Oluwaseun Ayodeji Osowobi

Mae Oluwaseun Ayodeji Osowobi, a raddiodd o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y Wobr Fyd-eang yn y categori Effaith Gymdeithasol yng ngwobrau uchel eu bri Study UK y British Council i gyn-fyfyrwyr eleni.

Mae'r wobr yn cydnabod graddedigion rhyngwladol o brifysgolion yn y DU sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol at greu newid cymdeithasol cadarnhaol a gwella bywydau pobl eraill, ac sydd wedi dangos ymrwymiad i hyn.

Mae Oluwaseun wedi derbyn y wobr am ei gwaith wrth hyrwyddo gorfodi offerynnau cyfreithiol i roi terfyn ar drais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn erbyn menywod a merched yn Nigeria, gan arwain mentrau addysgol sy'n eu galluogi i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb yn eu bywydau beunyddiol, gweithio gyda chymunedau i greu dulliau lleol o gyflawni cydraddoldeb rhywiol, a darparu gwasanaeth cymorth cyfannol i oroeswyr.

Mae gwaith anhygoel Oluwaseun yn ffilm ddogfen #SexforGrades y BBC a enwebwyd am Emmy ac a amlygodd aflonyddu rhywiol mewn sefydliadau trydyddol, a'i chyfraniad at ysgogi ffeministiaid ledled y cyfandir hefyd ymysg y rhesymau pam mae'n haeddu'r wobr hon.  

Drwy ei sefydliad, Stand to End Rape Initiative (STER), mae'n datblygu ac yn defnyddio rhaglenni effeithiol i herio rhwystrau cymdeithasol systemig sy'n hyrwyddo trais.

Ers cael ei ffurfio yn 2014, mae STER wedi grymuso 200,000 o ddinasyddion i fod yn fwy ymwybodol o'u hawliau i frwydro yn erbyn anghydraddoldebau a thrais yn eu bywydau beunyddiol.

Wrth drafod ystyr y wobr iddi, meddai Oluwaseun: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi derbyn y wobr hon. Mae hi wir yn dangos fy ymroddiad a fy ngwaith caled wrth gyfrannu at sicrhau hawliau dynol a meithrin cymdeithas deg i fenywod a merched.

“Yn bwysicaf oll, mae'n cydnabod ein gwaith yn STER, gan annog diwygiadau i bolisïau ac atebion cynaliadwy sy'n hyrwyddo Nodau Datblygu Cynaliadwy 3, 5 ac 16 y Cenhedloedd Unedig: Iechyd a Llesiant Da, Cydraddoldeb Rhywiol, a Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn.”

Roedd astudio ym Mhrifysgol Abertawe'n drobwynt i Oluwaseun, wrth i'w MA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ei galluogi i fireinio sgiliau o ran llunio polisïau, meddwl yn strategol a strategaethau eirioli.

Meddai Oluwaseun: “Mae fy amser yn Abertawe wedi bod yn hollbwysig wrth lywio fy nhaith. Gwnaeth fy nghwrs ledaenu fy nealltwriaeth o bŵer a thrais, gydag anghydraddoldeb wrth wraidd trais ac ennill pŵer.

“Rhoddodd amgylchedd academaidd eithriadol y brifysgol, ynghyd â'i phwyslais ar ddysgu ymarferol a chydweithredol, sylfaen gadarn i mi o ran gwybodaeth a sgiliau sy'n hynod berthnasol i fy ngwaith beunyddiol.

“Rwy'n ddiolchgar iawn am yr addysg a'r cymorth parhaus a dderbyniais i, gan fy ngalluogi i ragori yn fy ymdrechion proffesiynol a fy helpu i gyflawni newid cymdeithasol dwfn yn fy ngwlad.”

Mae Oluwaseun, a raddiodd yn 2012, yn bwriadu parhau i ddefnyddio ei sgiliau i hwyluso mentrau datblygu gallu sefydliadau cenedlaethol i roi polisïau ar waith, gweithredu rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chynyddu dylanwad STER.

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau bod y British Council wedi penderfynu cydnabod Oluwaseun yng ngwobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr.

“Mae'r wobr hon yn cadarnhau gwaith caled Oluwaseun a'i hymroddiad i addysgu am drais ar sail rhywedd a'i leihau.

“Mae hi hefyd yn enghraifft o effaith aruthrol addysg, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli llawer mwy o raddedigion yn y dyfodol.”

Bydd Oluwaseun yn ymuno â'r cyn-fyfyrwyr eraill sydd wedi ennill y Wobr Fyd-eang yn y DU am gyfle rhwydweithio proffesiynol ar ddechrau 2024.

Darllenwch fwy am daith anhygoel Oluwaseun.

Rhannu'r stori