Symbolau Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar ôl hir ymaros, gan argoeli i fod yn daith wefreiddiol i fyd difyr gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Bydd Prifysgol Abertawe'n cyflwyno'r ŵyl eleni mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i cynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau ar y safle.

Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dechrau gyda'i phrif ddigwyddiad ar 28 a 29 Hydref, a bydd digwyddiadau Mwy o'r Ŵyl Wyddoniaeth yn dilyn o 31 Hydref tan 2 Tachwedd.

Bydd ymwelwyr o bob oedran yn gallu archwilio mwy na 30 o arddangosiadau, sioeau a gweithdai cyfareddol am ddim, gan rychwantu popeth o wyddoniaeth feunyddiol i fentrau arloesol o'r radd flaenaf.

Byddant yn gallu adeiladu eu batris a'u teganau eu hunain wedi'u pweru gan yr haul, ymgolli ym myd swynol dôl morwellt, darganfod sut roedd hen Eifftwyr yn mymïo eu meirw a rhyfeddu at fyd anhygoel cynrhon.

Yn ogystal â'r digwyddiadau am ddim, bydd 15 digwyddiad gwefreiddiol y gellir cadw lle arnynt, gan gynnwys sioe syfrdanol Swigod Enfawr, sesiwn gynhyrfus Gwyddoniaeth Beryglus a chyfle i fynd ar daith drwy'r rîff gwrel gyda Techniquest, ymysg llawer o bethau eraill.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi cadarnhau ei statws fel digwyddiad blynyddol hynod boblogaidd ar galendr Abertawe, gan ddenu mwy na 10,000 o ymwelwyr yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Er mwyn sicrhau na fyddant yn colli'r digwyddiadau y gellir cadw lle arnynt, anogir ymwelwyr â'r ŵyl i archebu eu tocynnau ymlaen llaw. Bydd gostyngiad gwerth 30 y cant ar gael pan fydd ymwelwyr yn cadw lle ar dri digwyddiad neu fwy.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe: “Ers 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i'r ddinas, un sy'n dod â'r gymuned ynghyd â'n hacademyddion a'n hymchwilwyr drwy gariad cyffredin at wyddoniaeth.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl i'r safle am brofiad sy'n sicr o fod yn fythgofiadwy i bawb sy'n bresennol.”

Porwch raglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ac archebwch eich tocynnau

Rhannu'r stori