Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Mae'r prosiectau'n cynnwys gwerthuso ap ffôn clyfar ar gyfer cyn-filwyr ag anhwylderau gamblo a PTSD, sy'n ceisio lleihau symptomau.  

Mae'r tri phrosiect yn cynnwys Rhwydwaith Ymchwil, Addysg a Thriniaeth Gamblo (GREAT) Prifysgol Abertawe.  Mae Rhwydwaith GREAT yn ymdrechu i fod yn ganolfan rhagoriaeth sy'n flaenllaw yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil drosi, gwerthuso a thriniaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Y tri phrosiect gyda chyllid newydd yw: 

Yr Astudiaeth ACTIVATE , sy'n gwerthuso ap ffôn clyfar i leihau gamblo niweidiol a symptomau PTSD cyn-filwyr gyda diagnosis o PTSD ac anhwylderau gamblo. Mae'r ap yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymiad a bydd y tîm yn archwilio ei effeithiolrwydd a'i gost-effeithiolrwydd.

Mae'r astudiaeth, sy'n werth £300,000, wedi'i hariannu gan Gronfa Arloesi Iechyd y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (Swyddfa'r Cabinet) ac roedd hi'n un o'r 22 o ddyfarniadau llwyddiannus, gwerth cyfanswm o £5m, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gwir Anrhydeddus Jonny Mercer AS, Gweinidog dros Faterion Cyn-filwyr. Mae ACTIVATE yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Combat Stress, a Chanolfan y Brenin dros Ymchwil Iechyd Milwrol, Coleg y Brenin Llundain.

Mae’r prosiect Veterans’ Pathways, yn astudiaeth gynhwysfawr dros ddwy flynedd i ddeall yn well arferion gamblo yng nghymuned y cyn-filwyr.

Mae hwn yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ynghyd o ran ymchwil i gamblo a chyn-filwyr (Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Anglia Ruskin), gwasanaethau triniaeth a chymorth y GIG i gyn-filwyr (Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG yn Norfolk a Suffolk), a phrif blatfform ar-lein y DU sy'n helpu'r rhai hynny sy'n wynebu niwed oherwydd gamblo (Anonymind) Ariennir y prosiect gan ddyfarniad gwerth £1m gan Gronfeydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol y Comisiwn Gamblo (drwy Setliadau Rheoleiddiol), gyda £300,000 yn dod i Brifysgol Abertawe.

Mae'r prosiect Look Back to Move Forward, a fydd yn datblygu asesiad llinell amser newydd ar gyfer asesu gamblo, defnyddio alcohol ac iechyd meddwl gyda chyn-filwyr sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn ddiweddar. Bydd yn arwain at newidiadau mawr i systemau'r gwasanaethau cymorth a chefnogaeth i gyn-filwyr ag anghenion caethiwed cymhleth.

Mae'n gydweithrediad â Phrifysgol Anglia Ruskin ac Adferiad Recovery, darparwr triniaeth arbenigol dadwenwyno cleifion mewnol mwyaf y DU a phartner cyflawni allweddol ar gyfer y Gwasanaeth Triniaeth Gamblo Cenedlaethol.  Caiff ei ariannu drwy ddyfarniad Grant Trawsnewid gwerth £300,000 gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Meddai'r Athro Simon Dymond, Cyfarwyddwr Rhwydwaith GREAT Prifysgol Abertawe:

"Rydym wrth ein boddau'n derbyn y dyfarniadau pwysig hyn ac i fod yn rhan o gydweithrediadau mor gynhyrchiol gyda'n rhanddeiliaid academaidd a thrydydd sector.

Mae dealltwriaeth well o niwed gamblo ymysg cyn-filwyr a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at gymorth a chefnogaeth unigol yn hanfodol i oresgyn canlyniadau trychinebus gamblo niweidiol ar gyn-filwyr y lluoedd arfog, eu teuluoedd a'u cymunedau".

Mae dyfarnu'r cronfeydd cystadleuol hyn yn dilyn cyflwyno ceisiadau llwyddiannus eraill am gronfeydd cyllid ar gyfer tîm Rhwydwaith GREAT gan Greo, y Fforwm Academaidd ar gyfer Astudio Gamblo a'r Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme am eu gwaith ar ddeall a lleihau niwed oherwydd gamblo.

Wedi'i ariannu'n wreiddiol drwy grant isadeiledd tair blynedd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Rhwydwaith GREAT hefyd wedi derbyn estyniad i'w gyllid presennol am ddwy flynedd arall.

Rhannu'r stori