Mae’r ymgyrchydd, actifydd a chymrawd Obama, Oluwaseun Ayodeji yn gweithio’n galed i addysgu am drais ar sail rhywedd a’i leihau, gyda’i menter Stand to End Rape.

Pam gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer eich gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol? 

Roedd gen i ddiddordeb mewn astudio cwrs gydag elfen o hawliau dynol a chydraddoldeb rhyw, tra hefyd yn ymchwilio i'r perthnasoedd economaidd a gwleidyddol rhwng gwledydd a'r llywodraeth a sut maent yn effeithio ar y ddau fater hynny. I ddechrau, roeddwn wedi penderfynu astudio Rheolaeth Ryngwladol gan ei fod yn rhannol yn cwmpasu fy ffocws, fodd bynnag, roedd y cwrs yn gyfyngedig o ran ei ymchwil ar hawliau dynol, ac felly dechreuais ymchwilio i amrywiol sefydliadau ledled y DU sy'n cynnig fy maes diddordeb penodol. Fe wnaeth fy asiant ar y pryd fy nghynghori i ystyried Prifysgol Abertawe gan siarad am fanteision astudio yn y sefydliad - gan gynnwys hyfforddiant fforddiadwy a gofal iechyd am ddim trwy'r GIG. Ar ôl edrych ar amryw o erthyglau a phostiadau am y sefydliad, roeddwn i'n gwybod fy mod wedi dod o hyd i’m cartref ar gyfer fy nyfodol. Ac yn sicr, roedd yr ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn un o'r manteision. :)

Beth yw eich hoff atgof o’ch cyfnod yn Abertawe?

Fy hoff atgof o fod yn Abertawe yw creu cymuned o ffrindiau a theulu o fewn yr ysgol a lleoliadau cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd gyda gweithgareddau’r Eglwys, cyfnodau astudio gyda myfyrwyr eraill yn y llyfrgell, neidio ar y bws i gyrraedd y gwaith gyda chydweithwyr. Fel myfyriwr Gradd Meistr, roeddwn yn awyddus nid yn unig i ennill profiad academaidd, ond hefyd profiad proffesiynol. Llwyddais i gael swydd yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ogystal â mewn sectorau gwaith ffurfiol eraill. Cyfrannodd rhai o'r swyddi hyn at hyd fy mhrofiad gwaith ac roedd yr arian a godwyd wedi fy nghynorthwyo i gychwyn fy sefydliad yn Nigeria.

"Herio stigma cymdeithasol a chredoau diwylliannol hynafol oedd un o'r heriau mwyaf wrth sefydlu Menter Stand to End Rape (STER)."

Ers graddio rydych wedi sefydlu Menter Stand to End Rape (STER) ac wedi bod yn codi llais ac ymgyrchu i roi diwedd ar drais ar sail rhywedd. Beth fu'ch her fwyaf wrth sefydlu'r elusen?

Roedd siarad am ddod â thrais rhywiol ac ar sail rhywedd i ben yn anodd iawn yn enwedig mewn lleoliadau crefyddol a diwylliannol. Herio stigma cymdeithasol a chredoau diwylliannol hynafol oedd un o'r heriau mwyaf wrth sefydlu Menter Stand to End Rape (STER). Dros amser, mae’r diwylliant o dawelwch wedi gorfodi mwyafrif o’r rhai sydd wedi goroesi trais i fyw mewn uffern, mewn poen bob dydd, weithiau gyda’r rhai sydd wedi eu camdrin, a gwylio'r drwgweithredwyr yn cerdded yn rhydd er mwyn "amddiffyn enw ac urddas y teulu" trwy gadw'n dawel. Roedd codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhyw a thrais rhywiol ac ar sail rhywedd fel ceisio datgymalu arferion a chredoau cymdeithasol sydd wedi'u cynnal ers canrifoedd. Yn hynny o beth, bu cymaint o wrthwynebiad i’r ymdrech i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd targed ynglŷn â’r angen i ddwysáu ymdrechion i atal trais rhywiol ac ar sail rhywedd -  trwy ddysgu’r egwyddor o ganiatâd i fechgyn a dynion er enghraifft. Roedd gwrthwynebiad hefyd pan gafodd y rhai a oedd wedi goroesi troseddau o'r fath eu hannog i godi llais er mwyn derbyn cefnogaeth ddigonol.

STER gwirfoddolwr yn ymgysylltu dynion ar atal trais rhywiol gwrywaidd ymateb iechyd meddwl yn Agboya-Ketu o'r LCDA Lagos.

Beth ’rydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono ers sefydlu STER?

Yr hyn rwyf fwyaf balch ohono ers sefydlu Menter STER yw’r llawenydd yn wynebau'r goroeswyr rydyn ni wedi gweithio gyda nhw. Mae yna ymdeimlad cynhenid o gyflawniad pan fydd y sefydliad yn tynnu dioddefwr o sefyllfa o gamdriniaeth a misoedd / blynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r goroeswr yn ddiogel ac yn byw bywyd y maen nhw’n wirioneddol yn ei fwynhau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r goroeswyr rydyn ni'n eu cefnogi, fel modd o dalu yn ôl, yn ymuno â STER fel gwirfoddolwr neu staff i wthio mandad y sefydliad ymhellach. Dyna un o'r teimladau mwyaf arbennig y gallai unrhyw sylfaenydd ei gael erioed.

