Yr Athro Tom Crick

Bydd yr Athro Tom Crick MBE, arbenigwr adnabyddus ym maes polisi digidol o Brifysgol Abertawe, yn derbyn Medal Lovelace gan BCS yn nes ymlaen eleni, gan gydnabod ei gyfraniad sylweddol at addysg cyfrifiadureg.

Cyflwynir Medal Lovelace bob blwyddyn gan BCS, sef y Sefydliad TG Siartredig, am gyfraniadau rhagorol at hyrwyddo cyfrifiadura.

Sefydlwyd Medal Lovelace gan BCS ym 1998 i anrhydeddu Ada Lovelace, mathemategydd o Loegr a oedd yn adnabyddus am ei chyfraniadau at beiriant dadansoddol Charles Babbage. Mae'r wobr yn cydnabod unigolion ym meysydd ymchwil ac addysg sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at gyfrifiadura.

Mae panel blynyddol a benodir gan Fwrdd Cyfrifiadura BCS yn dewis yr enillwyr, a gaiff eu gwerthuso ar sail gwreiddioldeb, effaith a goblygiadau moesegol eu gwaith, gan roi pwyslais ar hyrwyddo maes cyfrifiadura.

Eleni, mae Medal Lovelace am Addysg wedi'i dyfarnu i Tom Crick, Athro Addysg a Pholisi Digidol a Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae Demis Hassabis a'r Athro Hillston wedi ennill Medal Lovelace am Ymchwil. Bydd y tri ohonynt yn derbyn eu medalau ym mis Rhagfyr.

Bydd yr Athro Crick, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32m Prifysgol Abertawe, yn derbyn Medal Lovelace am Addysg o ganlyniad i'w gyfraniadau at addysg cyfrifiadureg ar draws ymchwil, polisi ac ymarfer. Fe'i cydnabyddir yn rhyngwladol am arwain y diwygiadau addysg a sgiliau STEM o bwys yng Nghymru dros gyfnod estynedig, ochr yn ochr â'i arweinyddiaeth ehangach ym maes polisi digidol, peirianneg a thechnoleg yn y DU i gefnogi economi ffyniannus, ddigidol sy'n seiliedig ar ddata.

Mae'r Athro Crick hefyd yn meddu ar brofiad cynghorol, anweithredol o lywodraethu a sicrwydd, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys rolau yn llywodraethau Cymru a'r DU.

Meddai'r Athro Crick: “Mae'n bwysicach nag erioed asesu'n feirniadol effaith technolegau digidol a chyfrifiadura ar bob maes polisi, o'r isadeiledd cenedlaethol a'r economi, iechyd a lles, i dreftadaeth a diwylliant – ac addysg a sgiliau yw'r sylfaen. Dyna pam mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi dderbyn Medal Lovelace am Addysg gan BCS. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni feddwl am ystyr bod yn ddinesydd mewn byd digidol, cyfrifiadol sy'n seiliedig ar ddata ac sy'n galluogi deallusrwydd artiffisial. Rwy'n hynod ddiolchgar i gasgliad amrywiol o gydweithwyr, cydweithredwyr a mentoriaid am helpu i wneud y gwaith ehangach hwn yn bosib.”

Meddai Rashik Parmar MBE, Prif Weithredwr Grŵp BCS, y Sefydliad TG Siartredig: “Mae'r tri ohonyn nhw wedi hyrwyddo enw da cyfrifiadura'n fyd-eang fel rhywbeth cadarnhaol, gan weithio ar draws meysydd fel deallusrwydd artiffisial, modelu mathemategol y mae modd ei ddefnyddio mewn gwyddoniaeth, ac wrth addysgu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes cyfrifiadura. Maen nhw i gyd yn arloeswyr sydd wedi newid cymdeithas er gwell ac sydd wedi helpu i gynyddu ein dealltwriaeth o sut mae'r byd yn gweithio drwy dechnoleg gwybodaeth. Rydyn ni'n hynod falch o allu eu hanrhydeddu nhw ar adeg pan gaiff cyfrifiadura ei wreiddio ym mhob agwedd ar ymchwil wyddonol, byd diwydiant, ac addysgu.”

Rhannu'r stori