Saith o bobl yn gwisgo siacedi llachar a hetiau caled y tu allan ar safle ar ben bryn

Uwch-gynrychiolwyr o’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd a Phrifysgol Abertawe ar y safle sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Onllwyn.

Mae Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd wedi cytuno ar gydweithrediad ymchwil newydd o bwys yng nghartref y ganolfan sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn ne Cymru.

Bydd y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn safle ar gyfer ymchwil o'r radd flaenaf, profi ac arddangos cerbydau rheilffyrdd, isadeiledd a thechnolegau newydd arloesol ym maes rheilffyrdd.  

Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng y ddau gorff yn galluogi Prifysgol Abertawe a GCRE i gydweithredu ar feysydd o ddiddordeb ymchwil cyffredin. 

Mae'r Brifysgol eisoes wedi ei sefydlu'i hun wrth arloesi ym maes rheilffyrdd, ac mae'n aelod o UKRRIN (Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd y DU). Yn ogystal, mae ganddi arbenigedd sylweddol mewn meysydd megis signalau, isadeiledd a pheirianneg sifil rheilffyrdd. 

Mae safle 700 hectar GCRE yn Onllwyn hefyd yn darparu cyfleoedd sylweddol i gefnogi astudiaethau mewn meysydd ymchwil ategol megis ynni adnewyddadwy, y gwyddorau naturiol ac amrywiaeth eang o ddisgyblaethau peirianneg. Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle i academyddion o bob rhan o'r Brifysgol ddefnyddio’r safle. 

Ar wahân i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn, bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn bartner mewn canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer profi a dilysu rheilffyrdd a phrofiad cwsmeriaid yn GCRE, ochr yn ochr â Phrifysgol Birmingham a Phrifysgol Caerdydd, yn dilyn dyfarniad gwerth £15m gan UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU). 

Meddai'r Athro David Smith, Dirprwy Is-ganghellor a Deon y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: “Mae’n bleser gennyn ni gryfhau ein partneriaeth bresennol â GCRE a chytuno ar bartneriaeth fwy ffurfiol. Bydd ein cydweithrediad yn cynnwys datblygu sgiliau, hyfforddi myfyrwyr ac arloesi o ran gefeillio digidol, ynni a sero net, deunyddiau ac isadeiledd, a gwyddor yr amgylchedd, wrth gefnogi technoleg ac arloesi rheilffyrdd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

“Mae GCRE yn gyfleuster unigryw yn y DU ac, yn wir, yn Ewrop, ac rydyn ni'n ffodus iawn ei bod hi ar ein stepen drws ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu cyfleoedd am ymchwil ac addysg sy'n cael effaith drwy'r bartneriaeth newydd hon.” 

Meddai Rob Forde o GCRE: “Mae gan Abertawe rai cryfderau sy'n arwain y sector mewn llawer o feysydd allweddol a bydd GCRE yn darparu platfform sy'n galluogi ei thimau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu arloesol, yn ogystal â chynnig lleoliad arbennig i fyfyrwyr feithrin sgiliau a phrofiad mewn rheilffordd fyw. 

“Mewn llawer o ffyrdd, mae'r bartneriaeth yn un naturiol iawn. Mae cartref Abertawe'n agos iawn at y safle ac mae'n bwysig i ni ein bod ni'n manteisio ar y cryfder a'r gallu hwnnw ar ein stepen drws ni. Bydd y cleientiaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw'n sicr o werthfawrogi bod prifysgol uchel ei bri fel Abertawe yn gysylltiedig â'r cyfleuster. 

“Mae'r bartneriaeth hon yn destun cyffro mawr i ni, yn enwedig er mwyn cefnogi cydweithrediadau ymchwil y tu hwnt i faes rheilffyrdd.”

 

Rhannu'r stori