Olwynion

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw yn y DU am greu cwmnïau deillio, yn ôl adroddiad newydd gan gwmni dadansoddi data Beauhurst.

Mae trydydd adroddiad blynyddol Spotlight on Spinouts, wedi'i noddi gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, yn amlygu cyflawniad nodedig Abertawe wrth greu 48 o gwmnïau deillio ers 2011. Mae'r llwyddiant hwn yn gosod Prifysgol Abertawe ymysg y 10 prifysgol fwyaf blaenllaw yn y DU, yn ogystal â bod ar y brig yng Nghymru.

Mae Spotlight on Spinouts 2023 yn dangos cyflwr economi cwmnïau deillio'r DU. Wedi'i noddi gan yr Academi Frenhinol Peirianneg a'i baratoi gan Beauhurst, mae'r adroddiad yn cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o'r dirwedd o ran cwmnïau deillio ledled y DU.

Mae'r adroddiad yn dadansoddi pa brifysgolion sy'n creu cwmnïau deillio'n llwyddiannus, eu gwasgariad daearyddol a'u polisïau eiddo deallusol, yn ogystal â'r prif sectorau, buddsoddwyr a derbynwyr buddsoddiad o ran cwmnïau deillio, cyfraddau goroesi a llwybrau cynnydd, grantiau Innovate UK, a chyfansoddiad arweinyddiaeth cwmnïau deillio, gan gynnwys rhywedd, oedran a chenedligrwydd. 

Yn y DU, mae sefydliadau academaidd ar flaen y gad wrth greu ymchwil arloesol ac eiddo deallusol, ac mae cwmnïau deillio ymysg y prif ddulliau o fasnacheiddio'r eiddo deallusol hwnnw. Mae llywodraeth y DU wedi cydnabod pwysigrwydd cwmnïau deillio i'r DU – wrth gyfrannu at yr economi a bod yn ffynhonnell strategol technolegau newydd. Ym mis Mawrth, lansiodd y llywodraeth adolygiad o gwmnïau deillio prifysgolion er mwyn pennu'r ffordd fwyaf effeithiol o fasnacheiddio ymchwil.

Mae'r 48 o gwmnïau deillio a grëwyd gan Abertawe ers 2011 wedi llwyddo i godi cyfalaf sylweddol, a fu’n werth cyfanswm o £27.4m drwy 46 rownd ariannu wahanol.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Arloesi: “Mae hanes anhygoel Prifysgol Abertawe o greu cwmnïau deillio'n dystiolaeth o'n hysbryd entrepreneuraidd a'n hymrwymiad i sbarduno twf economaidd. Mae Abertawe wedi ymsefydlu'n gadarn ymysg sefydliadau academaidd gorau'r DU, gan gryfhau ei statws fel canolbwynt ar gyfer entrepreneuriaeth ac ymchwil arloesol. Yn ogystal â thanlinellu ymroddiad Abertawe i feithrin arloesedd, mae'r cyflawniad hwn yn dangos cyfraniad canolog y Brifysgol at lywio tirwedd economaidd Cymru.”

Rhannu'r stori