Grŵp o chwech o bobl yn sefyll y tu allan o flaen adeiladau a choed yn dal tystysgrif

Isobel McGlashon, Michelle Dene, Devyn Simeoni, Fiona Wheatley, Teifion Maddocks a Christine Winstone.

Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd a lleihau gwastraff wedi cael ei gydnabod gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

Mae newydd sicrhau ardystiad dim gwastraff i safleoedd tirlenwi. Hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn yr ardystiad uchel ei fri. 

Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn ymgynghori'n fyd-eang ar yr hinsawdd, gan gael ei hysgogi gan y genhadaeth i symud yn gyflymach tuag at ddyfodol digarbon. Mae ei hardystiad dim gwastraff i safleoedd tirlenwi'n cydnabod sefydliadau sy'n dangos arweinyddiaeth wrth reoli gwastraff. 

Roedd Abertawe wedi cyflawni safon yr Ymddiriedolaeth Garbon o'r blaen am leihau cyfanswm gwastraff o flwyddyn i flwyddyn. Daw'r llwyddiant newydd hwn ar ôl proses archwilio drylwyr dros chwe mis a dilysu annibynnol. 

Dywedodd Fiona Wheatley, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Prifysgol Abertawe, fod yr achrediad yn deillio o waith caled a chydweithredu. Meddai: “Mae gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon a Mitie, ein cyflenwr rheoli gwastraff, i sicrhau'r ardystiad hwn wedi bod yn ymarfer ardderchog wrth werthuso llwybr ein holl ffrydiau gwastraff. 

“Gallwn ni bellach ddatgan yn hyderus ein bod ni'n brifysgol nad yw'n anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi. Gan fod gennym fwy na 40 o ffrydiau gwastraff oherwydd ehangder ein hymchwil, mae'r achrediad hwn wedi bod yn fenter sylweddol, ac rydyn ni wrth ein boddau â’r canlyniad.” 

Mae'r Brifysgol yn sefydliad sy'n rhoi pwyslais mawr ar ymchwil, a chan fod ei ffrydiau gwastraff yn cynnwys deunydd peryglus, dyma gyflawniad sylweddol. Mae'r ardystiad yn dangos ymrwymiad y Brifysgol i wella arferion rheoli gwastraff a nodi ffyrdd newydd o ailgylchu gwastraff a pheidio ag anfon eitemau i safleoedd tirlenwi. 

Er mwyn cyflawni'r achrediad, mae wedi gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau nad yw unrhyw wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi, ynghyd â cheisio lleihau nifer yr eitemau untro drwy gaffael cynaliadwy, a chyflawni nodau ei Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd ar gyfer 2021-25. 

Yn ôl y ffigurau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22, nid aeth unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi a dargyfeiriodd y Brifysgol fwy na 63 y cant o'r holl wastraff i adfer ynni drwy ganolbwyntio ar ailddefnyddio ac ailgylchu, compostio ac anfon gwastraff bwyd i gael ei dreulio'n anaerobig, sy'n cynhyrchu bio-nwy a biowrteithiau. 

Nodau tîm cynaliadwyedd y Brifysgol yn y dyfodol yw:

  • Parhau i weithio i gael gwared ar bob eitem untro o fannau bwyd a diod;
  • Canolbwyntio ar leihau plastigion untro mewn labordai, a chael gwared ar y rhain;
  • Gosod mwy na 131 o fannau ail-lenwi dŵr ar y ddau gampws er mwyn lleihau gwastraff plastig;
  • Cyflwyno gostyngiad gwerth 25c i unrhyw un sy'n defnyddio cwpan coffi amldro.
  • Cyflwyno dewisiadau pren amgen y gellir eu compostio yn lle cytleri plastig untro; a
  • Chyflwyno dewisiadau amgen y gellir eu compostio yn lle gwellt diodydd plastig ar draws gwasanaethau arlwyo'r campysau ac Undeb y Myfyrwyr.

Dywedodd Pennaeth Cynaladwyedd Teifion Maddocks: “Mae sicrhau ardystiad dim gwastraff i safleoedd tirlenwi'r Ymddiriedolaeth Garbon wir yn dangos arweinyddiaeth a rheolaeth Prifysgol Abertawe wrth leihau'r gwastraff sy'n cael ei greu, gan ei atal rhag cael ei losgi a'i gludo i safleoedd tirlenwi.

"Mae'r achrediad yn pwysleisio ein hymdrechion ar y cyd i gynhyrchu cyn lleied o wastraff ag y bo modd, creu cymuned sy'n ailddefnyddio ac yn ailgylchu, hybu'r economi gylchol a lleihau allyriadau ar ein trywydd i sero net erbyn 2035.” 

Rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori