Ffotograff grŵp o’r myfyrwyr talentog a gymerodd ran yng nghystadleuaeth ddiweddaraf The Big Pitch.

Cyflwynodd grŵp talentog arall eu busnesau i'r beirniaid, a gadawodd pawb gyda chyfle i ddatblygu ei syniadau.

Dychwelodd cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe'n ddiweddar am yr eildro eleni, gan gynnig cyfle i fwy byth o fyfyrwyr entrepreneuraidd addawol ddatblygu eu syniadau busnes i lefelau newydd.

Mae'r gystadleuaeth, a gynhaliwyd gan Dîm Mentergarwch y Brifysgol yng Ngwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) Abertawe, yn cefnogi busnesau newydd myfyrwyr ac yn arddangos rhai o'r meddylwyr disgleiriaf a mwyaf arloesol.

Ariennir y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Mercher 29 Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, drwy bartneriaeth y Brifysgol â Phrifysgolion Santander y DU.

Gan ganolbwyntio ar rymuso myfyrwyr a graddedigion drwy gynnig y cyfle i lansio a datblygu eu busnesau, gall myfyrwyr ddefnyddio'r tair munud sydd ar gael i geisio ennill cyllid gwerth hyd at £3,000, gwasanaeth mentora a chryn gymorth entrepreneuraidd arall.

Derbyniodd y Tîm Mentergarwch Myfyrwyr 45 o geisiadau gan fyfyrwyr a graddedigion a oedd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth flaenllaw.

O'r rhain, dewiswyd 25 i gyflwyno eu syniadau, gan amrywio o dywelion microffeibr, therapi meinweoedd meddal, pecynnau mecatroneg, hyfforddiant realiti rhithwir, ap cadw cyfrifon, gweithgynhyrchu ychwanegion a hyfforddiant seiberddiogelwch.

Meddai Emma Dunbar, Pennaeth Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth: “Eleni, unwaith eto, rydyn ni wedi cael nifer uchel o geisiadau o safon uchel a chynigion llawn ysbrydoliaeth a mentergarwch gan fyfyrwyr, gan gynyddu ein cymuned entrepreneuraidd.

“Mae mentergarwch wrth wraidd Prifysgol Abertawe. Mae ein sefydliad yn rhoi pwyslais ar ymchwil, a'n gweledigaeth yw bod yn brifysgol fyd-eang flaenllaw sy'n adnabyddus am rymuso unigolion i greu newid cadarnhaol yn y byd drwy fentergarwch, arloesi, partneriaethau, cyfnewid gwybodaeth, a thrawsnewid y gymuned drwy ymgysylltu â hi. Rydyn ni'n ceisio datgloi doniau mewn modd sy’n bosib ac yn hygyrch i bawb, gan greu amgylchedd galluogi sy'n cael effaith a gwerth ychwanegol parhaus. Rydyn ni'n falch nad yw'r ymgeiswyr eleni'n eithriad.”

Ymunodd panel trawiadol o feirniaid allanol â'r tîm, gan gynnwys:

Meddai Kim: “Roedd dychwelyd i Brifysgol Abertawe ar gyfer The Big Pitch yn brofiad hynod fuddiol i mi – gan gysylltu fy ngorffennol fel cyn-fyfyriwr â'm cenhadaeth bresennol drwy ein gwaith yn The CAE.

“Yn ogystal â bod yn destun ysbrydoliaeth, drwy fod yn dyst i ysbryd arloesol y genhedlaeth nesaf, yn enwedig y pwyslais ar gynaliadwyedd, ces i fy atgoffa o'n cyfrifoldeb parhaus i feithrin potensial pobl. Eu creadigrwydd a'u penderfyniad yw'r sylfeini ar gyfer economi leol ffyniannus yng Nghymru.

“Rwy'n falch o fod yn rhan o'r daith hon wrth feithrin ecosystem entrepreneuriaeth gefnogol yn y rhanbarth.”

Dyrannodd y panel gyfanswm gwerth £8,500 drwy gronfa wobrwyo Prifysgolion Santander y DU i bum busnes neilltuol.

Yn ogystal, dyfarnwyd £10,000 arall i saith busnes drwy raglen Hwb Gyrfaoedd, prosiect a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n cynnig cymorth penodol i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gadawodd pob myfyriwr a gyflwynodd gynnig hefyd gyda chyfle i ddatblygu ei syniadau, boed hynny drwy gymorth busnes wedi'i deilwra, mentor o'r diwydiant o'i ddewis, neu le ar raglen garlam.

Meddai Jean-Louis Button, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn sy’n astudio BSc Gwyddor yr Amgylchedd a'r Argyfwng Hinsawdd: “Roedd cymryd rhan yn The Big Pitch hyd yn oed yn fwy gwerthfawr na'r disgwyl. Roedd hi'n gyffrous mireinio'r sgiliau i lunio cynnig, ei ymarfer droeon ac yna ei gyflwyno gerbron torf uchel ei bri o entrepreneuriaid ac unigolion o'r un meddylfryd!

“Diolch i'r Tîm Mentergarwch Myfyrwyr, mae'r cymorth busnes hollbwysig a'r cyllid angenrheidiol ar gael i ni ddatblygu ein cysyniad i'r lefel nesaf.”

Rhagor o wybodaeth am fentergarwch myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori