Paneli solar

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i dyfarnu ymhlith yr 80 uchaf yn y byd am ei heffaith amgylcheddol a chymdeithasol yn Nhablau Cynaliadwyedd y Byd blynyddol QS.

Yn Nhablau Cynaliadwyedd QS 2024, a ryddhawyd ddydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023, mae'r Brifysgol yn safle 80 yn fyd-eang allan o 1,403 o sefydliadau, a safle 23 yn y DU.

Mae'r safleoedd yn seiliedig ar dri phrif gategori: Effaith Amgylcheddol, Effaith Gymdeithasol, a Llywodraethu. Maent yn darparu fframwaith unigryw a manwl i asesu sut mae prifysgolion yn gweithredu i fynd i'r afael â heriau byd-eang mwyaf dybryd y byd.

Mae'r Brifysgol wedi perfformio'n gryf ar draws nifer o fesurau, gan gynnwys bod yn safle 26 ar gyfer llywodraethu, safle 53 ar gyfer iechyd a lles, a safle 65 am effaith gymdeithasol.

Meddai Dr Drew MacFarlane, Rheolwr Tablau QS:  "Mae QS eisiau cefnogi'r sector addysg uwch ar ei daith tuag at addysg fwy cynaliadwy i bawb ac annog arferion gorau mewn tryloywder, ymchwil effeithiol, cydraddoldeb a lliniaru hinsawdd.

Mae Tablau Cynaliadwyedd QS yn ystyried perfformiad ar draws categorïau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu, gyda ffocws penodol ar yr effaith allanol y mae sefydliad yn ei chael, yn y gobaith o sbarduno syniadau, gweithredu ac ymgysylltu. Mae'n offeryn rydym yn ei gynnig i'r sector i helpu i sbarduno menter gadarnhaol, ac rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid addysg uwch sydd wedi ymuno â'n hymdrechion."

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: "Rwy'n falch iawn bod Prifysgol Abertawe ymhlith yr 80 prifysgol orau yn y byd am gynaliadwyedd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn brifysgol sy'n cael effaith go iawn ar y byd o'n cwmpas, gan wneud gwahaniaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol drwy ein haddysg, ein hymchwil a sut rydym yn gweithredu fel sefydliad.

"Mae'r sgôr QS hon yn ganlyniad gwych, ac mae'n hynod wobrwyol gweld y cyfraniadau gan ein cydweithwyr a'n myfyrwyr tuag at gyflawni uchelgeisiau ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd yn cael eu cydnabod ar y llwyfan byd-eang."

Rhannu'r stori