Myfyrwyr yn cerdded ar y traeth

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni eleni.

Mae'r gwobrau blynyddol yn dathlu gwaith caled sefydliadau addysg uwch ledled y DU a hon yw'r seremoni gwobrau addysg uwch fwyaf blaenllaw sy'n seiliedig ar adolygiadau myfyrwyr yn unig.

Mae'r Gwobrau yn seiliedig ar adolygiadau mwy na 35,000 o fyfyrwyr sy'n astudio yn y DU ac maent yn cynnig dewis unigryw a diragfarn i ddarpar fyfyrwyr yn lle'r systemau traddodiadol o asesu rhinweddau prifysgolion. Mae’r ymagwedd hon a arweinir gan fyfyrwyr at gasglu adolygiadau a chyflwyniadau ysgrifenedig, yn golygu bod y prifysgolion sydd ar y rhestr fer wedi’u cydnabod gan fyfyrwyr am ddarparu profiad eithriadol.

Yn seiliedig ar adolygiadau a ddarparwyd gan fyfyrwyr yn Abertawe, mae'r Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

  • Rhagolygon Gyrfa
  • Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu
  • Bywyd Myfyrwyr
  • Ôl-raddedig
  • Rhyngwladol
  • Gwobr ar sail cyflwyniad

Meddai'r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor (Addysg): "O ystyried mai myfyrwyr sy'n pleidleisio yng Ngwobrau WhatUni, mae'n anrhydedd mawr gweld bod Abertawe ar y rhestr fer mewn chwe chategori.

"Mae ein llwyddiant yn dyst i waith caled staff sy'n ymdrechu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y budd gorau posib o'u hamser yma yn Abertawe. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd profiad ein myfyrwyr ac yn canolbwyntio ar baratoi ein myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl gadael y Brifysgol. Mae ein graddedigion yn gadael wedi meithrin y sgiliau a'r profiadau y bydd eu hangen arnynt i ffynnu pa yrfa bynnag maent yn ei dewis a’r rhai sy'n bwysig i gyflogwyr.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 26 Ebrill 2023. Gellir gweld rhestr lawn yma o'r sefydliadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ym mhob un o gategorïau'r gwobrau.

Rhannu'r stori