Gweithiwr meddygol yn Affrica islaw'r Sahara yn gwisgo sgrybs a ddosbarthwyd gan Inter Care. (Credyd: Inter Care)

Gweithiwr meddygol yn Affrica islaw'r Sahara yn gwisgo sgrybs a ddosbarthwyd gan Inter Care. (Credyd: Inter Care)

Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi mwy na 600 o iwnifformau myfyrwyr nyrsio amrywiol i sefydliadau difreintiedig yng ngwledydd Affrica islaw'r Sahara, gan helpu i ddiogelu gweithwyr gofal iechyd rhag dal clefydau trosglwyddadwy wrth iddynt ddarparu cymorth meddygol i gleifion sy'n agored i niwed.

Trefnodd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y rhodd drwy Inter Care, sydd â chenhadaeth i achub bywydau a lliniaru dioddefaint drwy ddarparu adnoddau meddygol dros ben i unedau iechyd partner gwledig yn yr ardal.

At ei gilydd, mae'r Brifysgol wedi rhoi 13 o flychau, a oedd yn cynnwys 350 o diwnigau a 290 pâr o drowsus, fel rhan o gynhwysydd 20 troedfedd llawn cyflenwadau meddygol a gludwyd gan Inter Care i ogledd Malawi.

Yr uned iechyd arweiniol ar gyfer y cynhwysydd yw Ysbyty Cenhadol CCAP Ekwendeni, a fydd yn dosbarthu'r cymorth meddygol ymysg pedwar ysbyty arall sy'n cymryd rhan: Ysbyty Cymunedol Atupele, Ysbyty Cymunedol Kaseye, Ysbyty Cymunedol Mzambazi ac Ysbyty Cymunedol St Anne (Chilumba).

Drwy beidio â defnyddio'r dull gwaredu traddodiadol, sef llosgi, mae'r rhodd wedi atal CO2 sy’n cyfateb i 9,300kg rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Meddai Victoria Lewis, Swyddog yr Amgylchedd, a drefnodd y rhodd: “Mae gweithio gydag Inter Care wedi ein galluogi i helpu i leihau gwastraff meddygol y DU, gan gyfrannu at ymrwymiad y Brifysgol i leihau ei hôl troed carbon, yn ogystal ag achub ar y cyfle i gefnogi unigolion ym maes gofal iechyd yng ngwledydd Affrica islaw'r Sahara, sy'n gweithio'n ddiflino i wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, er bod adnoddau’n brin.”

Meddai Diane Hardy, Rheolwr Cyffredinol Inter Care: “Rydyn ni'n gwerthfawrogi'n fawr gymorth y sefydliadau sydd wedi rhoi sgrybs i Inter Care; mae hyn yn ein galluogi i gyflenwi iwnifform i bob adran yn y canolfannau iechyd a'r ysbytai rydyn ni'n eu cefnogi yng ngwledydd Affrica islaw'r Sahara.

“Allwch chi ddychmygu gweithio mewn ysbyty heb iwnifform? Fyddai'r cleifion ddim yn gwybod eich bod chi'n rhan o dîm meddygol. Mae iwnifformau’n rhan hanfodol o'r gwasanaeth i staff meddygol, yn ogystal â'u diogelu a rheoli heintiau.

“Diolch i chi, Brifysgol Abertawe – mae eich rhodd ar ei ffordd i bum ysbyty gwahanol ym Malawi i gynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu gwaith o ddydd i ddydd.”

O ran cynlluniau ar gyfer rhoddion yn y dyfodol, meddai Victoria: “Rydyn ni'n falch o gael gweithio gydag Inter Care i drefnu ail rodd, a fydd yn cael ei danfon i Sierra Leone yn yr haf. Bydd yn cynnwys mwy o eitemau glân ac ailddefnyddiadwy mawr eu hangen, megis cotiau labordy.”

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut gallwch roi cyflenwadau meddygol dros ben drwy e-bostio Victoria Lewis.

Rhannu'r stori