Gwraig yn sefyll o flaen grŵp o bobl yn eistedd wrth ymyl bwrdd gwyn

Gall gwella dealltwriaeth gweithlu o strategaethau triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl leihau salwch staff yn sylweddol yn ogystal ag annog pobl i ofyn am gymorth, yn ôl ymchwil newydd.

Mae seicolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi datgelu bod gweithredu rhaglen ymyrraeth arbennig ymhlith grŵp o staff yn y DVLA wedi arwain at ostyngiad o 22 y cant mewn diwrnodau salwch a gofnodwyd. 

Mae anawsterau iechyd meddwl, megis straen, yn cyfrif am gyfran fawr o absenoldebau gwaith. Efallai y bydd nifer o bobl yn teimlo embaras neu gywilydd diangen ynghylch eu problemau iechyd meddwl ac felly naill ai ddim yn gofyn am gymorth neu'n dweud bod ganddyn nhw broblem iechyd corfforol yn lle hynny. 

Dyfeisiodd y tîm ymchwil raglen ymyrraeth yn y gweithle o'r enw Prevail i helpu pobl i ymdopi â'u problemau a lleihau stigma. Roedd y blaenoriaethau ar gyfer gwella yn gyflyrau cyffredin a brofwyd gan nifer - iselder, gorbryder, straen, a thrallod a achosir gan brofedigaeth, ysgariad, dyled, problemau tai neu faterion cyfeillgarwch. 

Yna cynhaliodd yr ymchwilwyr hap-brawf gyda rheolydd i werthuso effaith Prevail ar staff asiantaeth y llywodraeth yn Abertawe. Mae eu darganfyddiadau newydd eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn ar-lein o fri BMC Public Health

Yn hytrach na nodi staff a allai fod angen cymorth, bwriad Prevail yw rhoi hyfforddiant i bob gweithiwr ar ymyriadau seicolegol a thechnegau ymdopi y gallant eu defnyddio os ydyn nhw’n profi problemau iechyd meddwl eu hunain a hefyd sut y gallant adnabod a deall yn well a oes gan gydweithwyr, ffrindiau neu deulu broblemau. Drwy hyn, mae’r rhaglen hefyd yn mynd i’r afael â stigma diangen ynghylch iechyd meddwl. 

Rhannwyd staff y DVLA a rheolwyr a wnaeth gymryd rhan yn yr astudiaeth yn ddau grŵp - un yn cymryd rhan mewn sesiynau a ddarparwyd gan gydweithwyr a hyfforddwyd yn arbennig a oedd yn addysgu technegau seicolegol ar gyfer trin cyflyrau iechyd meddwl cyffredin a llythrennedd iechyd meddwl sylfaenol. Ni fynychodd y grŵp (rheoli) arall y sesiynau. 

Yn dilyn y treial, fe ddengys dansoddiad fod Prevail wedi cael derbyniad da a’i fod wedi lleihau’r stigma yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl. Hefyd, bu gostyngiad o tua 22 y cant yn nifer y diwrnodau salwch a gymerwyd yn y rhai a wnaeth gymryd rhan yn y rhaglen tra bu cynnydd yn nifer y diwrnodau salwch a gymerwyd gan y grŵp na chafodd yr hyfforddiant ymyrraeth. 

Meddai’r Athro Nicola Gray, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: “Mae problemau iechyd meddwl yn aml yn gudd ac felly'n gwaethygu dros amser heb ymyrraeth effeithiol. Mae Prevail yn dysgu technegau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ar gyfer trin a rheoli'r cyflyrau hyn.

"Mae hefyd yn anelu at leihau stigma trwy ddarparu tystiolaeth bod y problemau hyn yn gyffredin ac yn gallu digwydd i unrhyw un. Dylai pobl sy’n ei chael hi’n anodd chwilio am gymorth priodol, yn union fel petaent yn cael y ffliw neu wedi torri eu coes.” 

Meddai Pennaeth AD y DVLA Helen Davies: “Mae’r DVLA wedi ymrwymo i helpu ei weithlu i fod yn iach ac yn hapus. Mae ein buddsoddiad mewn datblygu rhaglen Prevail i helpu i hybu gwell iechyd meddwl yn ein gweithlu wedi bod yn werth chweil ac mae llawer o staff wedi gwneud sylwadau ar sut mae Prevail wedi eu helpu i oresgyn eu hanawsterau iechyd meddwl, a hyd yn oed eu cynorthwyo i helpu pobl eraill drwy ddysgu’r technegau maent wedi eu dysgu iddynt.”u 

Ychwanegodd yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd: “Rydym wrth ein bodd y dangoswyd bod Prevail yn effeithiol. Gobeithiwn y bydd sefydliadau eraill hefyd am gefnogi eu gweithlu ym maes iechyd meddwl, a’u cefnogi i ddysgu technegau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella gweithrediad emosiynol a llesiant meddwl.” 

Nawr mae'r tîm yn gobeithio y bydd yr ymchwil hwn yn helpu i hysbysu cyflogwyr mawr eraill ac y bydd yn cael effaith hirdymor ar sut maen nhw'n gofalu am eu staff ac yn eu cefnogi.

 

Rhannu'r stori