Rhestr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023

Heddiw, cyhoeddir rhestr fer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd sy'n dathlu llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - gan amlygu ehangder a dyfnder doniau ysgrifennu rhyngwladol newydd.

Mae'r rhestr fer – sy’n cynnwys pedair nofel gyntaf a phedwar awdur benywaidd, yn ogystal â thri theitl gan gyhoeddwyr annibynnol - yn cynnwys tair nofel, dau gasgliad o straeon byrion ac un casgliad o farddoniaeth.

  • Limberlost gan Robbie Arnott (Atlantic Books) – nofel (Awstralia)
  • Seven Steeples gan Sara Baume (Tramp Press) – nofel (Iwerddon)
  • God's Children Are Little Broken Things gan Arinze Ifeakandu (Orion, Weidenfeld a Nicolson) - casgliad o straeon byrion (Nigeria)
  • I'm a Fan gan Sheena Patel (Rough Trade Books/ Granta) – nofel (y DU)
  • Send Nudes gan Saba Sams (Bloomsbury Publishing) – casgliad o straeon byrion (y DU)
  • Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Headgan Warsan Shire (Chatto & Windus, Vintage) - casgliad o farddoniaeth (Somalia - y DU)

Meddai Di Speirs, Cadeirydd y beirniaid a Golygydd Llyfrau yn BBC Audio: "Mae dawn ddisglair a harddwch i’w gweld yn y chwe llyfr ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni. Mae pob un o'r chwech - er eu bod yn wahanol iawn o ran arddull, pwnc a genre, gan amrywio o gefn gwlad Tasmania ac arfordir gwyllt Iwerddon i awyrgylch hynod gyfoes Nigeria a'r DU - yn enghreifftiau nid yn unig o'r ysgrifennu ffres ac, yn aml, ryfeddol roedden ni'n chwilio amdano, ond maen nhw'n tynnu'r darllenydd i mewn ac yn ei sbarduno ymlaen. Mae ffraethineb, pleser a phoen, arsylwi craff ar fyd natur a pherthnasoedd dynol ac, yn anad dim, mae cymaint i'w fwynhau. Mae'r ffaith ein bod mor unfrydol am ein rhestr fer yn dyst i gryfder y cymysgedd pwerus hwn o farddoniaeth, straeon byrion a nofelau ac i ddawn y chwe awdur."

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, sy'n werth £20,000 yn un o wobrau llenyddol mwyaf nodedig y DU yn ogystal â gwobr lenyddol fwyaf y byd i lenorion ifanc. Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol gorau a gyhoeddir yn Saesneg gan awdur 39 oed neu iau. Mae'n dathlu byd ffuglen ryngwladol o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama.

Mae'r rhestr fer eleni yn cynnwys tri o’r awduron Prydeinig benywaidd uchaf eu proffil yn ysgrifennu am fenywdod cyfoes: Mae Warsan Shire, awdur Prydeinig-Somalïaidd, a’r bardd byd-enwog a ysbrydolodd Lemonade a Black King gan Beyoncé, yn talu teyrnged i ffoaduriaid, menywod a merched du yn ei chasgliad cyntaf gwefreiddiol, Bless the Daughter Raised by a Voice in Her Head; mae Sheena Patel - a gafodd ei chynnwys ar y rhestr hir ar gyfer y Wobr am Ffuglen gan Fenywod a Gwobr Jhalak - yn cynnig beirniadaeth dreiddiol o'r cyfryngau cymdeithasol a pherthnasoedd heteronormadol yn ei nofel sy'n diffinio oes, I'm a Fan. Saba Sams, a wnaeth argraff anhygoel ar fyd ysgrifennu'r DU ar ôl ennill Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2022, yw'r ymgeisydd ifancaf am y wobr eleni (26 oed). Mae'n cael ei chydnabod am ei gwaith tyner a ffraeth, Send Nudes - casgliad o straeon byrion sy'n tynnu sylw at y safonau dwbl dryslyd mae menywod yn eu hwynebu heddiw.

Yn cwblhau'r rhestr fer y mae tri awdur rhyngwladol sy'n flaenllaw ym myd llenyddol eu gwledydd enedigol. Yn hanu o Iwerddon y mae Sara Baume - enillydd Gwobr Stori Fer Davy Byrnes, Gwobr Hennessey am Ysgrifennu Newydd o Iwerddon a Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig - sy'n cael ei henwebu am ei thrydedd nofel farddonol, Seven Steeples, sy'n adrodd stori pâr o gariadon sy'n dianc i wylltiroedd de-orllewin Iwerddon. Mae Robbie Arnott o Awstralia, sy'n un o Nofelwyr Ifanc Gorau Awstralia'r Sydney Morning Herald, wedi cael ei enwebu am ei drydedd nofel hudolus, Limberlost, sy'n mynd â darllenwyr i leoliad gwerinol anialwch Tasmania. Yr ymgeisydd olaf am y wobr eleni yw Arinze Ifeakandu o Nigeria, un o ymgeiswyr rhestr fer Gwobr AKO Caine am ysgrifennu o Affrica, sy'n cyflwyno llyfr cyntaf hyderus gyda'i gasgliad hyfryd o straeon byrion, God's Little Children are Broken Things - llyfr sy'n archwilio ystyr bod yn ddyn cwiar yn ei wlad enedigol.

Cyhoeddir enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe mewn Seremoni Wobrwyo a gynhelir ddydd Iau 11 Mai, cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, sef dydd Sul 14 Mai.

Yn helpu Di Speirs i ddewis un enillydd o'r rhestr fer o chwech fydd yr awdur arobryn o Gymru, sy’n ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, Jon Gower, yr awdur llwyddiannus iawn ac enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2012, Maggie Shipstead, y Bardd o Brydain a sefydlodd yr Octavia Poetry Collective for Women of Colour, Rachel Long, a'r awdur Nepalaidd-Indiaidd a gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr yn 2012, Prajwal Parajuly.

Rhannu'r stori