘Prifysgolion a Disgyblaethau o’r Radd Flaenaf ’ Llywodraeth Tseina, sy’n ceisio datblygu sawl un o’i sefydliadau i fod yn brifysgolion o’r radd flaenaf erbyn 2020. Mae rhanbarth Jiangsu, sy’n ail o ran CMC o blith 23 o ranbarthau Tsieina, wedi cael ei glustnodi fel un sy’n allweddol i’r uchelgeisiau hyn ac mae eisoes yn gartref i waith cydweithredol arloesol un i un rhwng sefydliadau addysg uwch, megis Xi'an Jiaotong-Prifysgol Lerpwl yn Suzhou.

Mae gan y Consortiwm dri maes thematig allweddol ar gyfer cydweithio: Gweithgynhyrchu Uwch, Peirianneg Amgylcheddol a Gofal Iechyd. Caiff y rhain eu cyflwyno drwy Hyfforddiant Doethurol, Buddsoddi Paratoadol ar gyfer Ymchwil Gydweithredol a Rhaglen Ymchwilwyr Gwadd.

Cymerodd Prifysgol Abertawe ran yng nghyfarfod Consortiwm Partnerniaid y DU yn 2020 yn Lerpwl a chyfarfod Zoom y Consortiwm ym mis Mai 2020, gan weithio i ddatblygu partneriaethau cydweithredol. Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu Ymchwilydd Gyrfa Gynnar o Jiangsu – bydd yr Athro Dehua Zhu o Brifysgol Gwybodeg a Thechnoleg Nanjing yn ymweld ag Abertawe fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar ym mis Ebrill 2021, a gynhelir gan Ji Li o Goleg Peirianneg (Ynni ac Amgylchedd) Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymwelydd yn derbyn ysgoloriaeth JPDE.

Mae rhanbarth Jiangsu, sy’n ail o ran CMC o blith 23 o ranbarthau Tsieina, wedi cael ei glustnodi fel un sy’n allweddol i’r uchelgeisiau hyn ac mae eisoes yn gartref i waith cydweithredol arloesol un i un rhwng sefydliadau addysg uwch, megis Xi'an Jiaotong-Prifysgol Lerpwl yn Suzhou.

Amcanion

  • Datblygu llwyfan a fydd yn dyfnhau ac yn ehangu lefel y gwaith ymgysylltu a chydweithio rhwng prifysgolion yn y DU a Jiangsu.
  • Codi proffil addysg uwch yn Jiansgu yn y DU a sector addysg uwch y DU yn Jiangsu
  • Manteisio ar gydweithio amlochrog fel ffordd o godi ansawdd a chystadleugarwch y sefydliadau perthnasol, gan rannu cyfleoedd a mynd i’r afael â heriau a rennir ar y cyd  

Aelodau'r Consortiwm

Prifysgol Lerpwl yw Cadeirydd Consortiwm Prifysgolion Blaenllaw y DU-Jiangsu, ac mae’n hwyluso gwaith cydlynu a chyfathrebu rhwng aelodau, yn trefnu gweithgareddau ac yn cynllunio prosiectau ar y cyd â Chadeirydd Jiangsu.

Aelodau (Jiangsu )UK Aelodau (UK)
Changzhou University  University of Cambridge 
China University of Mining and Technology  Cranfield University 
China Pharmaceutical University  Coventry University 
Hohai University  University of Derby 
Jiangnan University  University of Leicester 
Jiangsu University  University of Leeds 
Jiangsu Normal University  University of  Liverpool
Jiangsu University of Science and Technology  University of Oxford 
Nanjing University  University of Plymouth 
Nanjing University of the Arts Queen's University Belfast
Nanjing Agricultural University University of Reading
Nanjing University of Aeronautics and Astronautics Swansea University
Nanjing Forestry University University of York
Nanjing University of Information Science & Technology Lancaster University
Nanjing Medical University  
Nanjing Normal University  
Nanjing University of Posts and Telecommunications  
Nanjing University of Science and Technology  
Nanjing Technology University  
Nantong University  
Soochow University  
Southeast University  
Yangzhou University

Cysylltwch â Julie Williams: Ebost | Ffôn: 01792 295824

Gwybodaeth bellach: Consortium page