O'r chwith i'r dde: Dr Elaine Canning, yr Athro Chenfeng Li, yr Athro Paul Rees a'r Athro Andrea Tales

Mae pedwar o academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Maent yn ymuno â mwy na 650 o Gymrodyr a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynrychioli rhagoriaeth yn y gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a meysydd eraill. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn harneisio arbenigedd ei Chymrodyr i hyrwyddo ymchwil, cyfrannu arbenigedd a hyrwyddo dysgu a thrafod.  

Y Cymrodyr newydd o Brifysgol Abertawe yw:

  • Dr Elaine Canning, Pennaeth Prosiectau Arbennig yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Yr Athro Chenfeng Li, Cadair Bersonol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
  • Yr Athro Paul Rees, Athro Peirianneg Fiofeddygol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
  • Yr Athro Andrea Tales, Cyfarwyddwr y Ganolfan Heneiddio Arloesol

"Rwyf wrth fy modd gydag ehangder arbenigedd byd-eang ein Cymrodyr newydd," meddai'r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

"Mae’r ystod o arbenigeddau’n hynod ddiddorol ac mae ansawdd yr ymchwil yn eithriadol. Dengys gynifer o bobl wych  sy'n disgleirio yng Nghymru trwy gyfrannu eu syniadau, eu hangerdd a’u harbenigedd, gan ddyfnhau ecosystem ein hymchwil sydd o fudd i’r gymdeithas yng Nghymru a'r tu hwnt.

"Nid yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru fawr mwy na deg oed, ond rydym yn chwarae rhan gynyddol mewn creu amgylchedd cynhyrchiol a chefnogol ar gyfer ymchwil o’r radd flaenaf yng Nghymru, wrth ddarparu llais gwybodus mewn trafodaethau polisi. 

“Pleser o'r mwyaf yw croesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas, ac edrychaf ymlaen at eu cysylltiad gweithgar â ni yn y blynyddoedd i ddod.”

Bellach gyda'r aelodau newydd, mae ein Cymdeithas yn cynnwys 687 o Gymrodyr. Gellir gweld rhestr gyflawn o'r Cymrodyr newydd, sy'n rhestru eu sefydliadau a'u meysydd ymchwil yma.

Rhannu'r stori