Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded ar y traeth a logo Complete University Guide. Testun: Y Ddinas Fwyaf Diogel i Fyfyrwyr yng Nghymru (Complete University Guide 2023) | 6ed yn y DU o ran Diogelwch Myfyrwyr (Complete University Guide 2023)

Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ôl astudiaeth gan y Complete University Guide (CUG), sy'n ddibynadwy ac yn annibynnol.

Mae'r CUG wedi cyhoeddi ei dablau diogelwch rhag troseddu diweddaraf, gan ymchwilio i ddata sydd ar gael i'r cyhoedd i helpu myfyrwyr a rhieni i deimlo'n barod am y cam mawr o symud at ddibenion addysg uwch.

Mesurwyd pob tref neu ddinas â mwy na dwy brifysgol yn ôl tri chategori o droseddau – bwrgleriaeth ddomestig, lladrata eiddo personol a thrais sy'n achosi anaf i rywun – gan arwain at sgôr a safle cyffredinol.

Rhoddodd y canlyniadau ddarlun cadarnhaol o Abertawe, a restrwyd yn y chweched safle, sy'n golygu mai hi yw'r lle mwyaf diogel yng Nghymru a'i bod hi ymysg y 10 dinas fwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr.

Gall y rhai hynny sydd ar ei ffordd i Abertawe fwynhau cyfuniad gwych o'r profiad o fod mewn dinas a'r tawelwch meddwl o gael eu diogelu.

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) Prifysgol Abertawe: “Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n deall bod cymuned ddiogel yn sylfaenol i amgylchedd academaidd ffyniannus.

“Yn ddealladwy, mae rhieni a gofalwyr yn poeni am ddiogelwch eu plant pan fyddan nhw'n mynd i'r brifysgol, ac rydyn ni'n trin y mater hwn o ddifrif.

“Mae ein dinas yn cynnig profiad diogel a chroesawgar i fyfyrwyr, waeth beth am eu cefndir, ac mae'n wych gweld hyn yn cael ei amlygu'n swyddogol drwy'r astudiaeth hon.”

Meddai'r Athro Amanda Chetwynd, Cadeirydd Bwrdd Cynghori'r Complete University Guide: “Y Complete University Guide yw'r prif linyn mesur dibynadwy ac annibynnol ar gyfer barnu prifysgolion yn y DU, gan helpu myfyrwyr di-rif i ddewis y brifysgol a'r pynciau sy'n fwyaf addas iddyn nhw.

“Er eu bod yn bwysig iawn, dyw'r tablau cynghrair ddim yn cyfleu darlun cyflawn. Mae ein rhestrau diogelwch yn rhoi haen ychwanegol o wybodaeth i helpu myfyrwyr i wneud y dewisiadau cywir.”

Ychwanegodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect: “Mae cenhadaeth y Complete University Guide bob amser wedi canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i wneud y penderfyniadau cywir o ran eu dyfodol.

“Mae cyhoeddi'r ardaloedd sy'n fwyaf diogel i fyfyrwyr yn atgyfnerthu'r gwaith hwn ac yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i helpu myfyrwyr a'u teuluoedd i wneud y dewisiadau cywir iddyn nhw wrth benderfynu ar brifysgol.”

Gweler rhestr ledled y DU y CUG o'r ardaloedd mwyaf diogel.

Rhannu'r stori