Ymweliad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru â phartneriaid Tecsas

Yr Athro Ian Pallister a Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru

Ymchwil fel Celf yn Nhecsas

Yr Athro Richard Johnston

Dyfeisiwch dros y Blaned

Myfyrwyr yn dal baner Cymru a siec 3ydd safle o $1000

Gwerthuso Ffracio’n Feirniadol

Llyfrynnau

Arddangosiad Abertawe ym Mhrifysgol Houston

Casgliad o luniau o ymweliad Prifysgol Houston ag Abertawe

Ffeiriau Dysgu Dramor

Stondin yn ffair dysgu dramor
Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru a chydweithwyr

Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru

Ymwelodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, â Phrifysgol Houston, Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston a Choleg Meddygaeth Baylor i ddysgu mwy am brosiectau cydweithredol Abertawe yn Nhecsas.

Cafodd y cyfle i weld arddangosiad o fodelau efelychu meddygol arloesol a ddatblygwyd gan yr Athro Ian Pallister o Brifysgol Abertawe ac ymwelodd hefyd â Mission Squash, sef rhaglen gyfoethogi ar gyfer pobl ifanc a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, sef Alistair Barnes, sydd â'r nod o roi’r cyfle i blant o gymunedau a danwasanaethir gyflawni eu potensial a chyflawni’u breuddwyd o sicrhau addysg coleg.

Ymchwil fel Celf yn Nhecsas

Mae Partneriaeth Strategol Tecsas wedi galluogi menter Ymchwil fel Celf Prifysgol Abertawe i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn Nhecsas. Cystadleuaeth flynyddol yw Ymchwil fel Celf sy'n rhoi llwyfan i fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff gyfleu harddwch, dynoliaeth a phwysigrwydd eu hymchwil trwy ddelwedd ynghyd â disgrifiad o 150 gair.

Mae arddangosfa o ddelweddau buddugol i’w gweld yn y Scholars Commons yn Llyfrgell Perry-Castaneda Prifysgol Tecsas yn Austin ers 2016, ac mae sylfaenydd a chyfarwyddwr y gystadleuaeth, sef yr Athro Richard Johnston, wedi traddodi darlithoedd am y fenter mewn prifysgolion sy’n bartneriaid yn Austin a Houston.

Dr.Richard Johnston yn cyflwyno yn Mhrifysgol Austin

Ymweliad Llysgennad UDA ag Abertawe

Llysgennad UDA gyda staff Prifysgol Abertawe

Ymweliad Llysgennad UDA ag Abertawe

Ymwelodd Llysgennad yr Unol Daleithiau â'r Deyrnas Unedig, Woody Johnson, â Phrifysgol Abertawe i ddysgu mwy am ei hymchwil sy'n arwain y byd yn ogystal â'i phartneriaethau yn Nhecsas.

Yn ystod yr ymweliad cyfarfu â'r Is-ganghellor a chynrychiolwyr o'r Coleg Peirianneg, y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol a Phartneriaeth Strategol Tecsas. Cafodd y cyfle hefyd i gwrdd â myfyriwr o Decsas sy’n cymryd rhan ar hyn o bryd mewn rhaglen interniaeth mewn Gwleidyddiaeth sy'n cyfuno cyfres o ddarlithoedd ar wleidyddiaeth a llunio polisïau ym Mhrydain ac Ewrop ag interniaeth gydag AS, aelod o Senedd Cymru neu gorff anllywodraethol.

Dyfeisiwch dros y blaned

Ers 2018 mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd rhan yn ‘Dyfeisiwch dros y Blaned’, sef Profiad Dylunio Dwys am 48 awr ar y cyd â Phrifysgol A&M Tecsas. Mae myfyrwyr yn dewis problem beirianyddol a dim ond 48 awr sydd ganddyn nhw i ddatblygu datrysiad, prototeip a chynnig cryno llafar a gyflwynir i banel o feirniaid o'r byd academaidd a byd diwydiant.

Mae'r digwyddiad yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gydweithio mewn timau trawsddisgyblaethol ac i weithio gyda myfyrwyr a mentoriaid o sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan. Ymunodd 40 o brifysgolion o 20 gwlad â chystadleuaeth Dyfeisiwch dros y Blaned 2020, ond Abertawe yw'r unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan.

