Yn y llun o’r chwith i'r dde: Swyddogion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe - Swyddog Lles Myfyrwyr, Abigail Egwuatu, y Llywydd Esyllt Rosser, a Tom Weller, Cydlynydd Ymgysylltu a Grwpiau Myfyrwyr.

Yn y llun o’r chwith i'r dde: Swyddogion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe - Swyddog Lles Myfyrwyr, Abigail Egwuatu, y Llywydd Esyllt Rosser, a Tom Weller, Cydlynydd Ymgysylltu a Grwpiau Myfyrwyr.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn brif noddwr ras arobryn Hanner Marathon Abertawe.

Mae'r nawdd yn rhan o ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol, sy'n codi arian at ymchwil hanfodol o safon fyd-eang i atal hunanladdiad, ynghyd â chymorth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.

A hithau'n elusen gofrestredig, mae Prifysgol Abertawe'n annog pobl i redeg yn yr hanner marathon ar ei rhan. Rhoddir yr holl arian a godir tuag at y canlynol:

  • Ariannu ymchwil gan yr Athro Ann John, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang wrth ymchwilio i iechyd meddwl ac atal hunanladdiad ledled y byd.
  • Sefydlu Hyb Myfyrwyr Nyrsio i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr nyrsio a chreu gweithlu mwy gwydn i'r GIG.
  • Gwneud ymarfer corff yn fwy hygyrch i fyfyrwyr er mwyn hybu eu hiechyd meddwl a'u lles.

Bydd nifer o leoedd am ddim ar gael i bobl sy'n addo codi mwy na £200 at ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl y Brifysgol, ynghyd â gostyngiad cyffredinol arall i staff, myfyrwyr a 150 o raddedigion. 

Eleni, cynhelir Hanner Marathon Abertawe, sydd wedi cael ei enwi'n hanner marathon gorau'r DU ddwywaith, ddydd Sul 11 Mehefin.

Mae JCP Solicitors wedi noddi'r digwyddiad ers y cychwyn cyntaf yn 2014 a bydd y cwmni bellach yn ymuno â'r rhestr o bartneriaid sy’n noddwyr arian, ochr yn ochr â'r cyfrifwyr siartredig Matthews & Co ac Ysbyty HMT Sancta Maria.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch ym maes chwaraeon ac felly rydyn ni'n falch o noddi Hanner Marathon Abertawe, sydd bellach yn un o uchafbwyntiau calendr blynyddol ein dinas, eleni. Mae'r ras yn ffordd bwerus o ysgogi pobl i fabwysiadu ffyrdd mwy iach o fyw, sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau strategol ein Prifysgol i gefnogi iechyd a lles ein cymuned ehangach.

“Gan ein bod ni'n elusen gofrestredig, rydyn ni'n sianelu llawer o'n rhoddion tuag at ymchwil o'r radd flaenaf a chymorth i fyfyrwyr ac rydyn ni'n falch ein bod wedi creu ein hymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl ar gyfer y ras eleni. Bydd yr arian sy'n cael ei godi am yr ymgyrch hon yn helpu ein hymchwilwyr i barhau i wneud darganfyddiadau arloesol, a bydd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu disgleirio a'u bod yn cael cymorth wrth wynebu unrhyw heriau iechyd meddwl.”

Croesawodd Esyllt Rosser, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, y cyhoeddiad: “Mae pandemig Covid-19 a'r argyfwng costau byw presennol wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr. Felly, rydyn ni'n falch y bydd ymgyrch Camau Breision y Brifysgol yn codi arian hollbwysig i helpu i gefnogi iechyd meddwl ein myfyrwyr, gan helpu i sicrhau eu bod yn manteisio i'r eithaf ar eu profiad yn y Brifysgol.”

Meddai Natasha Smith, Cyfarwyddwr Ras Hanner Marathon Abertawe: “Mae'n destun cyffro mawr i ni weithio gyda Phrifysgol Abertawe ar gyfer y digwyddiad yn 2023 ac rydyn ni'n edrych ymlaen at feithrin perthynas gref a datblygu cynlluniau yn y dyfodol. Mae'r paratoadau ar gyfer Hanner Marathon Abertawe eleni wedi hen ddechrau ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein rhedwyr anhygoel yn ôl i Abertawe unwaith eto.

“Hoffen ni ddiolch i JCP Solicitors am holl gefnogaeth ac ymroddiad y cwmni dros yr wyth mlynedd diwethaf a hoffen ni hefyd groesawu Prifysgol Abertawe i deulu ein hanner marathon.”

Cofrestrwch i redeg ar ran Prifysgol Abertawe yn Hanner Marathon Abertawe eleni.

Dysgwch fwy am Hanner Marathon Prifysgol Abertawe a sut y gallwch ymuno â #RhedegAbertawe.

Rhannu'r stori