Mae traean o ddynion yn y DU yn barod i ystyried y syniad o gael mwy nag un wraig neu gariad tymor hir, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.

Ar y llaw arall, dim ond 11% o'r menywod a gafodd eu harolygu fyddai'n barod i ystyried y syniad o briodas amlbriod, pe bai'n gyfreithlon ac yn gydsyniol.

Gofynnodd ymchwilwyr i 393 o ddynion a menywod heterorywiol yn y DU sut roeddent yn teimlo am bartneriaeth ymrwymedig lle byddent yn rhannu eu partner â rhywun arall, neu lle byddent yn cael eu rhannu eu hunain.

Gofynnodd yr astudiaeth i gyfranogwyr am berthynas sy'n ymdebygu i amlwreiciaeth – lle mae dyn yn priodi mwy nag un fenyw – ac aml-wriaeth – lle mae menyw'n priodi mwy nag un dyn.

Yn gyntaf, gofynnwyd i ddynion a fyddent yn barod i gael eu rhannu â mwy nag un wraig ac yna gofynnwyd iddynt a fyddent yn barod i rannu partner â dyn arall.

Yn ôl yr astudiaeth, sydd wedi'i chyhoeddi yn Archives of Sexual Behavior, dywedodd naw y cant o ddynion y byddent yn rhannu partner. Fodd bynnag, dim ond pump y cant o fenywod oedd â diddordeb mewn trefniant o'r fath.

Meddai Dr Andrew Thomas, prif awdur yr astudiaeth: “Gan eu cymharu'n uniongyrchol, roedd dynion bum gwaith a hanner yn fwy tebygol o ystyried amlwreiciaeth nag aml-wriaeth, ac roedd menywod ddwywaith yn fwy tebygol o ystyried y syniad o gael mwy nag un partner, yn hytrach na rhannu eu partner â rhywun arall.”

Mae amlwreiciaeth ac aml-wriaeth yn fathau gwahanol o briodas sy'n ymwneud â sawl priod, ac maent yn cael eu derbyn i raddau amrywiol ar draws diwylliannau. Yn y Deyrnas Unedig, nid yw'r arferion hyn yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol nac yn cael eu croesawu'n eang yn y diwylliant prif ffrwd, gan fod y fframwaith cyfreithiol yn seiliedig ar fonogami. 

Ar y llaw arall, mae diwylliannau penodol ledled y byd wedi arfer amlwreigiaeth, lle gall dyn briodi sawl menyw, ac aml-wriaeth, lle gall menyw briodi sawl dyn, yn hanesyddol ac maent yn dal i wneud hynny. Yn aml, mae'r trefniadau hyn wedi'u gwreiddio mewn cyd-destunau diwylliannol, crefyddol neu hanesyddol. Er enghraifft, mae gan rai cymdeithasau yn Affrica a'r Dwyrain Canol draddodiadau hirsefydlog o amlwreigiaeth, ac mae cymunedau penodol yn Nhibet a Nepal wedi arfer aml-wriaeth.

Ychwanegodd Dr Thomas: “Mae perthnasoedd heblaw am fonogami wedi cael llawer o sylw'n ddiweddar. Mae'n bwnc llosg gan fod mwyfwy o barau'n siarad am agor eu perthnasoedd i gynnwys pobl eraill. Fodd bynnag, nid yw'r mathau hyn o berthnasoedd yn newydd o bell ffordd.

“Er bod y rhan fwyaf o bobl yn chwilio am berthnasoedd ag un partner, mae cyfran fach wedi meithrin partneriaethau amlbriod drwy gydol hanes y ddynolryw, yn enwedig priodasau amlwreiciol lle mae un gŵr yn cael ei rannu gan sawl gwraig.

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod lleiafrif sylweddol o bobl yn barod i ystyried perthnasoedd o'r fath, hyd yn oed yn y DU lle mae priodasau o'r fath wedi'u gwahardd. Yn ddiddorol, mae llawer mwy o ddynion yn barod i ystyried y syniad na menywod – er bod diddordeb o hyd ar y ddwy ochr.”

.

Rhannu'r stori