Montage o luniau yn dangos grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i adeilad o flaen dodrefn amrywiol

Bu Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn gartref i filoedd o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am fwy na hanner canrif cyn i'r safle gau am y tro olaf yn gynharach eleni.

Am flynyddoedd maith bu'r pentref yn boblogaidd gyda myfyrwyr a oedd am fyw oddi ar y campws am gost isel gydag awyrgylch cymdeithasol. Mae'r pentref mewn ardal o goetir rhwng Sgeti a Chilâ, a bu gynt yn gartref i fwy na 1,600 o fyfyrwyr.

Fe'i hadeiladwyd fesul cam rhwng 1971 a 1993 er mwyn darparu llety i niferoedd cynyddol y myfyrwyr yn y Brifysgol cyn cael ei werthu i'r datblygwr llety St Modwen yn 2013.

Ond er bod pentref y myfyrwyr wedi cyrraedd diwedd ei oes, mae cynnwys y 228 o fflatiau a thai yno bellach yn dechrau ar bennod newydd, diolch i fenter werdd gan y Brifysgol.

Fel rhan o brosiect Decant, mae staff wedi gweithio gyda David Phillips Furniture Ltd i gefnogi elusennau lleol a'r gymuned drwy sicrhau bod cymaint o'r dodrefn â phosibl yn cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu.

Cwblhawyd y broses drosglwyddo ym mis Mehefin pan adawodd  preswylwyr olaf  ardal Woodside y pentref ac roedd modd dechrau'r gwaith o glirio dodrefn a oedd ar ôl yn yr adeiladau, gan gynnwys cypyrddau dillad, desgiau ac offer cegin.

Mewn 13 diwrnod yn unig, gwnaeth y prosiect:

  • Gasglu mwy na 6,000 o eitemau o bentref y myfyrwyr. O'r rhain, cafodd 40 y cant - 2,400 o eitemau - eu rhoi i elusennau, ac felly mae tua 1,270 o aelwydydd incwm isel wedi manteisio ar y rheini.
  • Arbed 142 tunnell o garbon drwy arallgyfeirio'r dodrefn o safleoedd tirlenwi neu adfer ynni; ac,
  • Ailgylchu 34 tunnell o wastraff pren i fod yn MDF, ailgylchu 500 matres a 29 tunnell o fetel.

Y pum elusen Gymreig sydd wedi elwa o'r prosiect yw Boomerang, Wastesavers, Pembrokeshire FrameGroundwork a Toogoodtowaste.

Dywedodd Fiona Wheatley, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Prifysgol Abertawe ac Arweinydd y Prosiect Decant: "Allen ni ddim bod yn fwy bodlon ar ganlyniad y prosiect. Roedden ni'n awyddus i sicrhau bod cynifer o bethau â phosibl o'n hadeiladau’n  cael eu rhoi i elusennau neu'n cael eu hailgylchu.

"Drwy weithio gyda David Phillips Furniture, rydyn ni wedi arbed 142 tunnell o garbon ar y cyfan ac ailgylchu cyfanswm o 73 tunnell o wastraff, sy'n anhygoel.

"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych o fanteision cydweithio - nid yn unig drwy adrannau gwahanol y Brifysgol ond hefyd drwy weithio gyda phartneriaid allanol.

"Er mwyn clirio'r dodrefn o'r llety, roedd angen ymdrech enfawr gan bawb a oedd yn cymryd rhan, ond mae'n wych gweld cymunedau lleol yn elwa o eitemau roedd modd i ni eu hailddefnyddio, a hefyd roedd modd i ni leihau'n sylweddol faint o wastraff a oedd yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi."

Eleni, er mwyn ychwanegu at y llety sydd ar gael ar Gampws Parc Singleton, Campws y Bae a Neuadd Beck, mae'r Brifysgol wedi llofnodi cytundeb gyda 2 ddarparwr llety myfyrwyr yng nghanol dinas Abertawe.

Rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori