Dr Helen Chadwick

Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) wedi cyhoeddi y bydd 75 o'r arweinwyr ymchwil mwyaf addawol yn elwa o £101m i fynd i'r afael â materion o bwys byd-eang ac i fasnacheiddio eu harloesiadau yn y DU. 

Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn galluogi prifysgolion a busnesau i ddatblygu eu hymchwilwyr a'u harloeswyr gyrfa gynnar mwyaf talentog a denu pobl newydd i'w sefydliadau, gan gynnwys o dramor.

Ymhlith arweinwyr gwyddonol y dyfodol a gyhoeddwyd gan UKRI y mae Dr Helen Chadwick, swyddog ymchwil yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe.

Bydd Dr Chadwick yn arwain menter ymchwil uchelgeisiol a fydd yn archwilio'r ffordd y mae moleciwlau hydrogen gwedd nwy'n rhyngweithio ag arwynebau ar lefel sylfaenol iawn. Mae gwrthdrawiadau rhwng hydrogen ac arwynebau'n gwneud cyfraniad allweddol at lawer o ddibenion, o ffurfio sêr a storio tanwydd rocedi'n ddiogel, i gelloedd tanwydd hydrogen a chatalyddu diwydiannol. Felly, bydd deall y rhyngweithiadau hyn ar lefel foleciwlaidd o werth mawr.

Nod ymchwil Dr Chadwick yw darganfod a oes modd rheoli adwaith moleciwl hydrogen i arwyneb drwy newid sut mae'r moleciwl yn cylchdroi’n unig. Gan weithio mewn partneriaeth ag ymchwilwyr o'r DU ac ymchwilwyr rhyngwladol, bydd canfyddiadau'r prosiect yn darparu dealltwriaeth newydd o'r mecanweithiau sy'n sail i adwaith y nwy i'r arwyneb ac yn helpu i ddatblygu modelau damcaniaethau o'r rhyngweithiadau pwysig hyn.

Wrth dderbyn ei chymrodoriaeth, meddai Dr Chadwick: “Mae'n destun cyffro mawr i mi dderbyn Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol, a fydd yn fy ngalluogi i sefydlu rhaglen ymchwil uchelgeisiol a denu tîm i'w rhoi ar waith. Bydd y Gymrodoriaeth yn fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach fethodoleg arbrofol sy'n unigryw i Brifysgol Abertawe er mwyn astudio rôl mudiant cylchdro mewn adweithedd moleciwlau gwedd nwy ar arwynebau am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn fy ngalluogi i wneud gwaith ar y cyd ag arweinwyr ymchwil eraill yn y DU a'r tu hwnt.”

Meddai'r Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: “Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn cynnig cymorth a hyfforddiant tymor hir i ymchwilwyr ac arloeswyr, gan roi rhwydd hynt iddyn nhw archwilio syniadau newydd anturus, ac adeiladu gyrfaoedd deinamig sy'n chwalu'r ffiniau rhwng sectorau a disgyblaethau.

“Mae'r cymrodyr a gyhoeddwyd heddiw'n dangos sut mae'r cynllun hwn yn grymuso ymchwilwyr ac arloeswyr talentog i greu'r system ymchwil ac arloesi amrywiol a chysylltiedig mae ei hangen arnon ni i leihau'r pellter rhwng darganfod a ffyniant ledled y DU.”

Rhannu'r stori