Otteh Edubio

Otteh Edubio oedd un o'r myfyrwyr cyntaf i gymryd rhan yn rhaglen gyfnewid Prifysgol Abertawe gyda Phrifysgol A&M Tecsas.

Yn ail flwyddyn ei radd Peirianneg Feddygol treuliodd Otteh semester yn astudio ym Mhrifysgol A&M Tecsas.

"Rhoddodd fy amser ym Mhrifysgol A&M Tecsas hyder imi yn fy ngradd ac ynof i fy hun. Roeddwn i’n teimlo fymryn yn ymwybodol o’r ffaith nad oeddwn i wedi astudio mewn prifysgol fel Caergrawnt ac roeddwn i’n teimlo na fyddwn i’n gallu cystadlu, ond ar ôl imi fynd i A&M sylweddolais i y gallwn i gystadlu yn sgîl yr hyn yr oeddwn wedi'i ddysgu yn Abertawe."

Ar ôl graddio yn 2015 gyda gradd mewn Peirianneg Feddygol, cafodd swydd  gyda Smith & Nephew, gweithgynhyrchwr o bwys sy’n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, lle bu'n gweithio ym maes Ymchwil a Datblygu ar gyfer eu grŵp rheoli clwyfau.

Treuliodd dair blynedd yn y cwmni cyn penderfynu nad oedd swydd gorfforaethol draddodiadol yn rhoi'r math o ddatblygiad personol roedd yn chwilio amdano, felly symudodd i Gambodia lle mae bellach yn gweithio i OKRA Solar, menter gymdeithasol sy'n helpu i ddarparu pŵer dibynadwy i 900 miliwn o bobl sy'n byw oddi ar y grid. Yno, mae'n cynnal ochr darparu gwasanaethau’r busnes, gan reoli cwsmeriaid busnes-i-fusnes a helpu’u hymdrechion i leoli yng Nghambodia, y Philipinau ac Indonesia.

Otteh Edubio
Otteh Edubio

"Yr hyn rwy’n ei garu fwyaf am y swydd hon yw'r effaith rwy’n uniongyrchol gyfrifol amdani: pan fyddwn ni’n gosod trydan 24/7 y gall cartref bellach ei ddefnyddio i bweru oergell neu offer pŵer neu ffyrnau, rwy’n cael boddhad parhaol sy'n rhagori’n sylweddol ar y codiadau cyflog yr oeddwn i’n arfer eu derbyn.

O ystyried nad ydw i’n gweithio bellach ym maes datblygu dyfeisiau meddygol, rwy'n credu y gall ehangder yr wybodaeth a roddwyd imi yn ystod fy ngraddau fod yn fuddiol o hyd wrth imi geisio deall y mathau newydd o broblemau y bydda i’n eu hwynebu. "