Llun pen ac ysgwydd o ddyn barfog o flaen cwpwrdd llyfrau.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad hirsefydlog at y gwyddorau cymdeithasol.

Mae David Bewley-Taylor, Athro Cysylltiadau Rhyngwladol a Pholisi Cyhoeddus yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi cael ei ethol i Gymrodoriaeth Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol. 

Ac yntau'n Gyfarwyddwr Sefydlol yr Arsyllfa Polisi Cyffuriau Byd-eang, ers iddo gael ei benodi yn Abertawe mae wedi bod yn athro gwadd mewn prifysgolion yn UDA, Awstralia, Hwngari, India, Hong Kong a Tsieina. Ar hyn o bryd mae David yn Athro Er Anrhydedd yn yr Adran Droseddeg ym Mhrifysgol Manceinion ac yn Gymrawd o’r Ganolfan Droseddeg ym Mhrifysgol Hong Kong. 

Wrth ymdrin ag ystod eang o faterion polisi cyffuriau, mae ei ymchwil ryngddisgyblaethol yn canolbwyntio'n bennaf ar lywodraethu byd-eang, y Cenhedloedd Unedig a pholisi rheoli cyffuriau rhyngwladol. 

Meddai’r Athro Bewley-Taylor, "Mae'n anrhydedd i mi fod yn Gymrawd o’r Academi ac ymuno â grŵp o ysgolheigion, llunwyr polisi ac ymarferwyr o fri, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio yng nghymuned ffyniannus y Gwyddorau Cymdeithasol yma yn Abertawe." 

Mae ef ymhlith 47 o academyddion wedi'u penodi gan yr Academi y mae eu gwaith yn rhychwantu amrywiaeth o feysydd ymchwil. 

Dywedodd Will Hutton, Llywydd yr Academi: "Drwy gydol eu gyrfaoedd hyd yn hyn, maen nhw wedi ehangu ein dealltwriaeth ac wedi gwneud cyfraniadau ymarferol mewn ystod o feysydd gan gynnwys gwella bywydau plant a phobl ifanc yn Affrica Is-Sahara, diwygiadau addysgol ar ôl gwrthdaro a rôl addysg mewn meithrin heddwch, a gweithio gydag awdurdodau cynllunio i werthfawrogi gwasanaethau ecosystem." 

Mae Cymrodoriaethau'r Academi yn cynnwys mwy na 1,500 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o'r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Dewisir pob Cymrawd drwy adolygiad annibynnol gan gymheiriaid sy'n cydnabod ei ragoriaeth a'i effaith, gan gynnwys ei gyfraniadau ehangach at y gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd. 

 

Rhannu'r stori