Maisie Edwards

Maisie Edwards o Gasnewydd sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023, ac mi fydd hi’n defnyddio’r Ysgoloriaeth i ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau iechyd a gofal.

Wrth gynnal ei gwaith ymchwil, bydd Maisie, sy’n 22 oed, yn adeiladu ar ei gradd dosbarth cyntaf mewn BSc Iechyd Poblogaethau a’i chwrs meistr trwy ymchwil mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd o Brifysgol Abertawe.

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi yn 2021 gyda chymorth cyfraniad ariannol gan gwmni cyfryngau Tinopolis Cymru ynghyd â chefnogwyr a chyfeillion Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Ei nod yw cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes sy’n ymwneud â chyfraniad Hywel Teifi at ddysg a diwylliant Cymru.

Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth eleni gan Gyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis a’r cyflwynydd Angharad Mair, Syr Roderick Evans, Cadeirydd Academi Hywel Teifi, a’r Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon: “Mae Academi Hywel Teifi yn falch tu hwnt o ddyfarnu’r Ysgoloriaeth i Maisie sydd am gyflawni ymchwil all gael dylanwad pellgyrhaeddol ar ein defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau iechyd a gofal.

“Bydd ei hymchwil yn ceisio amlygu effaith gadarnhaol defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gofal, a hynny yng nghyd-destun gofal iechyd sylfaenol, sef trwy wasanaethau meddygon teulu – prif gyswllt y boblogaeth â gwasanaethau gofal iechyd mewn gwirionedd. Bydd hefyd yn asesu a yw defnydd, neu ddiffyg defnydd, o’r Gymraeg yn cael effaith ar iechyd corfforol, meddyliol a’r gallu i gofio gwybodaeth preswylwyr mewn cartrefi gofal a chleifion sydd â chyflyrau cronig. Dymunwn yn dda iddi ac rwy’n siŵr y cawn astudiaeth werthfawr ganddi ymhen tair blynedd.” 

Ar dderbyn yr Ysgoloriaeth, meddai Maisie: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd aruthrol i dderbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi a ‘dwi’n hynod o ddiolchgar. Mae fy ymchwil yn archwilio pwysigrwydd y Gymraeg wrth feithrin cyfathrebu effeithiol rhwng y darparwr gofal a’r claf er mwyn sicrhau canlyniadau iechyd gwell o fewn darpariaeth gofal iechyd sylfaenol.

“Rwyf wedi fy ysbrydoli gan gyfraniad ac ymrwymiad di-baid yr Athro Hywel Teifi Edwards at iaith, dysg a diwylliant Cymru a theimlaf yn angerddol i barhau i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn fy maes ymchwil. Mae Prifysgol Abertawe a’r gymuned Gymraeg wedi chwarae rôl fawr yn fy mywyd academaidd ac edrychaf ymlaen at eu cynrychioli gyda chefnogaeth a chymorth yr Ysgoloriaeth.” 

Meddai Angharad Mair: “Mae’n fraint i ni fel cwmni i fod yn gysylltiedig â gwobrwyo Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi. Roedd yr Athro Hywel Teifi yn ffrind mawr i’n rhaglenni dyddiol ni i S4C, Heno a Prynhawn Da, ac yn gyfrannydd cyson a chefnogwr brwd. Mae’n wych gweld bod y wobr eleni yn cael ei chyflwyno am waith ymchwil sydd mor bwysig i gynifer o bobl yng Nghymru wrth edrych ar y Gymraeg law yn llaw â gofal iechyd. Pob dymuniad da i Maisie gyda’r gwaith.”

Rhannu'r stori