Dr Lella Nouri gyda Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Dr Lella Nouri gyda Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Mae arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe sydd wedi cyfranogi mewn gweithgarwch cymunedol i wrthsefyll negeseuon casineb wedi ennill gwobr am ei gwaith gan Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig. 

Mae Dr Lella Nouri yn Athro Cysylltiol Troseddeg ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC). Mae'n arbenigo mewn eithafiaeth, defnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd ac yn benodol ideolegau'r asgell dde eithafol.  

Cyflwynwyd Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) i Dr Nouri mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, oedd y gŵr gwadd. Mae ei gwobr yn un o gyfres a gyflwynir bob dwy flynedd gan yr EMWWAA i anrhydeddu'r menywod ethnig gorau a disgleiriaf yng Nghymru. 

Diben yr EMWWAA yw “cydnabod a dathlu llwyddiannau menywod a merched lleiafrifoedd ethnig o wahanol rannau o gymdeithas Cymru”.   

Mae gwaith diweddaraf Dr Nouri ar ddefnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd wedi archwilio naratifau'r asgell dde eithafol a'u dosbarthiad drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac mae wedi cynnig argymhellion ar gyfer polisi ac ymatebion cymunedol.  

Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae wedi bod wrthi'n gweithio gyda chynghorau ledled Cymru i wrthsefyll delweddau casineb ar draws cymunedau. Mae hyn wedi cynnwys datblygu ap o'r enw StreetSnap, ochr yn ochr â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn adrodd am ddelweddau casineb a'u monitro yn well. Mae hefyd yn arwain prosiect 'Flip the Streets’, sy'n gweithio gyda grwpiau cymunedol i ddisodli delweddau casineb â negeseuon cadarnhaol a phortreadau o gadernid cymunedol.

Mae Dr Nouri wedi'i phenodi'n arbenigwr ymchwil Cymru Wrth-hiliol ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hefyd yn aelod gweithredol o grwpiau a rhwydweithiau arbenigol sy'n cynghori Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU ar ddiogelwch a gwrthderfysgaeth.  

Enwebwyd Dr Nouri am y wobr ac yna fe'i gwahoddwyd i gyfweliad i drafod ei gweithgarwch cymunedol a'i gwaith ehangach ynghylch gwrthsefyll eithafiaeth, yn ogystal â'i gwaith mentora yn y Brifysgol a'r tu allan iddi. 

Meddai Dr Lella Nouri:  

“Mae'r wobr hon yn bwysig iawn i mi. Mae’r EMWWAA yn gwneud gwaith mor wych wrth ddangos llwyddiannau a gwaith diflino menywod o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru ac mae cael fy nghydnabod ymhlith y pencampwyr hynny'n anrhydedd anferth.  

Mae Cymru ar flaen y gad o ran herio rhagfarnau hanesyddol – y genedl orllewinol gyntaf i lunio cynllun ffurfiol ac ymarferol am Gymru wrth-hiliol – ac rwy'n gobeithio y bydd y gwaith rwyf wedi bod yn ei arwain dros y blynyddoedd diwethaf drwy ap StreetSnap a'r gwaith cymunedol drwy brosiect Flip the Streets yn helpu i wireddu'r uchelgeisiau hyn.  

Rwy'n gobeithio defnyddio'r EMWWAA i helpu i gefnogi ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol er mwyn gwneud Cymru'n gartref i bob grŵp ethnig a chrefydd.”  

Rhannu'r stori