Menyw yn gwisgo mwgwd wyneb yn cerdded ar hyd stryd siopa i gerddwyr yn unig, gyda phobl eraill yn y cefndir

Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â heriau a achoswyd gan bandemig Covid.

Mae'r astudiaeth yn ganlyniad cydweithio rhwng tîm COVINFORM, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe. 

Mae Prifysgol Abertawe yn rhan o COVINFORM, sef astudiaeth ryngwladol sy'n dadansoddi'r ffordd y mae arweinwyr a chymunedau yn Ewrop wedi ymateb i Covid, sy'n canolbwyntio'n benodol ar y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. 

Ymysg y rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf yw gweithwyr iechyd, grwpiau sy’n wynebu  risg, pobl hŷn, plant a mudwyr, sydd wedi arwain at yr adroddiad diweddaraf gan y swyddog ymchwil Diana Beljaars, yr Athro Sergei Shubin, o Adran Ddaearyddiaeth y Brifysgol a'r Athro Emeritws Nyrsio Louise Condon. 

Cafodd yr arolwg ei lunio, ei gynnal a'i ysgrifennu i helpu arweinwyr iechyd y rhanbarth i wella darpariaeth gofal iechyd ar gyfer ystod o grwpiau lleiafrifol ethnig yn ne Cymru. 

Meddai Dr Beljaars: "Mae’r astudiaeth hon yn gwneud mwy na dangos sut mae pobl o gefndir lleiafrifol ethnig wedi cael canlyniadau iechyd tebyg a chanlyniadau iechyd gwahanol i bobl groenwen. Ar ben hynny,   mae’n amlygu'r gwahaniaethau a'r cyffelybiaethau niferus rhwng y grwpiau ethnig. 

"Yn bwysicaf oll, mae'n trin a thrafod cymhlethdodau bywydau pob dydd pobl yn ne Cymru a'r cymhlethdodau wrth lywio'r pandemig, sy'n ddigwyddiad hollgynhwysol yn eu bywydau. O ddyfnder y dyngarwch hwn y mae'r adroddiad yn cynnig awgrymiadau newydd i ddarparwyr gofal iechyd er mwyn gwella eu gwasanaethau i bawb." 

Meddai Shaz Abedean, sef arweinydd Allgymorth y Bwrdd Iechyd i bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig: "Gwnaeth yr astudiaeth gysylltu â phobl nad oeddent yn cael eu clywed go brin. Er gwaethaf y cyfyngiadau symud, drwy ddefnyddio ein sgiliau ymgysylltu gwnaethom gyrraedd pobl a oedd am rannu eu profiadau o Covid.

"Roedd hon yn dystiolaeth glir i ddangos nad y gymuned BAME oedd yn anfodlon ymgysylltu, ond efallai mai ymagwedd y gwasanaethau sy'n gwneud y gymuned naill ai'n anfodlon bod yn rhan o ymgynghoriadau neu astudiaethau neu'n anymwybodol o'r rheini." 

Gwnaeth yr astudiaeth ddogfennu effaith camau gweithredu ar gyfer y pandemig ar fywydau pobl o leiafrifoedd ethnig yn y rhanbarth, wrth nodi nodweddion cymdeithasol a all hefyd wneud pobl yn agored i niwed. 

Gwnaeth gyfuno dealltwriaeth ystadegol o faterion megis hygyrchedd gofal iechyd, cyflogaeth, ymddiriedaeth mewn awdurdodau, cael gwybodaeth am y pandemig, ac iechyd meddwl, â chwestiynau penagored penodol sy'n gofyn am fyfyrdodau mwy penodol. Gwnaeth y rhain arwain at ddealltwriaeth o bynciau megis y cartref, marwolaeth, unigrwydd, teulu a chrefydd. 

Pan gafodd ei holi sut newidiodd ei barn am farwolaeth a marw yn ystod y pandemig, meddai myfyrwraig Fwslimaidd o Bort Talbot: "Mae'n drist, dwi ddim yn gallu cysgu'n iawn pan dwi'n meddwl amdano." 

Datgelodd un fenyw Fwslimaidd groenwen: "Ysgrifennais i neges at fy mhlant oherwydd bod bywyd yn rhy fyr - dyw heddiw ddim yn sicr i ni, heb sôn am yfory."

Hefyd, gwnaeth y tîm ystyried lefel y cymorth cymunedol, a bu profiadau cymysg. 

Meddai'r adroddiad: "I lawer o bobl, gwnaeth mentrau yn y pandemig gyflwyno neu atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol blaenorol ac ymdeimlad o berthyn cymdeithasol, ond mae rhai ymatebwyr yn nodi nad oeddent yn teimlo eu bod yn rhan o gymuned a/neu  eu bod wedi'u heithrio." 

Er enghraifft, meddai dyn â chefndir ethnig Asiaidd sy'n anghyffredin yn ardal Abertawe: "Dyw hi ddim yn hawdd gwneud ffrindiau gyda phobl leol ac weithiau dwi'n teimlo bod hiliaeth gynnil yno o hyd", a dywedodd dyn di-waith o dreftadaeth Garibïaidd Ddu/Wyn o Gastell-nedd "Dwi wedi colli cyswllt â phawb", gan ychwanegu bod y pandemig wedi gwneud iddo deimlo mwy o ofn ac yn fwy isel ei ysbryd. 

Roedd Covid hefyd wedi newid agweddau at yr awdurdodau iechyd, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinwyr ysbytai. Gwnaeth un dyn o Abertawe â chefndir ethnig Asiaidd/Gwyn cymysg sylwi sut roedd rhai wedi colli hyder ym marn yr awdurdodau ac eraill yn cyd-fynd â syniadaeth wrth-frechu. 

Hefyd, gwnaeth yr adroddiad roi cyfle i bobl rannu eu profiadau am frechlynnau a sut gwnaethant benderfynu eu cael ai peidio. 

"Gwnes i anwybyddu'r gamwybodaeth a gwrando ar ganllawiau'r llywodraeth," meddai un fenyw Affricanaidd Groenddu Gristnogol o Abertawe. 

Mae'r ymchwilwyr yn teimlo bod eu hadroddiad wedi gallu amrywiaethu profiadau o'r pandemig y tu hwnt i'r rhai o dras croenwyn Cymreig a thras croenwyn Prydeinig, a hefyd ei fod wedi helpu i chwalu'r rhagfarn y mae'r grwpiau hyn wedi'i hwynebu ynghylch ymgysylltu â chamau gweithredu yn y pandemig.

Mae'n dilyn y dadansoddiad arolwg ehangach a mwy sylweddol sef Opinions on Test, Trace, Protect and Covid-19 vaccination services by BAME and White people in Swansea and Neath Port Talbot 

Mae tîm COVINFORM bellach yn gobeithio y caiff ei ganfyddiadau eu defnyddio i lywio polisi a gwella anghydraddoldebau cymdeithasol o ran iechyd ar gyfer y grwpiau hyn. 

Ychwanegodd Shaz Abedean: "Rydym ni'n gwybod nad oes 'un ateb i bopeth' ond a ydym ni wir yn deall hynny? Mae'r argymhellion yn dangos bod angen i ni ddechrau ystyried ein ffyrdd o weithredu a'u teilwra at anghenion unigolion neu gymunedau. Mae hi wedi bod yn daith wrando a deall yn bendant." 

Darllenwch yr adroddiad Pandemic Experiences of Minority Ethnic Groups in Swansea, Neath, and Port Talbot

 

Rhannu'r stori