Graffigyn ymchwil feddygol: os bydd y canfyddiadau cychwynnol hyn yn berthnasol i bobl, gallent ryw ddydd gynnig ffordd o gyfyngu ar effeithiau niweidiol cyflyrau awtoimiwnedd.

Cafodd yr astudiaeth ei harwain gan Sefydliad Crick a'i hariannu gan Cancer Research UK.

Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Francis Crick wedi darganfod bod bwyta llawer o felysydd artiffisial cyffredin, sef sucralose, yn lleihau'r broses o actifadu celloedd T, cydran bwysig o'r system imiwnedd, mewn llygod.

Roedd Dr Nick Jones o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe'n un o gyd-awduron yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature.

Os darganfyddir bod y melysydd yn cael effeithiau tebyg ar bobl, gellid ei ddefnyddio ryw ddydd mewn modd therapiwtig i helpu i leihau ymatebion celloedd T – er enghraifft, mewn cleifion â chlefydau awtoimiwnedd sy'n dioddef o gelloedd T sy'n cael eu hactifadu heb reolaeth.

Mae sucralose yn felysydd artiffisial, oddeutu 600 o weithiau'n felysach na siwgr, a ddefnyddir yn gyffredin mewn diodydd a bwyd. Yn yr un modd â llawer o felysyddion artiffisial eraill, nid oes dealltwriaeth gyflawn o effeithiau sucralose ar y corff eto. Serch hynny, mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall sucralose ddylanwadu ar iechyd pobl drwy effeithio ar y meicrobiom.

Yn eu hastudiaeth, a gafodd ei hariannu gan Cancer Research UK a'i chyhoeddi yn Nature, profodd yr ymchwilwyr effaith sucralose ar system imiwnedd llygod.

Bwydwyd llygod â sucralose ar lefelau cyfatebol i'r defnydd dyddiol derbyniol a argymhellir gan yr awdurdodau diogelwch bwyd yn Ewrop ac America. Yn bwysig, er bod y dosau hyn yn bosib, ni fyddai pobl yn eu cyrraedd fel arfer drwy lyncu bwyd neu ddiodydd sy'n cynnwys melysyddion fel rhan o ddeiet arferol.

Nid oedd y llygod a fwydwyd â deietau a oedd yn cynnwys llawer o sucralose yn gallu actifadu celloedd T i'r un graddau mewn ymateb i ganserau neu heintiau. Ni chafwyd effaith ar fathau eraill o gelloedd imiwnedd.

Drwy astudio celloedd T yn fwy manwl, canfu'r ymchwilwyr fod dos uchel o sucralose yn effeithio ar y broses o ryddhau calsiwm mewngellol mewn ymateb i symbyliad, gan leihau gweithrediad celloedd T o ganlyniad i hynny.

Ni ddylai'r ymchwil hon godi arswyd ar y rhai hynny sydd am sicrhau bod ganddynt system imiwnedd iach neu eu bod yn gwella o glefyd, gan na fyddai pobl sy'n bwyta lefelau arferol neu hyd yn oed lefelau ychydig yn uwch o sucralose yn cyrraedd lefelau'r astudiaeth hon.

Yn hytrach na hynny, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y gallai'r canfyddiadau arwain at ffordd newydd o roi dosau llawer uwch o sucralose i gleifion, gan adeiladu ar y dystiolaeth bod rhoi deiet llawn sucralose i lygod â chlefyd awtoimiwnedd cysylltiedig â chelloedd T yn helpu i liniaru effeithiau niweidiol eu celloedd T gorweithredol.

Meddai Karen Vousden, uwch-awdur a phrif arweinydd y grŵp yn Sefydliad Crick:

“Rydyn ni'n gobeithio rhoi darlun mwy at ei gilydd o effeithiau deiet ar iechyd a chlefydau, fel y gallwn ni ryw ddydd roi cyngor ar ddeietau sy'n gweddu orau i gleifion unigol, neu ganfod elfennau o'n deiet y gall meddygon eu defnyddio ar gyfer triniaethau.

“Mae angen mwy o ymchwil ac astudiaethau i weld a oes modd defnyddio sucralose i effeithio ar bobl yn yr un modd ag y mae'n effeithio ar lygod. Os bydd y canfyddiadau cychwynnol hyn yn berthnasol i bobl, gallen nhw ryw ddydd gynnig ffordd o gyfyngu ar effeithiau niweidiol cyflyrau awtoimiwnedd."

Ychwanega Fabio Zani, awdur cyntaf ar y cyd a chymrawd hyfforddiant ôl-ddoethurol yn Sefydliad Crick:

“Nid ydyn ni eisiau cyfleu’r neges i bobl fod sucralose yn niweidiol os yw'n rhan o ddeiet cytbwys arferol, gan y byddai'n anodd iawn cyrraedd y dosau y gwnaethon ni eu rhoi i lygod heb ymyrraeth feddygol.

“Mae'n ymddangos ei bod hi'n bosib gwrthdroi'r effaith ar y system imiwnedd a welon ni ac rydyn ni'n credu y gall fod yn werth astudio a ellid defnyddio sucralose i liniaru cyflyrau megis awtoimiwnedd, yn enwedig mewn therapïau cyfuniadol.”

Esbonia Julianna Blagih, awdur cyntaf ar y cyd a chyn-gymrawd hyfforddiant ôl-ddoethurol yn Sefydliad Crick (sydd bellach yn Athro Cysylltiol yng Nghanolfan Ymchwil Ysbyty Maisonneuve-Rosemont, Prifysgol Montreal):

“Rydyn ni wedi dangos nad yw melysydd cyffredin, sef sucralose, yn foleciwl cwbl anadweithiol ac rydyn ni wedi dadorchuddio effaith annisgwyl ar y system imiwnedd. Rydyn ni'n awyddus i archwilio a yw'r melysydd hwn yn cael effaith debyg ar fathau neu brosesau eraill o ran celloedd.”

Meddai Karis Betts, uwch-reolwr gwybodaeth iechyd gyda Cancer Research UK:

“Mae'r astudiaeth hon yn dechrau archwilio sut gellid defnyddio dosau uchel o sucralose o bosib mewn ffyrdd newydd o drin cleifion, ond mae'r gwaith yn ei fabandod.

“Nid yw canlyniadau'r astudiaeth hon yn dangos bod sucralose yn cael effeithiau niweidiol ar bobl, felly nid oes angen i chi feddwl am newid eich deiet i'w osgoi.”

Mae'r ymchwilwyr yn parhau â'r gwaith hwn ac yn gobeithio cynnal treialon i brofi a yw sucralose yn cael effaith debyg ar bobl.

Cyhoeddwyd y stori gan Sefydliad Crick. 

Rhannu'r stori