Dyn yn gwisgo penset realiti rhithwir

Mae Prifysgol Abertawe wedi partneru â chwmni technoleg ymgolli i greu profiad realiti rhithwir newydd â'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM. 

Nod penodol y bartneriaeth gydag Imersifi a leolir yn Abertawe yw amlygu'r cyfleoedd yn y diwydiant lled-ddargludyddion.

Mae'r diwydiant yn chwarae rôl hollbwysig yn nhechnoleg heddiw, gan bweru llawer o'r dyfeisiau rydym yn eu defnyddio yn ein bywydau pob dydd. Crëwyd yr ap realiti rhithwir i helpu i egluro mwy am y diwydiant mewn ffordd ddiddorol a llawn hwyl.

Mae'n mynd â defnyddwyr ar daith trwy amgylcheddau realistig a fodelwyd ar gyfleusterau'r Brifysgol, gan gynnwys canllaw cymeriadau robot, troslais difyr ac animeiddiadau. Gan fod y rhyngweithiadau'n syml ac yn reddfol, mae'r profiad yn hygyrch i bobl ifanc.

Caiff defnyddwyr eu tywys trwy brofiad ymwisgo ystafell lân ac yna cânt eu cyflwyno i'r broses lithograffeg (sut y caiff patrymau dyfeisiau eu hysgrifennu ar waffer lled-ddargludol). Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu am sut y caiff lled-ddargludyddion eu gwneud a'u rôl bwysig yn ein cymdeithas.

O ffonau clyfar a gliniaduron i geir ac offer meddygol, mae lled-ddargludyddion yn un o gydrannau hanfodol technoleg fodern. Mae'r diwydiant yn esblygu ac yn datblygu'n barhaus ac mae galw sylweddol am weithwyr proffesiynol medrus i helpu i lywio arloesedd.

Fodd bynnag, gall ennyn diddordeb pobl ifanc mewn gyrafoedd yn y diwydiant lled-ddargludyddion fod yn heriol ac mae'r tîm a greodd yr ap yn dweud mai dyna le y gall gydweithio helpu.

Meddai Joe Charman, cyd-sefydlwr Imersifi: "Gobeithiwn y bydd y profiad hwn yn ysbrydoli plant i ystyried gyrfaoedd mewn pynciau STEM, gan agor y byd llawn cyfleoedd y mae'r diwydiant lled-ddargludyddion yn ei gynnig.

"Mae'n ymagwedd unigryw at addysgu'r genhedlaeth nesaf am arwyddocâd diwydiant hollbwysig ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith y bydd hyn yn ei chael a sut y bydd ysgolion a sefydliadau gwahanol yn ei defnyddio."

Meddai'r Athro Owen Guy o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg y Brifysgol: "Mae'r gêm realiti rhithwir yn ffordd wych o ennyn diddordeb pobl ifanc o bob oed a chwalu'r dirgelwch am y technolegau lled-ddargludol gwych sy'n pweru popeth o'n ffonau clyfar i gerbydau trydan a lloerennau.

"Bydd hefyd yn amlygu'r cyfleoedd gyrfa cynyddol yn y diwydiant lled-ddargludyddion sy'n ehangu yn ne Cymru."

Mae'r cydweithrediad hefyd wedi galluogi'r Brifysgol i weithio gyda'r tîm rygbi rhanbarthol, y Dreigiau, drwy ddarparu penset realiti rhithwir, â'r ap Learn Lithography wedi'i lwytho arno, ar gyfer enillydd ei gystadleuaeth eChwaraeon hynod lwyddiannus. 

Darllenwch fwy am ymchwil Prifysgol Abertawe: Lled-ddargludyddion - Wrth Wraidd Technolegau Sero Net

*Rhowch gynnig ar yr ap am ddim drwy fynd i'r storfa PICO swyddogol  ac o'r brif ddewislen ewch i'r App Store, chwiliwch am yr ap Learn Lithography a'i ddewis.   Ar ôl i'r ap orffen lawrlwytho, bydd y broses osod yn dechrau ar unwaith. Ar ôl iddo gael ei osod, bydd yr ap yn ymddangos yn eich llyfrgell a bydd modd ichi ei lansio.

 

Rhannu'r stori