Mae'r Brifysgol yn cefnogi rhaglen barhaus o symudedd staff cyfadrannol rhwng Prifysgol Abertawe a'i phrifysgolion partner yn Nhecsas.

Gyda chefnogaeth cyllid wedi’i neilltuo’n benodol, gan gynnwys cyllid pwrpasol ar gyfer cyllid sbarduno a chronfeydd Erasmus +, mae’r rhaglen wedi gallu hwyluso nifer sylweddol o ymweliadau gan staff cyfadrannau a chyflwyno rhaglen helaeth o fwy nag 85 o ddarlithoedd gwadd yn Abertawe a Thecsas.

Cronfeydd Sbarduno Partneriaethau Strategol Rhyngwladol

Darn o arian 'Quarter'

Penodiadau er Anrhydedd

Dr. Helen Valier

Cronfeydd Sbarduno Partneriaethau Strategol Rhyngwladol

Mae Cronfeydd Sbarduno Partneriaethau Strategol Rhyngwladol ar gael i gefnogi staff Prifysgol Abertawe i ddatblygu prosiectau cydweithredol newydd gydag un (neu ragor) o sefydliadau partner y Brifysgol yn Nhecsas mewn un (neu ragor) o'r meysydd canlynol:

  • Ymchwil ar y cyd
  • Cydweithio o ran addysgu
  • Cyfnewid myfyrwyr
  • Prosiectau cydweithredol ym maes gwasanaethau proffesiynol

Mae deg dyfarniad gwerth £1,000 yr un ar gael yn 2021.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yma.

Penodiadau er Anrhydedd

Penodwyd nifer o academyddion o fri rhyngwladol o brifysgolion partner yn Nhecsas i swyddi er Anrhydedd yn Abertawe i gryfhau prosiectau cydweithredol ymhellach ym maes addysgu ac ymchwil:

  • Yr Athro Philip Bobbit (Prifysgol Tecsas yn Austin)
  • Dr Stuart Corr (Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston)
  • Yr Athro Kurt Heinzelman (Prifysgol Tecsas yn Austin)
  • Dr Barry Holtz (Holtz Biopharma Consulting)
  • Yr Athro Allen Matusow (Prifysgol Rice)
  • Dr Jaime Ortiz  (Prifysgol Houston)
  • Dr Matthew Ware (Bristol-Myers Squibb)
  • Dr Amy Wright (Sefydliad Ymchwil Methodistaidd Houston)

Cefnogodd Gwobr Cyllid Cydweithredu â Thecsas Dr Hany Abdel-Latif i ddatblygu prosiect ymchwil cydweithredol gyda Phrifysgol Rice.

Ymchwiliodd yr ymchwil i’r gydberthynas fyd-eang rhwng prisiau olew, hylifedd ariannol a pheryglon geowleidyddol. Yr ymchwil hon oedd y gyntaf i ystyried pob un o'r tri newidyn byd-eang ar yr un pryd. Daeth yr ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn yr Applied Economics Letters ac yn y Fforwm Ymchwil Economaidd, i’r casgliad y byddai cwymp sylweddol mewn prisiau olew yn cynyddu peryglon geowleidyddol ac yn lleihau hylifedd ariannol byd-eang, tra y byddai cynnydd mewn peryglon geowleidyddol yn arwain at godiad mewn prisiau olew.

Meddygaeth

Derbyniodd yr Athro Lisa Wallace o'r Ysgol Feddygaeth Wobr Cyllid Cydweithredu â Thecsas i sefydlu rhaglen haf myfyrwyr yn Nhecsas.

Roedd y rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr o’r BSc mewn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol dreulio chwe wythnos yng Nghanolfan Technoleg ac Arloesi Llawfeddygol Rhyngddisgyblaethol (INSTINCT) Coleg Meddygaeth Baylor lle cwblhawyd ganddynt brosiectau arloesi gyda'r nod o ddatblygu dyfeisiau meddygol newydd, cynnal arsylwadau ac efelychiadau llawfeddygol a chymryd rhan mewn gweithdai, melinau trafod a chynigion llafar cryno. Darllenwch ragor.

Dyfarnwyd Gwobr Cyllid Cydweithredu â Thecsas i Dr.Eoin Price o Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i ddatblygu prosiect ymchwil cydweithredol ym Mhrifysgol A&M Tecsas.

Cyfarfu ag arbenigwyr hanes, cymerodd ran mewn gweithdai a chyflwynodd bapur ar ailargraffiadau ac adfywiadau a gaiff ei gyhoeddi mewn rhifyn arbennig o’r Shakespeare Bulletin. Yn dilyn ei ymweliad, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil iddo yng Nghanolfan Harry Ransom Prifysgol Tecsas yn Austin a ganiataodd iddo ymgymryd ag ymchwil ar gyfer ei brosiect nesaf, sef Drama’r Cyfnod Modern Cynnar ac Estheteg Iagoaidd.

Cefnogodd grant teithio Erasmus+ Dr Grazia Todeschini o'r Coleg Peirianneg i ddatblygu prosiect ymchwil cydweithredol ym Mhrifysgol Tecsas Austin.

Mae'r ymchwil yn astudio’r dulliau gwahanol a ddefnyddir i gyfyngu ar ymyraethau ansawdd pŵer mewn systemau trydanol a chyflwynwyd dau bapur yn seiliedig ar y gwaith hwn yng Nghyfarfod Cyffredinol 2018 Cymdeithas Pŵer ac Ynni Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Electronig (IEEE), a chyhoeddwyd pedwar papur arall yn Nhrafodion yr IEEE a chyfnodolion yr IET.