Clawr blaen y llyfr ochr yn ochr â llun pen ac ysgwydd o ddyn

Bydd llyfr newydd gan Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae'r Athro Blagrove, cyfarwyddwr Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe , wedi ymuno â'r artist Dr Julia Lockheart, o Goleg Celf Abertawe, i ysgrifennu The Science of Art and Dreaming yn dilyn llwyddiant eu cydweithrediad rhwng gwyddoniaeth a chelf DreamsID.com (Darlunio a Thrafod Breuddwydion). 

At ddibenion y prosiect hwn, mae'r pâr yn cynnal trafodaethau cyhoeddus lle mae cynnwys breuddwydion yn cael ei gysylltu ag atgofion a phryderon diweddar yr unigolyn sy'n breuddwydio. Wrth i'r breuddwyd gael ei drafod, mae Dr Lockheart yn ei bortreadu ar ffurf weledol drwy ei baentio ar dudalennau llyfr enwog Freud The Interpretation of Dreams. Mae ei gwaith celf hynod ddifyr yn defnyddio geiriau Freud yn unig i greu barddoniaeth. 

Meddai'r Athro Blagrove: “Rydyn ni wedi cyhoeddi papurau gwyddonol o'r blaen yn ogystal ag ambell erthygl am y paentiadau sydd wedi deillio o'n trafodaethau cyhoeddus am freuddwydion, ond dyma ein llyfr cyntaf.

“Arweiniodd y cydweithrediad yn annisgwyl at rai goblygiadau gwyddonol newydd. Er enghraifft, efallai nad oes gan freuddwydion ddiben yn ystod cwsg, ond mae ganddyn nhw ddiben ar ôl deffro, drwy feithrin cysylltiad rhwng pobl pan gaiff y breuddwyd ei rannu a'i drafod. Felly, cyhoeddwyd ein papur ar hynny a dyna brif gasgliad y llyfr.”

Mae'r llyfr yn archwilio achosion biolegol, seicolegol a chymdeithasol breuddwydio ac yn amlinellu datblygiadau diweddar wrth astudio hunllefau a breuddwydion eglur. Mae'n dehongli breuddwydion claf Freud, yr arwres ffeministaidd Dora, o'r newydd mewn modd gafaelgar, ac yn dangos sut mae cynnwys chwareus, gwreiddiol a throsiadol breuddwydion yn eu cysylltu â chelf. Mae hefyd yn disgrifio sut mae ffilmiau wedi defnyddio breuddwydion a phrosesau tebyg i freuddwydion. 

Yn ogystal, mae’n annog pobl i rannu breuddwydion er mwyn hyrwyddo dychymyg, creadigrwydd, hunanfyfyrio ac agosatrwydd at bobl eraill. Mae pob pennod yn dechrau gyda naratif am freuddwyd a phaentiad i gyd-fynd â'r breuddwyd, i amlygu agweddau ar themâu pob pennod. 

Ychwanegodd yr Athro Blagrove: “Mae'r llyfr ar gyfer y cyhoedd, a myfyrwyr ac ymchwilwyr seicoleg, yn ogystal â phobl sydd â diddordeb mewn breuddwydion neu mewn celf a swrrealaeth.”

Caiff ei lansio'n swyddogol ddydd Gwener, 17 Mawrth - Diwrnod Cwsg y Byd - yn Amgueddfa Freud yn Llundain, fel rhan o'r digwyddiadau i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Ymennydd, a bydd yr awduron yn sgwrsio â Marnie Chesterton, cyflwynydd gwyddoniaeth BBC Radio 4, a gymerodd ran yn un o'r sesiynau DreamsID yn 2018. 

Bydd y llyfr yn cael ei lansio yn Abertawe yn Oriel Gelf Glynn Vivian ddydd Mawrth, 21 Mawrth a gallwch bellach archebu tocynnau i fod yn y gynulleidfa wrth i'r awduron drafod y llyfr.  

Mae'r llyfr eisoes yn denu sylw cyn iddo gael ei gyhoeddi'n swyddogol, gan gyrraedd brig rhestr Amazon o gyhoeddiadau newydd am seicoleg wybyddol a chael ei restru yn y pumed safle am gyhoeddiadau newydd am seicotherapi. Mae'r Athro Blagrove a Dr Lockheart bellach yn cynllunio digwyddiadau eraill i hyrwyddo eu llyfr, gan gynnwys ymweliadau â Los Angeles a Berkeley ym mis Mehefin. 

Mae newydd ei gyhoeddi hefyd y bydd yr Athro Blagrove a Dr Lockheart yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli eleni, gyda sesiwn arbennig yn trafod eu llyfr yn cael ei chynnal ddydd Llun 29 Mai rhwng 2.30pm a 3.30pm.

Gallwch brynu eich copi nawr o Routledge gan ddefnyddio'r côd disgownt FLE22

 

Rhannu'r stori