Gwirfoddolwr yn gweithio gyda grŵp o blant.

Mae Canolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe'n gwahodd gwirfoddolwyr o’r gorffennol a’r presennol i helpu i ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.

I nodi'r garreg filltir nodedig hon, rydym yn gofyn i wirfoddolwyr rannu eu straeon am eu hamser yn yr amgueddfa, a fydd yn cael eu rhannu yn ystod digwyddiad dathlu ddydd Sadwrn 7 Hydref.

Bydd y digwyddiad hybrid hwn sy'n rhad ac am ddim yn dathlu cyflawniadau'r Ganolfan Eifftaidd drwy gyflwyniadau a dadorchuddiadau unigryw, gan gynnwys agor casgliad cyntaf Harrogate o'r enw Bydded i'w Henwau Fyw.

Ers iddi agor ym mis Medi 1998, mae'r Ganolfan Eifftaidd wedi helpu miloedd o bobl i gwrdd â ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, dechrau llwybr gyrfa a helpu i gynnal unig amgueddfa Eifftaidd Cymru.

Mae Rheolwr yr Amgueddfa, Wendy Goodridge, yn falch mai hi oedd y gwirfoddolwr cyntaf erioed.

Meddai Wendy, "Gan fy mod i wedi bod yn yr amgueddfa ers 1997, cyn i'r drysau agor yn swyddogol, rwyf wedi cael y fraint o weld dau ddegawd a hanner o ymroddiad, darganfyddiad a chymuned ac mae hyn i gyd wedi helpu i wneud y Ganolfan Eifftaidd y sefydliad nodedig a geir heddiw.

"Mae ymroddiad diwyro ein gwirfoddolwyr gwerthfawr wedi bod yn hanfodol i'w llwyddiant ac yn awr, wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydym yn gyffrous i anrhydeddu'r dreftadaeth maent wedi helpu i'w chreu."

Dechreuodd Dr Ken Griffin ei amser yn yr amgueddfa fel gwirfoddolwr hefyd yn 2000 fel myfyriwr Eifftoleg yn ei flwyddyn gyntaf. Nawr, 23 mlynedd yn ddiweddarach, ef yw'r curadur.

Meddai Dr Griffin, "Mae gwirfoddolwyr wir wrth wraidd ein gweithgarwch; heb eu hymrwymiad a'u hangerdd, fyddwn ni ddim yn gallu cynnig cyfle i'r cyhoedd ddysgu am ddiwylliant a phobl yr Hen Aifft."

Dros y blynyddoedd, mae'r Ganolfan Eifftaidd wedi cael ei chydnabod yn gyson am ei heffaith, ac mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Amgueddfa Cyfeillgar i'r Teulu Kids in Museums a chategori Menter y Flwyddyn ar gyfer Ehangu Cyfranogiad neu Allgymorth yng Ngwobrau Times Higher Education.

Yn ddiweddar, derbyniodd y gwirfoddolwr Sam Powell Wobr Rhanbarth Cymru ar gyfer Dysgu mewn Amgueddfeydd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh.

O ran effaith y Ganolfan Eifftaidd, meddai Sam, "Mae'r amgueddfa wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol fy ngradd israddedig a'm gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe ac mae gwirfoddoli wedi bod yn gyfle anhygoel."

Gall unigolion rannu eu straeon am sut mae'r Ganolfan Eifftaidd wedi effeithio'n gadarnhaol ar eu bywydau drwy anfon fideo  tua 30 eiliad at Dr Griffin drwy e-bostio k.griffin@abertawe.ac.uk.

Cofrestrwch am eich lle yn nigwyddiad dathlu Pen-blwydd y Ganolfan Eifftaidd yn 25 oed.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd.

Rhannu'r stori