Delwedd rhith-realiti o weithiwr gofal iechyd proffesiynol gyda chlaf yn gorwedd mewn gwely ysbyty.

Mae cwmni rhith-realiti o Gymru wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu hyfforddiant gofal iechyd arloesol.

Mae'r Brifysgol a'r bwrdd iechyd wedi dewis Rescape, cwmni o Gaerdydd, i gyflwyno cyfres o fodiwlau hyfforddi Rith-realiti pwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o brosiect £900,000 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Virtual Reality a Welsh Reality.

Mae'r prosiect yn gosod Prifysgol Abertawe, ei phartneriaid a Chymru ar flaen y gad o ran technolegau newydd i gyflwyno atebion sy'n gwneud y GIG yn fwy diogel, yn defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol, yn cefnogi hyfforddiant hyblyg ac arloesol yn ogystal â chymryd camau tuag at sero net.

Gweithia Rescape hefyd gydag Imersifi yn Abertawe, cyn-fyfyrwyr Virtual Reality MSc, Prifysgol Abertawe i gefnogi cyflwyno’r prosiect.

Pennaeth Efelychu, yr Athro Cyswllt Joanne Davies, yw Prif ymchwilydd y prosiect VRWR ac mae’n arwain SUSIM, canolfan arbenigol a rhaglen y Brifysgol i ddatblygu efelychiad arloesol ac addysg drochi.

Meddai: “Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Rescape ac Imersifi, maen nhw'n angerddol ac yn wybodus am realiti rhithwir gyda hanes o ddarparu hyfforddiant VR effeithiol.

“Bydd eu profiad a’u harbenigedd yn gwella ein gallu i hyfforddi unigolion a thimau mewn ffordd ymgolli, atyniadol a hyblyg. Mae’n fwy perthnasol nag erioed i helpu i dorri’r ffiniau o ran pryd a ble y gall addysg ddigwydd, yn enwedig gyda’r pwysau presennol ar bob rhan o’r gwasanaeth.

“Rwyf hefyd wrth fy modd bod rhai o’n myfyrwyr blaenorol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn ar gyfer addysg gofal iechyd.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Rescape, Kevin Moss: “Mae ecosystem anhygoel yn datblygu yn Ne Cymru o amgylch technolegau VR ac AR ac mae’n gyffrous gweld yr ardal yn ffynnu ac yn cyflawni ei photensial. Mae realiti rhithwir yn dechnoleg drawsnewidiol, mae'r prosiect hwn yn ddechrau ffordd newydd o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr gofal iechyd.

“Mae’r pwysau sylweddol sy’n wynebu’r GIG wedi’u dogfennu’n dda ynghyd â’r diffyg yn y capasiti ar gyfer hyfforddi staff ac mae’n rhaid croesawu technolegau newydd fel VR os ydym am ddechrau datrys y materion hyn.”

Mae Rescape eisoes wedi gweithio’n llwyddiannus gyda’r Brifysgol i gyflwyno’r hyfforddiant traceostomi VR ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae'r tîm bellach ar fin cyhoeddi canlyniadau hap-dreial rheoledig a wnaeth ddangos fod gan hyfforddiant VR ganlyniadau dysgu tebyg i hyfforddiant traddodiadol - gyda'r fantais ychwanegol o leihau'r ôl troed carbon yn cyfrannu'n sylweddol at yr ymgyrch am sero net.

Meddai Joe Charman, o Imersifi: “Fel cyd-sylfaenwyr Imersifi a graddedigion Prifysgol Abertawe, mae Jack Bengeyfield a minnau’n gyffrous am ein partneriaeth â Rescape i gyflwyno’r modiwlau hyfforddiant gofal iechyd blaengar hyn. Rydym yn falch iawn o ddod â'n harbenigedd mewn hyfforddiant rhith-realiti ac efelychiadau i'r prosiect hwn, gan weithio'n agos gyda thîm y Brifysgol a'u harbenigwyr uchel eu parch. Bydd y prosiect yn grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol gyda’r profiad ymarferol sydd ei angen arnynt i ddarparu’r lefel uchaf o ofal i gleifion.”

Ychwanegodd Mr Moss: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y diddordeb yn y defnydd o rithwirionedd mewn gofal iechyd ac rydym yn cychwyn ar gyfnod newydd lle mae’r dechnoleg yn aeddfedu’n gyflym. Bydd prosiectau fel hyn yn tyfu gwybodaeth yn gyflym ac yn darparu atebion gorau yn y dosbarth.

“Mae’n wefreiddiol gweithio gyda’r tîm SUSIM o safon fyd-eang a chyfuno eu trylwyredd academaidd a’u gwybodaeth â’n sgiliau creadigol a’n llwyddiant profedig wrth greu hyfforddiant VR.”

 

Rhannu'r stori