Logo: Comisiwn Bevan

Comisiwn Bevan yn cynnal cynhadledd bwysig

Wedi ei eni o adfeilion byd mewn argyfwng, mae’r GIG yn dyst parhaus i’r pethau anhygoel sy’n digwydd pan mae pobl yn dod ynghyd er lles pawb.

Ers 75 mlynedd, mae’r GIG wedi bod yn sylfaen i’n cymdeithas; yn diogelu ein cymunedau, ein ffrindiau a’n teuluoedd. Mae’r GIG wedi cyflawni cymaint, ond bellach mae’n wynebu heriau digynsail byd-eang, yn cynnwys Covid-19, poblogaeth sy’n heneiddio a’r argyfwng hinsawdd.

Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Mae’n amser inni wynebu’r heriau hyn gyda’n gilydd ac ailadeiladu ein GIG fel y gall ffynnu yn y dyfodol. Rydym wedi gwneud hynny o’r blaen, a gallwn wneud hynny eto.

Ar 5/6 Gorffennaf, bydd Comisiwn Bevan yn cynnal cynhadledd bwysig fel y gellir cynnal sgyrsiau agored a gonest ynglŷn â dyfodol ein gwasanaeth iechyd.

Bydd y gynhadledd hon yn cynnwys sgyrsiau gan amrywiaeth eang o siaradwyr rhyngwladol adnabyddus, yn cynnwys:

  • Y Prif Weinidog y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS
  • Yr Athro Syr Chris Ham
  • Yr Arglwydd Nigel Crisp KCB
  • Syr Frank Atherton, CMO
  • Yr Athro Syr Don Berwick
  • Y Fonesig Sue Bailey
  • Yr Athro Sir Michael Marmott
  • Yr Athro Syr Andy Haines
  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Judith Paget, CBE
  • Syr David Haslam, CBE
  • Yr Athro Donna Hall, CB

Bydd gennym hefyd amrywiaeth ddynamig o sesiynau grŵp ysgogol gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Mae Comisiwn Bevan wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y gynhadledd hon mor hygyrch ag y bo modd.

Hoffem ddiolch i bawb sy’n gwneud hyn yn bosibl, yn cynnwys ein noddwyr, ein siaradwyr a’r Celtic Manor am gynnal ein digwyddiad.

Mae Comisiwn Bevan yn falch o gael cymorth a chefnogaeth gan Brifysgol Abertawe.

Rhagor o wybodaeth.

Rhannu'r stori