Llun yn dangos dysgu peirianyddol, gyda llaw robot yn cyffwrdd â data deuol.

Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut gall dysgu peirianyddol helpu i ganfod yr arthritis llidiol sbondylitis ymasiol (AS) yn gynnar a gweddnewid sut mae meddygon teulu'n nodi pobl ac yn rhoi diagnosis iddynt.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE; cafodd ei hariannu gan UCB Pharma ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’i chynnal gan ddadansoddwyr data ac ymchwilwyr o Ganolfan Iechyd y Boblogaeth.

Defnyddiodd y tîm ddulliau dysgu peirianyddol i ddatblygu proffil o nodweddion pobl sy'n debygol o gael diagnosis o AS, yr achos mwyaf cyffredin ond un o arthritis llidiol.

Mae dysgu peirianyddol, sef math o ddeallusrwydd artiffisial, yn ddull dadansoddi data sy'n creu modelau'n awtomatig er mwyn gwella perfformiad a chywirdeb. Mae ei algorithmau'n creu model sy'n seiliedig ar ddata enghreifftiol i lunio rhagamcanion neu benderfyniadau heb gael ei raglenni'n benodol i wneud hynny. 

Gan ddefnyddio'r Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, storfa ddata genedlaethol sy'n cysylltu data pobl yn ddienw ar draws setiau data, nodwyd cleifion ag AS ac fe'u cysylltwyd â phobl nad oedd wedi cael diagnosis o'r cyflwr.

Dadansoddwyd y data ar wahân ar gyfer dynion a menywod, a datblygwyd model drwy ddewis nodweddion/newidion a dadansoddi'r prif elfennau i lunio coed penderfyniadau.

Dyma’r canfyddiadau:

  • Yn achos dynion, mae poen yng ngwaelod y cefn, wfeitis (llid yn haen ganol y llygad), a defnyddio cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd dan 20 oed yn gysylltiedig â datblygu AS.
  • Dangosodd menywod symptomau pan oeddent yn hŷn na dynion â phoen yn y cefn a sawl meddyginiaeth lleddfu poen.
  • Roedd gan y data prawf gyfradd ragfynegi dda o oddeutu 70%-80%; fodd bynnag, wrth roi'r model ar waith i boblogaeth gyffredinol, roedd y tîm o'r farn y gallai fod angen sawl model i leihau posibiliadau'r boblogaeth dros amser er mwyn gwella'r gwerth rhagamcanol a lleihau'r amser i roi diagnosis o AS.

Meddai Dr Jonathan Kennedy, Rheolwr Labordai Data Canolfan Iechyd y Boblogaeth ac arweinydd yr astudiaeth: “Mae ein hastudiaeth yn nodi potensial anferth dysgu peirianyddol i helpu i nodi pobl ag AS a deall yn well eu llwybrau diagnostig drwy'r system iechyd.

“Mae canfod a gwneud diagnosis yn gynnar yn hanfodol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion. Gall dysgu peirianyddol helpu yn hyn o beth. Yn ogystal, gall rymuso meddygon teulu – gan eu helpu i nodi a chyfeirio cleifion mewn modd mwy effeithiol ac effeithlon.

“Fodd bynnag, mae'r broses o roi dysgu peirianyddol ar waith yn ei babandod. Er mwyn datblygu hyn, mae angen data mwy manwl i wella rhagamcanion a budd clinigol.”

Ychwanegodd yr Athro Ernest Choy, Ymchwilydd yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth a Phennaeth Rhewmatoleg ac Ymchwil Drosi ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ar gyfartaledd, mae'n cymryd wyth mlynedd i gleifion ag AS dderbyn diagnosis a chael triniaeth ar ôl dechrau dangos symptomau. Gall dysgu peirianyddol fod yn ddull defnyddiol i leihau'r amser hwn.”

Ychwanegodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'n wych gweld y cyfraniad arloesol y gall dysgu peirianyddol ei wneud at nodi’n gynnar gleifion â chyflyrau iechyd megis AS a'r gwaith y mae Canolfan Iechyd y Boblogaeth yn ymgymryd ag ef.

“Megis dechrau y mae’r gwaith ond mae'n amlwg bod gan ddysgu peirianyddol y potensial i drawsnewid ymagwedd ymchwilwyr a chlinigwyr at y llwybr diagnostig, gan arwain at fuddion i gleifion a’u hiechyd yn y dyfodol.”

Darllenwch y cyhoeddiad llawn yn y cyfnodolyn PLOS ONE.

Rhannu'r stori