Logo Archwilio Problemau Byd-eang

Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a ChatGPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu?  A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau i ddiogelwch?

Bydd y cwestiynau hyn a llawer o gwestiynau eraill yn cael eu hateb yng nghyfres ddiweddaraf y podlediad ymchwil ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle mae academyddion o Brifysgol Abertawe yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i fynd i'r afael â heriau byd-eang.

Yn y drydedd gyfres hon sy'n para am 11 bennod, mae academyddion yn archwilio  pynciau amrywiol a phwysig megis ein hamddiffyn ein hunain rhag cemegion sy'n achosi canser, gwella gofal iechyd i bobl awtistig ac ailfeddwl perthynas  cymdeithas â cheir.

Hefyd yn y gyfres hon, bydd Dr Sam Blaxland, y cyflwynydd rheolaidd, yn tywys gwrandawyr dros y misoedd nesaf drwy benodau sy'n cynnwys academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau, a fydd yn siarad am eu brwdfrydedd am eu hymchwil, addysgu eu myfyrwyr a gweithio gyda'u partneriaid. Ym mhob pennod, mae'r cyfweledig yn datgelu sut mae ei ymchwil yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywydau pobl a sut mae hyn yn sbarduno ei lwyddiant. Bydd pennod Gymraeg hefyd gyda'r arbenigwr ffuglen wyddonol Dr Miriam Jones.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe:

“Rwy'n falch iawn bod trydedd gyfres ein podlediad cyffrous ‘Archwilio Problemau Byd-eang’ ar fin mynd yn fyw..  Mae'r gyfres newydd hon o bodlediadau yn taflu goleuni ar ein hymchwil o fri drwy leisiau ein hymchwilwyr, sy'n sôn am effaith gymdeithasol anhygoel eu hymchwil, gan dynnu sylw at y ffordd mae eu hymchwil yn ymateb i heriau pwysicaf heddiw ac yfory.”

Mae gan Brifysgol Abertawe amgylchedd ymchwil cyfoethog ac mae'n cynnal ymchwil sy'n cael effaith sylweddol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, ystyriwyd bod 91% o'i hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol a bod 86% o'i hymchwil yn cael effaith ragorol yn lleol ac yn fyd-eang.

Gall gwrandawyr ddod o hyd i'r podlediadau drwy danysgrifio i'r gyfres ar y darparwr podlediadau o'u dewis neu drwy wefan Prifysgol Abertawe, a bydd pennod newydd yn mynd yn fyw bob pythefnos.

Rhannu'r stori