Rydych chi wedi cael eich anrhydeddu fel Person Ifanc y Flwyddyn y Gymanwlad ac fel Arweinydd Newydd Sefydliad Obama. Sut mae'n teimlo i weld eich gwaith yn cael ei gydnabod mewn modd mor amlwg?

Mae'n teimlo'n wych i gael fy anrhydeddu fel #TIMENEXT100, Person Ifanc y Flwyddyn y Gymanwlad 2019 ac Arweinydd Sefydliad Obama yn Affrica ymhlith pethau eraill. Mae'r rhain yn blatfformau hynod amlwg ac mae cael fy nghydnabod am waith STER yn brawf o'r effaith y mae'r sefydliad yn ei chael nid yn unig yn Nigeria ond ledled y byd. Mae hyn hefyd yn fath o anogaeth inni ddwysáu ein hymdrechion ac mae’n ysbrydoli pobl ifanc eraill i fod yn asiantau newid. Serch hynny, gyda'r gydnabyddiaeth daw cyfrifoldeb atebolrwydd cyhoeddus, arweinyddiaeth i'r gymuned a chynhaliaeth y weledigaeth.

Oluwaseun Osowobi gyda'i gwobr person ifanc y flwyddyn y Gymanwlad.

Pwy yw'r person enwocaf i chi gwrdd â nhw yn y seremonïau gwobrwyo hyn?

Rwyf wedi cyfarfod â'r cyn-Arlywydd Barrack Obama yng nghyfarfod Arweinwyr Sefydliad Obama yn Affrica a oedd yn ymgynnull yn Johannesburg, De Affrica ac roeddwn i’n meddwl “O Mam Bach! Mae Barrack Obama yma reit o’m blaen!” Roedd hi fel yr eiliad honno pan fydd eich ffrind enwog yn cerdded i mewn i’r ‘stafell ac rydych chi am sgrechian "Ydy, mae’n ffrind i fi! Rwy'n ei hadnabod!” Lol! Roedd yn foment swreal imi fod yn sefyll wrth ymyl asiant newid mor fyd-enwog. Fe wnes i wir fwynhau'r brif anerchiad a rannodd yn ystod un o'r sesiynau.

Ydych chi'n dal i fod mewn cysylltiad ag unrhyw un o'ch ffrindiau yn Abertawe?

Fe wnes i gadw mewn cysylltiad â chwpl o ffrindiau ’nes i yn Abertawe yn enwedig Temi Coker oedd yn rhannu tŷ a mi, sydd wedi dod yn debycach i chwaer nawr. Blodeuodd ein cyfeillgarwch i fod yn berthynas sydd wedi esgor ar gyfleoedd ymhlith pethau eraill. Rwyf hefyd yn ffrindiau da â nifer o bobl eraill ’nes i gwrdd â nhw yn Abertawe p'un ai yn fyfyrwyr, staff y sefydliadau fel Beverly Evans o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau neu’n aelodau o gymunedau cymdeithasol yr oeddwn yn ymwneud â nhw.

Hyd yn hyn rydych chi wedi helpu dros 200,000 o fenywod trwy STER. Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer yr elusen?

Ydy, mae STER wedi rhoi gwybodaeth i dros 200,000 o bobl ac wedi cyrraedd tua 350 o ferched, merched a bechgyn â gwasanaeth uniongyrchol. Fel sefydliad, edrychwn ymlaen at ddiwrnod lle mae trais rhywiol ac ar sail rhywedd yn dod yn rhan o'n hanes yn hytrach nag yn rhan o'n bywydau bob dydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio ehangu ein gwasanaethau ar draws y gwahanol Wladwriaethau yn Nigeria i'n galluogi i gyrraedd mwy o bobl a threialu rhaglenni arloesol a ddatblygwyd ar gyfer y blynyddoedd 2020 - 2025. Bydd angen cyllid ar gyfer hyn. Yn y tymor hir, ein huchelgais yw troi'n sefydliad eirioli byd-eang sy'n arwain mentrau eiriolaeth polisi ac yn cynghori Llywodraethau mewn rhaglenni atal ac ymateb i drais rhywiol ac ar sail rhywedd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth unrhyw un sy'n ystyried dod i Abertawe i astudio?

Os ydych chi'n ystyried dod i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Israddedig, Ôl-raddedig neu PhD, yna gallaf ddweud eich bod yn gwneud penderfyniadau da mewn bywyd. Mae'r sefydliad academaidd yn hynod fforddiadwy, mae'r dechneg addysgu yn wych ac rydych chi'n cael profiad academaidd amhrisiadwy wedi'i deilwra ar gyfer datblygu eich gyrfa. Fel cyn-fyfyriwr i'r sefydliad, gallaf ddweud wrthych gyda sicrwydd nad yw'r berthynas yn dod i ben o fewn pedair wal Prifysgol Abertawe ‘chwaith. Mae yna weithred fwriadol i barhau i'ch cefnogi ar ôl eich astudiaethau academaidd, yn union fel fy mhrofiad i. Onid yw hynny'n rheswm da i astudio yn Abertawe?