Logo Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe â llun o Abertawe yn y cefndir.

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn falch o gyhoeddi lansiad ei gwefan newydd wedi’i chynllunio i fod yn hyb canolog i addysg oedolion yn yr ardal leol. Mae’r wefan hon yn rhestru ac yn cysylltu â’r amrywiaeth mawr o gyfleoedd addysgol sydd ar gael, a ddarparwyd gan gydymdrechion sefydliadau allweddol ym maes addysg oedolion.

Mae ALPS, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dod â sefydliadau blaenllaw ynghyd sy’n darparu addysg oedolion, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Addysg Oedolion Cymru, Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe, Coleg Gŵyr Abertawe, Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS), a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r bartneriaeth hon yn ceisio darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag anghenion a dyheadau’r gymuned, gan gynnwys ffocws ar gyrsiau y gellir eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fel partneriaeth, rydyn ni’n ymrwymo i ddarparu’r ystod fwyaf amrywiol o brofiadau dysgu i oedolion ledled Abertawe, gyda’r nod o roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol,” meddai Cadeirydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe a Phennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones.

“Bydd ein gwefan newydd yn rhoi mynediad i’r cyrsiau sy’n cael eu haddysgu a’r cymorth sydd ar gael ar draws ein holl bartneriaid, ac mae’n dystiolaeth bellach o’n hymrwymiad cadarn i weithio gyda’n gilydd."

Meddai Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru dros Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru: “Bydd y wefan yn ‘siop un stop’ i bawb yn Abertawe, a bydd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr addysgu a’r partneriaid unigol. Bydd dysgwyr yn gallu gweld, yn syth, ehangder y ddarpariaeth addysg oedolion sydd ar gael yn Abertawe – o Lefel Cyn-fynediad i Lefel 6 -  a gobeithio bydd yn ysbrydoli dysgwyr newydd i ymuno a chymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu.

“I’r rhai sydd am ail-gydio mewn addysg, ar ôl cyfnod i ffwrdd o astudiaethau efallai, bydd llawer o wybodaeth, cymorth a chyngor i’w gweld ar dudalennau’r wefan. Mae’r holl ddarparwyr addysgu yn edrych ymlaen at groesawu llu o ddysgwyr newydd trwy ryngweithio ac ymgysylltu â’r wefan.”

“Mae’n bleser mawr gan Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA) fod yn rhan o ddatblygiad y wefan newydd hon, a gwasanaethu cymunedau Abertawe a’r cyffiniau,” meddai Iestyn Llwyd, Pennaeth Dysgu DCABA.

“Bydd y platfform yn gallu ysbrydoli’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg i fod yn rhan o gymuned ddysgu fywiog y bartneriaeth trwy eu cyfeirio at amrywiaeth o gyrsiau lleol ac ar-lein ar lefelau gwahanol.”

"Mae Prifysgol Abertawe yn ymfalchïo’n fawr yn ein cydweithrediad â Phartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), ac rydyn ni wrth ein bodd o gydweithio i gyflwyno’r platfform ar-lein newydd hwn,” meddai’r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg ym Mhrifysgol Abertawe.

"Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn haws i oedolion, waeth beth yw eu cefndir, gael mynediad at yr amrywiaeth eang oi gyfleoedd sydd ar gael ar draws y ddinas, gan roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu nod, boed hynny yn fwy o hyder, astudiaeth bellach neu gyflogaeth."

Rhannu'r stori