Llun:  Yr Athro Jas Pal Badyal (yr ail o'r chwith) a'r Athro Helen Griffiths (y trydydd o'r chwith); gyda chydweithwyr yr Athro Badyal (ar y dde) Amy Hatt a Julie Cunnington Hill, a Dr Matt Elwin (ar y chwith) a'r Athro Ian Mabbett (y trydydd o'r dde) o Brifysgol Abertawe. 

Llun:  Yr Athro Jas Pal Badyal (yr ail o'r chwith) a'r Athro Helen Griffiths (y trydydd o'r chwith); gyda chydweithwyr yr Athro Badyal (ar y dde) Amy Hatt a Julie Cunnington Hill, a Dr Matt Elwin (ar y chwith) a'r Athro Ian Mabbett (y trydydd o'r dde) o Brifysgol Abertawe. 

Cafodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru gipolwg ar feysydd ymchwil gwahanol sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe, gan amrywio o feddygaeth i led-ddargludyddion, yn ystod ymweliad diweddar â'r Brifysgol.

Dechreuodd yr Athro Jas Pal Badyal, cemegydd ymchwil sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, yn ei rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023.

Yng nghwmni'r Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi, yr Athro Helen Griffiths, ymwelodd yr Athro Badyal â thimau ymchwil ar Gampws Singleton a Champws y Bae i ddysgu am eu gwaith, gan gynnwys:   

  • Y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM)
  • Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
  • Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
  • Cyflwyniad am Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
  • Trafodaeth bwrdd crwn â chynrychiolwyr o bartneriaid y Brifysgol ym myd diwydiant, gan gynnwys:
    • Tata Steel UK
    • Dŵr Cymru
    • Amgen
    • CanSense Ltd
    • Forged Solutions
    • Calon Cardio-Technology Ltd

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:

"Rydym yn hynod falch o'n hymchwil a'n harloesedd ym Mhrifysgol Abertawe ac roeddem yn falch iawn o groesawu Prif Gynghorydd Gwyddonol newydd Cymru, yr Athro Jas Pal Badyal, i arddangos hyn."

Ymchwil Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori