Dr David Lee (canol): Cynhaliodd y tîm weithdy mewn efelychu clinigol i 26 o nyrsys, meddygon a bydwragedd o bob un o daleithiau Zambia

Dr David Lee (canol): cynhaliodd y tîm Abertawe weithdy mewn efelychu clinigol i 26 o nyrsys, meddygon a bydwragedd o bob un o daleithiau Zambia

Mae tîm o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ymweld â Zambia er mwyn hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd sy'n addysgu yn y wlad honno i ddefnyddio efelychu clinigol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd heb roi cleifion mewn perygl. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i'r tîm ddysgu gan eu cydweithwyr yn Zambia a thrafod partneriaethau ymchwil a chyfleoedd i fyfyrwyr yn y dyfodol.

Cynhaliwyd yr ymweliad gan yr elusen o Swistir, SolidarMed, sy'n gweithio yn Affrica ac yn India i wella gofal iechyd drwy gryfhau cyfleusterau meddygol a hyfforddi gweithwyr iechyd lleol.  Fe'i hariannwyd gan un o grantiau cynllun Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Mae efelychu clinigol yn offeryn hynod werthfawr ar gyfer addysgu myfyrwyr oherwydd ei fod yn rhoi profiad iddynt o ymarfer triniaethau hanfodol heb roi cleifion mewn perygl.  Mae gan Brifysgol Abertawe arbenigedd sylweddol yn y maes drwy ei chanolfan SUSIM (Efelychu Prifysgol Abertawe) ac wrth ddatblygu sefyllfaoedd efelychu clinigol hynod realistig i hyfforddi myfyrwyr.

Roedd y tîm o Brifysgol Abertawe'n cynnwys yr arbenigwyr efelychu clinigol Jo Davies a Dr David Lee, ynghyd â'r Athro Lisa Wallace, y Deon Cysylltiol Rhyngwladol, Dr Ana Da Silva, Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer Addysg Feddygol a Dr Caroline Coleman-Davies, Dirprwy Bennaeth Partneriaethau Academaidd.

Cynhaliodd y tîm weithdy mewn efelychu clinigol i 26 o nyrsys, meddygon a bydwragedd o bob un o daleithiau Zambia, sy'n wlad enfawr, deirgwaith maint y DU.  Roedd rhai ohonynt wedi teithio am ddeuddydd i fod yn y gweithdy.  Mae pob un ohonynt yn cyfrannu at addysgu myfyrwyr. 

Roedd y gweithdy yn Kafue, sy'n un awr i ffwrdd o'r brifddinas, Lusaka, mewn canolfan newydd ar gyfer addysgu sgiliau clinigol sy'n un o gyfres o ganolfannau sy'n cael eu hadeiladu mewn ysbytai yn Zambia gan SolidarMed.  Bydd y cyfleusterau dysgu ac addysgu newydd hyn yn gwella'r hyfforddiant y gellir ei gynnig i staff iechyd ac yn rhoi profiad cynnar i fyfyrwyr o realiti rhoi gofal iechyd mewn ysbytai.

Bydd yr hyfforddiant efelychu clinigol a ddarparwyd gan y tîm o Brifysgol Abertawe'n helpu'r cyfranogwyr i ddylunio hyfforddiant efelychu clinigol a'i roi ar waith i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleusterau newydd hyn sydd bellach ar gael iddynt.

Adborth gan gyfranogwyr yn y gweithdy efelychu clinigol:

Priscilla Mutetwa Banda, Hyfforddwr Clinigol, Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth Nchanga, Chingloa, Talaith Copperbelt:

"Roeddwn i wrth fy modd yn ymuno yn y gweithdy ac mae wedi bod yn brofiad hyfryd i mi a fydd yn fy helpu i wella fy addysgu. Rwyf wedi dysgu pwysigrwydd bod yn hwyluswr i fy myfyrwyr a rhoi lle iddynt ddod o hyd i'w hatebion eu hunain a fydd yn eu galluogi i ddysgu'n well."

Dr Clive Kayumba, Uwch-swyddog Preswyl, Ysbyty Cyffredinol Kafue,

"Rwyf wir wedi mwynhau'r gweithdy ac i mi, mae wedi amlygu pa mor bwysig yw addysgu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr a rhoi adborth anfeirniadol i helpu myfyrwyr i gyflawni eu potensial."

Pauline Chuunga, Uwch-ddarlithydd, Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth Kafue,

"Mae'r gweithdy wedi agor fy meddwl i bwysigrwydd gweithio mewn tîm a chyfathrebu â myfyrwyr a pha mor bwysig yw deall yr hyn sy'n mynd ymlaen ym meddwl ein dysgwyr."

Meddai Dr Petros Andreadis o SolidarMed:

"Roedd y gweithdy'n llwyddiant ysgubol a gweithiodd ein hyfforddwyr clinigol Zambiaidd yn frwdfrydig iawn gyda’r tîm o Brifysgol Abertawe. Gyda chymorth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae SolidarMed yn awyddus i weld Zambia'n arwain hyfforddiant efelychu clinigol yn y rhanbarth ac rydyn ni, a'n partneriaid yn Zambia, yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Abertawe yn y dyfodol."

Hefyd, ymwelodd y tîm o Brifysgol Abertawe ag ysbytai, colegau hyfforddiant a chyrff anllywodraethol, gan gynnwys Menter Mynediad Iechyd Clinton, i ddysgu rhagor am hyfforddiant clinigol yn Zambia a'r heriau gofal iechyd y mae'r wlad yn eu hwynebu.  Gwnaeth y tîm hefyd drafod cydweithrediadau posib yn y dyfodol â'r cydweithwyr yn Zambia, megis darlithoedd gwadd, ymchwil ar y cyd, lleoliadau gwaith myfyrwyr a chofrestru myfyrwyr ar raglenni gradd Abertawe.

Meddai Jo Davies, Pennaeth Efelychu Prifysgol Abertawe:

“Roedd hi'n bleser gweithio gyda thîm o glinigwyr ac addysgwyr sydd mor ymroddedig. Gwnaethon nhw ein helpu ni i ddeall y cyd-destun lleol fel ein bod ni'n gallu addasu ein hyfforddiant at eu hanghenion nhw, a thrwy eu cyfranogiad a'u brwdfrydedd, roedd y gweithdy'n hynod lwyddiannus.”

Meddai'r Athro Lisa Wallace, Deon Cysylltiol Rhyngwladol y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd:

"Roedden ni'n hynod falch pan ofynnodd SolidarMed i ni eu cefnogi nhw i wella hyfforddiant clinigol yn Zambia ac i rannu ein harbenigedd â meddygon, nyrsys a bydwragedd ledled y wlad. Gwnaeth yr ymweliad hwn nodi dechrau cydweithrediad cyffrous a fydd o gymorth mawr i fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Zambia ac yn Abertawe.”

 

Rhannu'r stori