Graffeg Eisteddfod

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rhwng 5-12 Awst 2023.

Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan y Brifysgol eleni, mae:

Alan Llwyd - Prifardd y Prifeirdd | Twm Morys yn cyflwyno gwerthfawrogiad o gyfraniad eithriadol yr Athro Alan Llwyd, sy’n Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, i lenyddiaeth Gymraeg. Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau o’i waith| Dydd Llun, 7 Awst am 11am 

Merched yn gwneud radio: peri tarfiad ar y tonfeddi Cymraeg | Dr Non Vaughan Williams yn archwilio cyfraniad Marion Griffith Williams a Teleri Bevan i'r arlwy radio | Dydd Mawrth, 8 Awst am 4.30pm

Darlith Goffa Hywel Teifi - Cynnau 'Cannwyll y Byd'?: Lewis Morris a Datblygiad Diwylliant Print yng Nghymru. | Dr Eryn White yn traddodi ar wasg argraffedig Cymru'r 18fed ganrif | Dydd lau, 10 Awst am 11am

Eisteddfod y Beirdd: Caerwys 1523 | Cyflwyniad gan Gruffudd Antur a Peredur Lynch i nodi 500 mlwyddiant Eisteddfod Caerwys 1523 - yr eisteddfod hanesyddol honno lle cadarnhawyd rheolau'r gynghanedd | Dydd lau, 10 Awst am 4.30pm

Saunders Lewis, Cymru ac Ewrop | Dafydd Wigley yn trafod gweledigaeth Saunders ar gyfer gwir le Cymru yn Ewrop | Dydd Gwener, 11 Awst am 11am

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe: "Mae’n dda cael rhannu rhaglen Prifysgol Abertawe o ddarlithoedd a chyflwyniadau difyr sy’n ffrwyth cydweithio buddiol â nifer o sefydliadau a chyfeillion ar draws Cymru. Bydd rhywbeth yn eu plith at ddant cynulleidfa hen a newydd y Babell Lên, rwy’n siwr, ac edrychwn ymlaen yn fawr at estyn croeso cynnes i bawb."

Bydd cyfle hefyd i weld staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn serennu mewn sesiynau eraill ar hyd y Maes drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg yn trafod ‘Ffoaduriaid ac Addysg Gymraeg: Llwybrau at yr iaith i deuluoedd’ ym mhabell Cymdeithasau 2 am  3.30pm ar ddydd Mawrth 8 Awst. Bydd y sesiwn yn archwilio beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd a beth arall sydd angen ei wneud i gefnogi teuluoedd ffoaduriaid i gael mynediad i addysg Gymraeg i’w plant a chefnogaeth iddynt ffynnu gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd ychwanegol iddynt.

Am y tro cyntaf eleni, Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe fydd yn noddi’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Cyflwynir y Fedal i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyluniwyd y fedal gan Delyth Williams, Darlithydd Dylunio Graffeg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe’i crëwyd gan dîm yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe. Cyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni arbennig yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg am 2pm ddydd Gwener 11 Awst.

Meddai’r Athro David Smith, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: "Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â'r Eisteddfod i noddi a chynhyrchu'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg. Mae sawl tîm medrus iawn wedi dod ynghyd i gynhyrchu'r fedal unigryw gan ddefnyddio metel printiedig 3D yn y Ganolfan Nodweddu Deunyddiau Uwch (MACH1). Mae wedi bod yn fenter newydd gyffrous ac rydym yn falch o fod yn rhan o ddathlu gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg."  

Porwch amserlenni’r Eisteddfod

Rhannu'r stori