Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (yn y canol) gyda (o'r chwith i'r dde) yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a'r Athro Kam Tang, yr Athro Dan Eastwood a Dr Farooq Shah o FioHWB Cynhyrchion Naturiol y Brifysgol.

Ysgrifennydd Cymru David TC Davies (yn y canol) gyda (o'r chwith i'r dde) yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe a'r Athro Kam Tang, yr Athro Dan Eastwood a Dr Farooq Shah o FioHWB Cynhyrchion Naturiol y Brifysgol.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â digwyddiad arddangos sydd wedi tynnu sylw at ymchwil gan Brifysgolion Cymru, sy'n cael effaith mewn cymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. 

Dangosodd arddangoswyr gryfderau allweddol mewn meysydd fel lled-ddargludyddion, technoleg amaeth a Sero Net.

Daeth David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman i’r digwyddiad, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gyda’r nod o annog buddsoddiad parhaus mewn ymchwil yng Nghymru. 

Canolbwyntiodd y digwyddiad arbennig ar y neges bod prifysgolion Cymru yn cyflwyno ymchwil o'r radd flaenaf sy'n gwneud cyfraniadau hollbwysig i'r economi a chymdeithas.

Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad yn Lancaster House a oedd yn tynnu sylw at gryfder ac ehangder ymchwil prifysgolion Cymru, a gallu’r ymchwil i sicrhau manteision amlwg i gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd. 

Gyda phrosiectau’n amrywio o ddatgarboneiddio ac arloesi seiber i ganfod firysau a thechnoleg lled-ddargludyddion, dangosodd yr arddangosfa amrywiaeth y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a’r rôl hanfodol sydd ganddo i’w chwarae o ran gyrru economi’r DU yn ei blaen a darparu atebion i rai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas. 

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad mewn meysydd mor amrywiol â Thechnoleg Feddygol, Technoleg Amaeth a Sero Net ac mae ganddi glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd ymhlith y gorau yn y byd, sy’n sbarduno arloesed mewn technoleg a ddefnyddir ym mhob ffôn symudol bron ar y farchnad heddiw.   

Mae cydweithio hefyd yn un o gryfderau allweddol y sector yng Nghymru, gyda llawer o'r prosiectau yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ar draws nifer o brifysgolion yng Nghymru. 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025. Mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gael gafael ar ragor o gyllid ymchwil ar gyfer ymchwil, gydag ymdrech i gynyddu’r cyllid i ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.    

Roedd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru a’r Gweinidog Gwyddoniaeth, George Freeman ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 20 arddangosfa, gan gynnwys cipolwg ar dechnoleg delweddu digidol yn seiliedig ar olwg dynol ac arddangos sut gellir defnyddio pŵer niwclear yn y dyfodol.  

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:  

 "Roedd yn bleser gennyf groesawu prifysgolion Cymru i'r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r sector addysg uwch.  Roedd yn gyfle gwych i UKRI gael blas ar rywfaint o'r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru ar draws ein holl brifysgolion.   

  "Rwyf am i brifysgolion Cymru chwarae rhan hollbwysig wrth osod y DU ar flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, ac rwy'n gobeithio bod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw."    

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: 

"Rydyn ni’n croesawu'r cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ymchwil ac arloesi anhygoel sy’n digwydd mewn prifysgolion yng Nghymru.  

 "Pwrpas Rhwydwaith Arloesi Cymru yw cryfhau ymchwil ac arloesi yng Nghymru drwy hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol, felly roedd yn arbennig o gadarnhaol gweld cynifer o'r prosiectau a oedd yn cael eu harddangos yn dangos gwerth cydweithio ar draws prifysgolion Cymru.  

"Byddwn yn parhau i arddangos cryfderau ymchwil yng Nghymru ac rydyn ni’n croesawu rhagor o ymgysylltu â'r llywodraeth a rhanddeiliaid i barhau i gynyddu cyllid ymchwil ac arloesi ym mhrifysgolion Cymru.   

"Gyda sector ymchwil ac arloesi sy'n cael ei ariannu'n gynaliadwy, gallwn barhau i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol." 

Dywedodd y Fonesig Athro Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI:   

 "Mae yna gryfderau ymchwil ac arloesi nodedig ym mhrifysgolion Cymru, ac yn system ymchwil ac arloesi ehangach Cymru. Pan rwyf wedi ymweld â Chymru a chwrdd â rhanddeiliaid yng Nghymru, rwyf wedi siarad â llawer o bobl wych, gan gynnwys ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ar ddechrau eu gyrfa, technegwyr, y gymuned leol ac arweinwyr ymchwil byd-eang.  

  "Mae prifysgolion Cymru yn llwyddiannus iawn wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, gyda chyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yn gadarn sut mae prifysgolion Cymru yn datblygu ymchwil ar draws ystod eang o feysydd, ac yn sbarduno arloesedd a thwf economaidd, sydd o fudd i'r DU gyfan a thu hwnt."  

Rhannu'r stori