Llun o staff o'r Sefydliad Bioleg Cenedlaethol a Phrifysgol Abertawe yng ngerddi Abaty Singleton, Prifysgol Abertawe.

Yr Athro Cysylltiol Dr Bojana Žegura (canol) a'i thîm o'r Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) yn cael ei chroesawu i Brifysgol Abertawe gan yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor (i'r chwith o'r canol), a'r Athro Shareen Doak (i'r dde o'r canol).

Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cynrychiolwyr o Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) Slofenia fel rhan o brosiect gefeillio CutCancer.

Cyhoeddwyd CutCancer ym mis Ionawr, pan ymunodd Prifysgol Abertawe â Phrifysgol Stockholm yn Sweden a Chanolfan Feddygol VU yn Amsterdam yn yr Iseldiroedd i gydweithio i gryfhau a chynyddu gallu a rhagoriaeth ymchwil ac arloesi NIB, y partner arweiniol.

Mae'r prosiect tair blynedd gwerth €1,197,550, sy’n rhan o raglen Horizon Ewrop, yn rhannu arbenigedd mewn ymagweddau profi o'r radd flaenaf er mwyn hyrwyddo ymchwil flaenllaw ym maes ymchwil gyn-glinigol i ganser.

Yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod diweddar, canolbwyntiodd y cynrychiolwyr o Slofenia ar gyfnewid gwybodaeth er mwyn archwilio rhai meysydd arbenigedd allweddol – gan gymryd rhan mewn hyfforddiant, cyflwyniadau a gweithdai i gyfnewid arferion gorau, â'r nod o ehangu'r gallu ymchwil ac arloesi yn NIB.

Meddai'r Athro Shareen Doak, Athro Genodocsicoleg a Chanser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a gydlynodd yr ymweliad:

“Roedd hi'n wych cwrdd â'n cydweithwyr o NIB i ddatblygu agenda cyfnewid gwybodaeth prosiect CutCancer. Mae hi hefyd wedi ein galluogi i gryfhau ein perthnasoedd a'n cydweithrediad a gwneud cynnydd go iawn wrth roi ymagweddau trawsnewidiol at ymchwil i ganser ar waith.” 

Meddai Dr Bojana Žegura, Athro Cysylltiol Sefydliad Bioleg Cenedlaethol Slofenia:

“Cymerodd grŵp o 13 o gynrychiolwyr NIB o'r Swyddfa Prosiectau, y Swyddfa Trosglwyddo Technoleg, y Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus, yr Adran Gyfrifyddu a'r Swyddfa Adnoddau Dynol ran mewn hyfforddiant ym Mhrifysgol Abertawe i feithrin gwybodaeth newydd a rhannu arferion gorau er mwyn cryfhau gallu rheoli ymchwil a sgiliau gweinyddol. A minnau'n ymchwilydd, ces i'r cyfle i siarad â'r Athro Shareen Doak am y posibilrwydd o gydweithio'n ehangach i ddwysáu a chryfhau ein cydweithrediad ymhellach. Yn ogystal â rhannu gwybodaeth, gwnaethon ni gynllunio gweithgareddau yn y dyfodol i gryfhau ein partneriaeth yn strategol. Rydyn ni'n ddiolchgar am y cyfle hwn.”

Rhannu'r stori