Dyfeisiwch dros y blaned

Myfyrwyr yn gweithio wrth gyfrifiaduron
The Black Prince of Florence

The Black Prince of Florence

Fel rhan o'r daith i gyd-fynd â lansiad ei llyfr yn UDA, sef The Black Prince of Florence, cymerodd Dr Catherine Fletcher o Adran Hanes Prifysgol Abertawe ran mewn digwyddiadau yn Austin.

Cymerodd Dr Fletcher ran mewn bwrdd crwn ar bwnc 500 mlwyddiant Geto Fenis a gynhaliwyd gan Sefydliad Astudiaethau Hanesyddol Prifysgol Tecsas yn Austin, rhoddodd sgwrs a llofnododd lyfrau yn siop lyfrau chwedlonol Austin, sef Book People.

Arddangosiad Rhagoriaeth Ymchwil Tecsas

Wedi'i amseru i gyd-fynd â'r hyn a fyddai wedi bod yn 100 mlwyddiant geni'r bardd Dylan Thomas a anwyd yn Abertawe, cynhaliodd Prifysgol Abertawe arddangosiad o'i rhagoriaeth ymchwil mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Nhecsas.

Cynhaliwyd yr arddangosiad, a oedd yn cynnwys darlithoedd gan 20 o ymchwilwyr y Brifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â thair o Brifysgolion partner y Brifysgol yn Nhecsas, sef Prifysgol Houston, Prifysgol A&M Tecsas a Phrifysgol Tecsas yn Austin.

Gallwch chi weld rhaglen y digwyddiadau a phroffiliau’r siaradwyr drwy lawrlwytho Llyfryn Arddangosiadau Tecsas.

Siaradwr yn y seminar a'r gynulleidfa

Gwerthuso Ffracio’n Feirniadol

Fel rhan o ymrwymiad Partneriaeth Strategol Tecsas i drosglwyddo gwybodaeth, roedd arbenigwyr Tecsas ymhlith y siaradwyr a wahoddwyd i gyflwyno’r seminar, "A Critical Appraisal of Fracking" i gynulleidfa o ASau ac ymgynghorwyr yn Senedd Cymru.

Ymhlith y siaradwyr roedd yr Athro Andrew Barron, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe, a Charles W. Duncan, Jr - Cadeirydd Cemeg Welch ac Athro Gwyddor Ddeunyddiau ym Mhrifysgol Rice yn Nhecsas, a Dr Ramanan Krishnamoorti, Prif Swyddog Ynni Prifysgol Houston.

Arddangosiad Abertawe ym Mhrifysgol Houston

Ymwelodd dirprwyaeth o academyddion o Brifysgol Houston ag Abertawe i drafod prosiectau cydweithredol ym maes addysgu, ymchwil a symudedd myfyrwyr a staff, ynghyd â chyflwyno rhaglen o ddarlithoedd gwadd ar ystod o bynciau.

Traddododd academyddion o Goleg Graddedigion Gwaith Cymdeithasol, y Coleg Peirianneg, y Coleg Optometreg a'r Adran Astudiaethau Sbaenig ddarlithoedd ar bynciau gan gynnwys Trin Iselder drwy Aciwbigo, Deunyddiau a Chymwysiadau Clyfar ym maes Awyrofod ac Anghenion Plant Mewnfudwyr yn y System Lles Plant.

Galeri o luniau o ymweliad Prifysgol Houston ag Abertawe
Stondin arddangos Prifysgol Abertawe a deunydd yn y ffair

Astudio Dramor a Ffeiriau Recriwtio

Mae cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe yn mynychu ffeiriau Dysgu Dramor ym Mhrifysgol Houston a Phrifysgol Tecsas yn Austin.

Os hoffech chi drefnu i gynrychiolydd o Abertawe fynychu eich ffair Astudio Dramor neu ddigwyddiad recriwtio ar gyfer ysgolion yn Nhecsas, cysylltwch â Dr Caroline Coleman-Davies.