Plentyn yn y fest yn cael ei frechu yn y fyddin gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyfraddau brechu cyffredinol plant sy'n derbyn gwasanaethau dan gynllun gofal a chymorth yn uwch, a bod mwy ohonynt wedi cael y brechiadau diweddaraf, na phlant yn y boblogaeth yn gyffredinol yng Nghymru.

Yr ymchwil gan arbenigwyr Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain, a gyhoeddwyd yn Frontiers in Public Health, yw'r astudiaeth cysylltu data gyntaf i archwilio cyfraddau brechu plant sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Yn y DU, mae rhaglen imiwneiddio gadarn yn ystod plentyndod yn sicrhau bod plant yn cael cynnig amddiffyniad rhag heintiau difrifol; mae nodi anghydraddoldeb o ran cyfraddau brechu’n hanfodol. Archwiliodd y tîm gyfraddau derbyn pigiadau sylfaenol yn ogystal â brechiadau atgyfnerthu cyn dechrau yn yr ysgol ac ail ddosau o frechlynnau MMR.

Dadansoddwyd cofnodion o'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth a'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, sy'n cynnwys cofnodion brechu'r holl blant yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru ar gyfer derbyn gofal gan y GIG. 

Gwnaeth yr astudiaeth ddadansoddi data o’r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ac archwilio statws imiwneiddio plant a oedd yn byw yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2021. 

Dyma'r canfyddiadau allweddol:

  • Roedd plant sy'n derbyn gofal neu gymorth yn llai tebygol o fod wedi colli brechiadau na'r rhai hynny yng ngrŵp cymharu'r boblogaeth;
  • Roedd plant sy'n derbyn gofal neu gymorth yn fwy tebygol o fod wedi cael pob un o'r chwe brechlyn na’r plant yn y grŵp cymharu;
  • Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd wedi cael eu brechu yn llai tebygol o fod wedi cael eu brechu mewn modd amserol; roedd brechiadau cynnar a hwyr yn fwy cyffredin; ac
  • Roedd nodiannau imiwneiddio'n gywir ar gyfer tua 70% o gofnodion plant yn y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth. Mae nodiant imiwneiddio mewn cofnod iechyd rhywun yn dangos a ystyrir ei fod wedi cael yr holl frechiadau diweddaraf ai peidio. Mae archwilio cywirdeb nodiannau imiwneiddio yn bwysig gan y gall nodiannau imiwneiddio anghywir gael canlyniadau sylweddol – os bydd plant yn colli brechiadau ar gyfer clefydau penodol, gallant fod yn agored i niwed gan heintiau y gellir eu hatal.

Meddai Grace Bailey, o'r Uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein hastudiaeth yn datgelu bod plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru'n fwy tebygol o fod wedi cael yr holl frechiadau diweddaraf na phlant yn y boblogaeth yn gyffredinol.

“Roedd brechiadau cynnar a hwyr yn gyffredin - sy'n dangos bod angen cydlynu a chynllunio'n fwy rhwng disgyblaethau er mwyn gwella canlyniadau.

“Mae'r gwaith hwn yn meithrin dealltwriaeth hollbwysig a all lywio ymyriadau wedi'u targedu a helpu i flaenoriaethu ymdrechion mewn meysydd y mae angen rhaglenni dal i fyny arnyn nhw.”

Ychwanegodd Sally Holland, o'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ein canfyddiadau'n awgrymu bod ymdrechion cydweithwyr mewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd i gefnogi plant sydd wedi wynebu mwy o heriau na'r boblogaeth gyffredinol yn talu ar eu canfed o ran imiwneiddio. 

“Mae rhaglenni imiwneiddio'n ymyrraeth allweddol er mwyn gwella iechyd y boblogaeth. Gall ein hymchwil lywio ymdrechion parhaus i wella rhaglenni imiwneiddio ledled Cymru a chyfrannu at yr ymdrechion hyn, gan sicrhau bod yr holl blant, waeth beth am eu statws gofal cymdeithasol, yn cael eu hamddiffyn mewn modd amserol a chynhwysfawr rhag heintiau difrifol.” 

Meddai Helen Bedford, o Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street yng Ngholeg Prifysgol Llundain: “Yn hanesyddol, mae cyfraddau brechu ymhlith grwpiau difreintiedig o blant, yn enwedig y rhai hynny sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, wedi bod yn waeth na phlant eraill, gan eu gadael yn agored i niwed gan heintiau a allai fod yn ddifrifol. 

“Felly, mae canlyniadau'r ymchwil hon yn galonogol iawn a gobeithio y bydd modd adeiladu arnyn nhw er mwyn gwella iechyd plant sy'n derbyn gofal yn ehangach.” 

Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma 

Roedd yr astudiaeth hon, a ariannwyd gan CASCADE, yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Iechyd Plant Great Ormond Street yng Ngholeg Prifysgol Llundain a'r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Rhannu'r stori